Tudalen 1 o 3

Ble ma Brest Pen Coed?!

PostioPostiwyd: Iau 12 Awst 2004 2:04 pm
gan Barrar
Ok, ma hwn yn fy ngyrru ong ngho!!

Fi moyn mynd am dro i Frest Pen Coed!! Ble ma'r lle? Ydy'r lle'n bodoli? Dywedodd rhywun wrthai mai dim ond drwy smocio'r hen fwg drwg mae modd cyrraedd yno. Fi rili moyn bod mor hapus ag y bum i erioed!! Methu cysgu heb freuddwydio am y lle hudol yma. Plis Help!!!

PostioPostiwyd: Iau 12 Awst 2004 2:07 pm
gan Geraint Edwards
Mae na "Frest" yn Llydaw, ac mae na "Pen Coed" tu allan i Benybont ar Ogwr. Ond wn i ddim lle mae "Brest Pen Coed". Ti di fy nal i fan'na. :? :?:

PostioPostiwyd: Iau 12 Awst 2004 3:52 pm
gan Gruff Goch
Dwi'n siwr bod Owain Llwyd yn gwybod... (methu ffeindio'r edefyn chwaith :( )

PostioPostiwyd: Iau 12 Awst 2004 3:57 pm
gan Gruff Goch
Aha! (Gyda lwc, gan ei bod hi bron yn 5:00pm, fydd Owain ar ormod o frys i adael y gwaith i fy nhrywanu i efo'i ymbarel)

PostioPostiwyd: Iau 12 Awst 2004 4:08 pm
gan Ramirez
...awn am dro i frest pen wy, awn am dro i frest pen wy...

sori

PostioPostiwyd: Gwe 13 Awst 2004 11:52 am
gan Barrar
Swn i wrth fy modd yn mynd am dro i frest Pen Wy. :P Ond seriously nawr, oes na'r fath le i gael? (Brest Pen Coed hynny yw, sdim amheuaeth gen i am Frest Pen Wy!!)

PostioPostiwyd: Gwe 13 Awst 2004 12:02 pm
gan Ramirez
Barrar a ddywedodd:sdim amheuaeth gen i am Frest Pen Wy!!


:lol: :lol:

PostioPostiwyd: Gwe 13 Awst 2004 10:36 pm
gan methu meddwl
tro ir chwith yn llanbidinodyn, nedim methu fo

PostioPostiwyd: Gwe 13 Awst 2004 10:41 pm
gan Hogyn o Rachub
Efallai wir, ond dylid nodi i gyrraedd Llanbidinodyn, yn ôl y sôn, ti'n troi i'r chwith 'rôl y bont.

PostioPostiwyd: Gwe 13 Awst 2004 11:36 pm
gan garynysmon
Barrar a ddywedodd:Swn i wrth fy modd yn mynd am dro i frest Pen Wy. :P


Ti fewn yn fanna Ramirez. 8)

Dwi'n anmau na rhyw air stiwpid sydd di cael ei wneud i fynnu ydio (wrth gwrs 'llu). Mae'r Goeden Ffati Dew yng nganol Brest-pen-coed oddwn i'n clwad. :winc: