Wien

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Wien

Postiogan Glewlwyd Gafaelfawr » Gwe 27 Awst 2004 12:32 pm

Dwi'n mynd i Fienna ym mis Mawrth i weld Cymru'n chwarae.
Dwi'n bwriadu aros am 4 noson, felly a all rhywun sydd wedi bod yno o'r blaen awgrymu beth y dylwn fynd i'w weld tra fy mod yno? (Ar wahan i ymweld â'r Olwyn Fferis enwog o'r Third Man)

Oes rhywun yn gwybod pa fath o agwedd sydd gan y bobl leol (Yn enwedig yr heddlu) tuag at reu?
Maes-e.com-
Gwefan sy'n lleihau'r gofod
Bydd Cymru'n rhydd yn ei rhod

http://www.storz-bickel.com
Rhithffurf defnyddiwr
Glewlwyd Gafaelfawr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 813
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 3:26 pm
Lleoliad: Caerffili

Postiogan Jeni Wine » Gwe 27 Awst 2004 12:57 pm

O'n i ond yn Fiena am ddiwrnod tra oeddan ni ar ein trip o amgylch Ewrop (lle aru ni dreulio hannar yr amsar yn y brutish embassy a'r orsaf drennau) ond mi gesh i gyfla i fynd i weld yr adeilad na sy efo ferrero rocher mawr aur ar y top. Dwi ddim yn cofio enw'r lle, ond mi oedd o eitha impresif ac yn llawn o luniau Klimt (dwi wrth fy modd efo llunia Klimt).

Hefyd de, tria fynd i weld yr Hundertwasser (neu rwbath fela) sef lot o adeilada lliwgar wedi eu pentyrru efo'i gilydd.

A dim ots pa mor pissed wyt ti, paid â nofio'n y Danube fatha nesh i a wedyn methu'r tren ola nol i'r hostal a goro cysgu ar fainc mewn parc yn rhynnu nhits i off mewn dillad socian. :rolio:

Wnim am reu de, ond dwi'n gwbod bod y lle yn ffwc o ddrud ar y cyfan. Ma'r bobol yn gallu bod yn eitha di-ddeud a ma nhw'n gwgu lot - ond mae'n siwr fod darllan un o lyfra Primo Levi yn gyhoeddus ddim yn syniad da iawn.
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Postiogan Nick Urse » Sul 29 Awst 2004 1:11 am

Ma' gin Angharad Price erthygl/ysgrif ddiddorol iawn am Fienna yn y gyfrol o ysgrifau taith 'Y Teithiwr Talog 1' neu 'Y Teithiwr Talog 2' gan Wasg Carreg Gwalch.
Ara deg a fesul dipin ma' stwffio bys i din gwybedyn
Rhithffurf defnyddiwr
Nick Urse
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 78
Ymunwyd: Sul 21 Medi 2003 8:00 pm


Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron