Es i allan i Lesotho yn yr Haf gyda pump disgybl arall o'r ysgol, dau gynrychiolydd o'r Urdd ac un o Dolen Cymru. Roedden ni'n gwneud gwaith gwirfoddol mewn pentref bach anghysbell yn codi... toiledau! Gwaith caled ond o'dd e'n werth e. Joies i mas draw ac ro'dd e'n brofiad nath wneud i mi feddwl yn fwy ambiti'r pethe ni'n 'u cymryd yn ganiataol. O'm mhrofiad i, roedd y mwyafrif yn siarad rhywfath o Saesneg gyda nifer helaeth o'r ieuenctid yn ei siarad yn dda. Maen nhw'n bobl croesawgar iawn ac yn trin pob dyn gwyn fel duw. Roedden nhw'n teimlo 'ngwallt i ac yn chwythu blew 'mreichie i'w gweld nhw'n codi ac yn disgyn. Ar diwedd y daith, pan ffarweliom ni a'r pentref, roedd gweld eu gwerthfawrogiad am roddion bach fel pensiliau neu bel-droed yn ysgytwol. Ymwelom ni a Maseru, y brifddinas hefyd ac roedd hynny'n hwyl. Hefyd, aethom ni i mewn i fynydd-dir anghysbell Lesotho - sy'n 'must-see' oherwydd y golygfeydd trawiadol a'r ffordd syml a chaled y mae'r bobl yn byw. Mae holl wlad Lesotho ar dir sy'n uwch na'r Wyddfa, gyda llaw, felly cer a pharacetamols ne be bynnag 'da ti a digon o ddillad twym hefyd achos ma' ddi'n rhewi yn y nos. A cer a sun-cream chos anghofion ni fe a sdim cymyle yn Lesotho felly nei di losgi yn y dydd. Gostodd botel o'r stwff £17 i'm ni mewn rhyw fferyllfa bach dodgy yn Maseru.
Os wyt ti am gael dy daflu i ganol y trydydd byd dyma'r lle i fynd. Mae e'n gwbwl wahanol i'n byd bach ni o gysur ond mae'r bobl yn dal i fod yn llawen a chroesawgar. Mi gei di brofiad i bara oes.
Gelli di ffindo mas mwy am y daith es i arni a mwy am Lesotho ar we-fan yr Urdd neu Dolen Cymru. "Lle Chwech Gwell" oedd enw'r daith ac os deipi di hwnna mewn i Google ma' 'na linyn o ymatebion!
Pob lwc!
http://www.urdd.org/cyffredinol/Cyd%20d ... gwell.html