Oes 'na rywun yn gwybod am le campio bach da, m'rhy bell o draeth, neu afon, neu nant fach groyw loyw, sy' hefyd o fewn tafliad carreg i dy^ potas Cymreig ei naws?
Wedi trio ryw lefydd campio yn Cilan (dw i'n meddwl) wrth ymyl Abersoch ffor'na, a Chapel Curig, ond y'ch chi'n gwybod am le da ym Mhen Lly^n neu Fôn neu Wynedd gyfan, sy' a thy^ tafarn llawn Cymry (neu dramorwyr, yn Ffrancwyr, Eidalwyr, Gwyddelod...!) o fewn pellter cerdded?
Diolch.