He he. On i methu gwynebu'r hunllef o eistedd ar awyren yn gwbod bod posibilrwydd cal fy hala nôl. Felly, es i Gasnewydd ar y tren yn gynnar dy Gwener (apwyntiad am 9, codi am 9:05 - cachfa). Odd e'n hawdd pawdd a gweud y gwir - co ni fy mhasport ffwcedig a fy lluniau. 'Plîs wêt ffôr awyrs', mi nes i a, hwre!, pasbort. Dau beth i nodi:
1) Odd da'r fenyw nath syrfo fi farf, un go iawn dim rhyw wisps bach ond un ffwli fflejd...odd hi'n edrych fel Gwahanglwyf dros Grist! Ys dywedodd un o'r bobl leol: 'Has ew seen such a beard on a bird beefor?' 'No' medde finne, gan gelu'r gwir am fy nghariad cyntaf.
2) Wedodd Mrs Barf y byddai'n cal trwbwl cal pasbort arall os gollai hwn - BE!?
Diwedd hapus: ges i fynd ar wylie...ond o ganlyniad dwi'n byw ar £50 tan ddiwedd y mis...tales i £90 am y ffecin pasbort a nawr ma nhw am neud rhai cymrag blwyddyn nesaf!!!