Tudalen 1 o 2

Ffordd orau o gyrraedd Paris?

PostioPostiwyd: Llun 11 Hyd 2004 10:51 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Ar ol cael laff a hanner ddwy flynedd yn ol draw yn Nulyn yn gwylio Cymru (er gwaetha'r sgor... drychwch ar y pac 'na! :ofn:), mae awydd 'da fi i fynd i Baris i weld y bois yn cael yr un fath o grasfa 'to. :rolio:

Oes syniad gan unrhyw un ynglyn â'r ffordd rataf o fynd o Gaerdydd i Baris? Mae flights ar gael am gant a hanner, ond byddai'n rhaid mynd drwy Amsterdam, sy'n dipyn o strach. Fferi wedyn y TGV? Eurostar? Unrhyw brofiad gan unrhyw un arall o'r daith?

PostioPostiwyd: Llun 11 Hyd 2004 11:04 am
gan Geraint
Rhedeg!

PostioPostiwyd: Iau 21 Hyd 2004 10:15 am
gan lleufer
Di teithio gyda Eurostar dosbarth cyntaf i Baris (gyda gwaith) - roedd yn fendigedig o foethus a braf cael gweld y golygfeydd. 8)
Di teithio gyda bws i Baris (gydag ysgol) - roedd yn hir a chwyslyd ac anghyfforddus, ond fe wnes i gyrraedd! :x
Di teithio gydag awyren i Baris o Manceinion (ar wyliau) - roedd yn sydyn, eithaf rhad ac effeithlon. :winc:

PostioPostiwyd: Iau 21 Hyd 2004 10:18 am
gan Mihangel Macintosh
Os oes gen ti gar neu ti'n nabod rhywun all fenthyg un i ti, elli di yrru 'na yn eitha hawdd. Fferi o Dofyr i Calais. Diw e ddim yn bell iawn.

PostioPostiwyd: Iau 21 Hyd 2004 10:19 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
lleufer a ddywedodd:Di teithio gyda Eurostar dosbarth cyntaf i Baris (gyda gwaith) - roedd yn fendigedig o foethus a braf cael gweld y golygfeydd. 8)


Eurostar yw'r dewis cyntaf ar hyn o bryd. Unrhyw syniad faint fyddai'n costio tua diwedd mis Chwefror? Dyw'r wefan ddim yn rhoi cwot am y cyfnod hwnnw ar hyn o bryd - rhaid aros rhyw fis arall.

(sori am y cwestiwn hynod benodol...)

PostioPostiwyd: Iau 21 Hyd 2004 10:27 am
gan joni
Fydd unrhyw ffleit o Gaerdydd yn costio ffortiwn nawr gan taw o fan'na fydd pawb ishe mynd. Os elli di fod yn bothered i fynd i Birmingham (neu Briste efallai) i hedfan, ma siwr gei di bris rhatach. Wrth gwrs, os wyt ti wedi penderfynu mynd ar y SerenEwro, yna ma hwn braidd yn academic...

PostioPostiwyd: Iau 21 Hyd 2004 10:27 am
gan lleufer

PostioPostiwyd: Iau 21 Hyd 2004 10:28 am
gan Ray Diota
Eurostar yn reit dda blaw am y drafferth o stryffaglu rownd Llundain. Falle bydde hi'n syniad edrych am awyren i Orleans/Tours a chal tren yn ffrainc (trene ffrainc yn rhatach o lawer na'n rhai ni) - ma'r 2 le yma o fewn rhy 2awr o Baris ar dren uniongyrchol.

Dwi'n meddwl mynd fy hun, gad fi wbod be ti'n penderfynnu, nei di? Beth yw dyddiad y gêm?

PostioPostiwyd: Iau 21 Hyd 2004 10:30 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Ray Diota a ddywedodd:Dwi'n meddwl mynd fy hun, gad fi wbod be ti'n penderfynnu, nei di? Beth yw dyddiad y gêm?


26 Chwefror, sef y dydd Sadwrn (nid y dydd Sul, diolch i Dduw). Dilyn yr egg-chasers, Ray? Beth sydd ar dy ben di, boi bach? :winc:

Mae awyren ar gael o Luton am bris rhad iawn, ond bolycs i fynd lan i Luton... Diolch am y wybodaeth, Lleufer. :D

PostioPostiwyd: Iau 21 Hyd 2004 10:34 am
gan joni
£86 birmingham i paris (CDG) - dydd gwener i ddydd Llun gyda BA.