Dim llawer o awydd siopa yn y glaw yn Vancouver ddydd Sadwrn diwethaf, felly ffwrdd a ni i'r atyniad mwyaf diweddaraf yno ar gyfer ymwelwyr, sef 'Storyeum' . Mae'r amgueddfa fyw yma wedi ei leoli o dan Gastown . Profiad newydd iawn i mi oedd mynd i mewn i lifft enfawr crwn efo tua cant o bobl - a tydi'r profiad yma yn bendant ddim ar gyfer unrhyw un efo 'claustrophobia'.
'Roedd y sioe yn ein harwain drwy hanes British Columbia gan actorion a oedd yn chwarae rhan cymeriadau pwysig yn hanes BC.
Diddorol iawn , a dipyn gwahanol i'r amgueddfa traddodiadol dwi'n gofio.
Dyma'r wefan:
http://www.storyeum.com
Mali.