Cytuno a'r hyn a nodwyd uchod hefyd.
Pan yn 18 bues i'n byw yn Israel - mynd draw wrth fy hun ond neud lot o ffrindie a theithio gyda ffrind am 3 wythnos yn yr Aifft a Jeriwsalem, odd yn gret ond pethe bach yn mynd ar fy nerfau amdano wrth i'r siwrne fynd mlaen.
Teithio wedyn am fis a ffrind da yn nwyrain Ewrop odd yn gret, achos wrth gwrs o'n ni'n nabod ein gilydd yn dda, fe gwympo'n ni mas unwaith, ond fydden i ddim wedi gallu ei wneud hebddi.
Teithio wedyn ar fy mhen fy hun yn Asia pan yn hyn gyda mwy o brofiad, ac odd hwnnw hefyd yn anhygoel - cwrdd a lot mwy o bobol, ti'n ei theimlo'n haws i siarad ag eraill, ac eraill yn dy weld di yn fwy
approachable. Ti'n dilyn dy drwyn dy hunan, dim cwympo mas ayb ond yn gallu mynd yn unig ar adegau - fe es i drwy llwyth o lyfrau darllen!
Cachu hwch, be' fi'n dda yng Nghaerfyrddin...?
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.