Tudalen 1 o 1

Pasbort

PostioPostiwyd: Maw 21 Medi 2004 3:34 pm
gan Ray Diota
Dwi'n hedfan i Mallorca dydd Gwener a wedi rhoi fy mhasbort yn y golch :ofn: Ffyc, cynt, pidyn. :( Ma'r dudalen efo fy manylion yn iawn de, ond ma'r clawr a'r tudalenne erill yn amlwg wedi cal socad a wy newydd ffonio'r pasbort agency a ma'r ffycyrs yn gweud 'no we wil iw bi alowd tw trafyl'. Be chi'n recno bobol? :crio:

PostioPostiwyd: Maw 21 Medi 2004 3:42 pm
gan Gwen
Hmm. Os nad oes na rwbath arall y medri di neud, ti'm gwaeth na'i thrio hi ella. Nath na neb ofn am weld fy mhasbort i pan esh i i Mallorca fis Chwefror dwytha.

PostioPostiwyd: Maw 21 Medi 2004 3:50 pm
gan joni
Dylie ti fod yn iawn. Pan o'n i yn Serbia, nath rhyw foi neidio fewn i'r Danube heb gofio fod ei basbort yn ei boced. O'dd y pasbort yn reit ffycd ond dwi'n credu nath e gyrraedd adre...

PostioPostiwyd: Maw 21 Medi 2004 9:15 pm
gan lleufer
Jesd dos i 'chec un' yn wlyb i gyd a deud bod rhyw ddiawl newydd rhoi trochiad i ti yn y ty bach :winc:

Ond o ddifrif os di'r dudalen gyda dy wybodaeth di arno yn iawn, ddylet fod yn oce.

PostioPostiwyd: Maw 21 Medi 2004 9:19 pm
gan eusebio
Gafodd John Hartson drafferth am bod ei basport o'n ffycd yn do?

PostioPostiwyd: Maw 12 Hyd 2004 2:30 pm
gan eusebio
Be ddigwyddodd yn y diwedd, Ray?

PostioPostiwyd: Maw 12 Hyd 2004 3:09 pm
gan Ray Diota
He he. On i methu gwynebu'r hunllef o eistedd ar awyren yn gwbod bod posibilrwydd cal fy hala nôl. Felly, es i Gasnewydd ar y tren yn gynnar dy Gwener (apwyntiad am 9, codi am 9:05 - cachfa). Odd e'n hawdd pawdd a gweud y gwir - co ni fy mhasport ffwcedig a fy lluniau. 'Plîs wêt ffôr awyrs', mi nes i a, hwre!, pasbort. Dau beth i nodi:
1) Odd da'r fenyw nath syrfo fi farf, un go iawn dim rhyw wisps bach ond un ffwli fflejd...odd hi'n edrych fel Gwahanglwyf dros Grist! Ys dywedodd un o'r bobl leol: 'Has ew seen such a beard on a bird beefor?' 'No' medde finne, gan gelu'r gwir am fy nghariad cyntaf.
2) Wedodd Mrs Barf y byddai'n cal trwbwl cal pasbort arall os gollai hwn - BE!?

Diwedd hapus: ges i fynd ar wylie...ond o ganlyniad dwi'n byw ar £50 tan ddiwedd y mis...tales i £90 am y ffecin pasbort a nawr ma nhw am neud rhai cymrag blwyddyn nesaf!!! :drwg: