Dwi di byw yng nghefn gwlad, trefi a dinaseodd. Yn aml dwi'n myfyrio am pa un sy well gennai fyw ynddi, a lle dwi isho byw yn y dyfodol.
Mae'r wlad mor dawel a phrydferth, dwi'n hapus yno am dipyn ac yn teimlo fel person newydd. Gall fod yn unig, ac ar ol rhaid dyddiau dwi'n dechrau ysu am cyffro y dre/ddinas.
Mae'r ddinas llawn o rhyfeddodau, a pobl newydd i ddod i nabod, a digwyddiadau diwylliannol, chwaraeon, gigs ayb ayb. Ond eto mae'n deilmad annifyr fod mor bell o natur, o fynyddoedd, o'r mor ac o dawelwch. Ac hefyd, dim ond canran fach o'ch ffrinidau da chi'n gweld yn rheolaidd, gan ddiwedd fyny styc yn ty am lawer o'r amser.
Mae y dref fel y canol rhwng y ddau, yn digon agos i'r wlad, ond efo digon ym mynd mlaen yn y dref. Eto, hawdd yw diflasu gyda gwneud yr un pethua bob wythnos, ond eto haws yw teimlo fel rhan o gymuned, a gweld yr un pobl yn aml.
Ma gennai ddiddordeb mawr glywed meddyliau a phrofiadau pobl eraill ar y mater.