gan Mr Gasyth » Mer 18 Awst 2004 12:47 pm
Wel, be tisho gwbdod?
Ma Brwsel yn le da i fynd allan, dos i Place StGery, Ixelles ond nid y Grand Place (drud). Os tisho enwau llefyd pendol i yfed a bwyta, gad fi wbod. O ran llefydd i weld, dim cystal, nid y ddinas hardda'n y byd ag eithrio'r Grand Place sydd yn anhygoel. Dos i weld y Manikken Pis, cerflun o hogyn bach yn piso sy'n cael ei wisgo mewn dillad gwahanol bob dydd. Senedd Ewrop yn werth ei weld, a ma'r gaderilan yn olreit. Fel arall, jest cerdda rownd, ma'n lle diddorol os ddim yn hardd a mi ddoi di ar draw bob math o lefydd bach diddorol a gwahanol.
Brugge - Fenis y gogledd, hardd iawn, er bach yn boring ella
Antwerp, eto lle da i fynd allan a gwell na Brswel i siopa yn ol y merched. Red Light district da hefyd, er yn fwy seedy nag un Amsterdam.
Yr Ardennes ydi'r ardal o fryniau a choedwigoedd yn y de. Lle da am weithagreddoedd awyr agored, canwio, cerdded ac ati. Ond tra bo'r Belgiaid yn meddwl ei fod o'n fynydd-dir, mae o'n debyg iawn i rannau mawr o Gymru tu allan i Eryri.
Liege - scary, paid mynd yno. llawn nytars a bobl od. dwi'm rili isho siarad am y lle.
Ypres - lle neis a diddorol, lot o fynwentydd, y Menin Gate yn effeithiol tu hwnt, amgueddfa dda a ma na lyfr am Hedd Wyn yn y ganolfan dwristaidd sy'n deud wrthat ti lle ma'i fedd o. Os ti'n mynd yno (bedd Hedd Wyn0 gna'n siwr ti'm yn methu'r bys ola'n ol i Ypres fel nes i.
Lle bynnag wyt ti'n mynd, yfa gwrw Belgaidd a byta steak a chips. Siarad Ffrangeg efo bobl yn Wallonia ac Iseldireg (neu Saesneg) yn Fflandrys - paid siarad Ffrangeg efo nhw, wnawn nhw mo dy ateb!
Teithia ar y trenau. ma ne del dda i'w chael o 10 tocyn sengl i unrhywle yn y wlad am bris rhesymol iawn.