Tudalen 1 o 1

CUBA

PostioPostiwyd: Maw 31 Awst 2004 11:03 am
gan evans
Sdigwydd, dwi'n mynd iu Ciwba bore sadwrn ar fy ngwyliau!!!

Sgrilliant, dwi wedi cynhyrfu'n lan.

Unrhywun yma efo tips am lefydd i fynd a pethe i weld?

Hwreeeeeeeeeeeeeeeeeeeee :!: :!: :!:

PostioPostiwyd: Maw 31 Awst 2004 11:08 am
gan Lletwad Manaw [gynt]
Trinidad ar arfordir y de yn le da. Yn enwedig y traeth tu allan i'r Hotel Ancon. Siwpyrb!!!!!!!

PostioPostiwyd: Maw 31 Awst 2004 11:28 am
gan Griff-Waunfach
Oh na un lle dwy rili rili rili ishe mynd yw Cuba! Dwed hello i Fidel wrthai! Bay of Pigs bydden i yn mynd! Ond a yw hi'n restricted? Oh cer i Guantanamo a rho slap i'r iancs yno!! :lol:

PostioPostiwyd: Maw 31 Awst 2004 11:39 am
gan Mr Groovy
Lletwad Manaw a ddywedodd:Trinidad ar arfordir y de yn le da. Yn enwedig y traeth tu allan i'r Hotel Ancon. Siwpyrb!!!!!!!


Dwi di aros yn fanna hefyd! Ma'r traeth yna'n biwt, ond eshi i sgini-dipio heb sylweddoli fod na sgwba-deifars oddi tana i :wps:
Ma Trinidad yn lle lyyysh, ond naethon ni ddigwydd mynd i siop lle ma'r bobl leol yn mynd i nol eu rations bwyd wythnosol, agoriad llygad. :ofn:

I le ti'n meddwl mynd Evans? Am ba mor hir? Gyda pwy? (wps,sori busnesa)
Y peth gore am Havana yw jyst crwydro'r strydoedd yn siarad efo bobl (ond gwylia dy waled) Nei di ffeindio fod bobl yn awyddus i siarad efo ti i gael clywed am lle ti'n dod (well ti beidio son am Prestatyn falle?!) Gan bo nhw ddim yn cael gadael y wlad ma nhw'n rhyfeddu fod bobl di bod i lefydd ma nhw di clywed neu ddarllen amdano, ac ishe gwybod bob manylyn am bobman.

Ma'r sgwar yn y canol wastad yn ferw gwyllt o bobl yn trafod baseball, sy'n entertaining iawn.

Es i i ddeifio yn y Bay Of Pigs, felly dwi'm yn meddwl fod e'n restricted, ond ma'r diffyg Americanwyr yn reswm arall pam fod hi'n wlad wych.

Tria beidio mynd i Varadero - waeth i ti fynd i'r un Costas.
Yfa lot o mojitos, dawnsia lot o salsa a cer i dynnu dy lun efo Che yn Sgwar y Chwyldro.

JELYS. :crio:

PostioPostiwyd: Maw 31 Awst 2004 2:54 pm
gan evans
:D :D :D :D

Mynd yno ar ben fy hun am bythefnos!

Glanio yn Havana am 5 nos sadwrn ond ddim yn gwbod lle dwi am aros,
wedi pederfynu fydd hi'n well antur os dwin neud popeth off the cuff!

Unrhyw awgrymiadau o rhan llety? (dwi di clywed son bo chi'n gallu aros yn nhai teuluoedd lleol a cael brecwast a swper efo'r teulu?)

Plis peidiwch son am Prestatyn, wir yr, da chi ddim yn deall beth odd e fel. ma neb yn deall... :( :winc: :winc:

Lot o bobol yn son ddyslai fynd i ddeifio, hwnna'n sicr ar top y list. mynd i guantanamo efo ffence cutters a rhyddhau pawb sydd yno wedyn dwi'n meddwl.

Wedi clywed bod y ceir yno i gyd yn rhai amercan or 50au ar 60au a bod rhain ar gael i rhentu - dwi'n mynd i llewni car llawn or merched hyfryd lleol a ail greu'r fideo Windowlicker, fydd hi ar Bandit ymhen pythefnos! :!:

Dwi'n gwylio DVD Buena Vista Social club fi bob nos cyn gadel ag yn mynd i wrando ar y CD ar Repeat ar y ffordd yno.
8)

PostioPostiwyd: Maw 31 Awst 2004 4:08 pm
gan Mr Groovy
evans a ddywedodd: Unrhyw awgrymiadau o rhan llety? (dwi di clywed son bo chi'n gallu aros yn nhai teuluoedd lleol a cael brecwast a swper efo'r teulu?)


Ges i lot o bobl yn dod atai yn Havana'n cynnig lle fel hyn i aros, ond dwi'm yn siwr pa mor saff yw e? Iawn os tishe byw on ddi edj.
Ond beth am bwcio'r noson neu ddwy gynta mewn gwesty i gael dy ben o gwmpas y lle a wedyn gweld lle ei di o fanna?

Nes i aros am chydig yn yr Inglaterra yn edrych allan dros Parque Central - lleoliad ffandabidosi. Un o westai mwya'r dre, ac yn weddol ddrud o be dwi'n gofio, ond lot mwy authentic na'r rhan fwya o'r gwestai mawr.
Odd hi fel aros yn Cuba'r 50s - crand yn y ffordd faded, bler yna ma Cuba'n neud mor dda.

PostioPostiwyd: Sad 16 Hyd 2004 10:07 pm
gan Resbiradaeth Jonas
cer i gael paned a sigar efo Castro

PostioPostiwyd: Sad 16 Hyd 2004 10:40 pm
gan Daffyd
evans a ddywedodd:Dwi'n gwylio DVD Buena Vista Social club fi bob nos cyn gadel ag yn mynd i wrando ar y CD ar Repeat ar y ffordd yno.
8)

Dwi di sbio ar y DVD yna sawl gwaith a mae o yn wych. Hyd yn oed oes tydi cerddoriaeth Cuban ddim at eich/dy ddant. Mae ei diwylliant yn ffordd o fyw sydd wir yn fy nenu. Like a bee to the flower.