Tudalen 1 o 2

Awstralia

PostioPostiwyd: Llun 22 Tach 2004 1:57 pm
gan Mr Groovy
G'day. :rolio:

Dwi wrthi'n trio trefnu trip i Oz fis Mawrth. Dwi'n bwriadu treulio mis yna, gan gychwyn yn Sydney a theithio lan yr arfordir mor bell a Cairns.

Dwishe neud cwrs deifio PADI tra dwi yna a dwi di clywed fod yr ynysoedd Whitsunday yn ysblennydd.

Sgan rywun dips am lefydd i fynd a phethau i'w neud? Be di'r ffordd ore i deithio fyny'r arfordir? Ydi Cairns yn werth ymweld, a pa mor hir ddyliwn i dreulio yn Brisbane?...unrhywbeth rili.
jolch.

PostioPostiwyd: Llun 22 Tach 2004 2:33 pm
gan Rhodri Nwdls
Os ti'n Sydney rhaid i ti fynd i:

Old Fitzroypyb hyfryd yn Wolloomoolloo
Harry's Cafe de Wheels- pie floaters 24 awr y dydd...mmmmm

PostioPostiwyd: Llun 22 Tach 2004 4:31 pm
gan Mr Groovy
Bloody 'ell ma'r peis a pys slwj na'n edrych yn fantastico.
Dwi ishe un i swper. Heno. Tybed wnawn nhw deliferio?

PostioPostiwyd: Llun 22 Tach 2004 5:01 pm
gan eusebio
Mr Groovy - mae fy mrawd wedi gwneud cwrs PADI tra yn Oz fis diwethaf - mae o'n dychwelyd i Sydney bore fory.

PostioPostiwyd: Llun 22 Tach 2004 6:59 pm
gan Rhodri Nwdls
Aye ma nhw'r peis gora'n y byd ac yn rhan annatod o fywyd Sydney. Mae lluniau o ser y byd i gyd sydd wedi bwyta yno ar waliau cefn y fan.

Reit os ma isio genu cwrs PADI ag isio gneud o yn y Whitsundays, yna Airlie Beach ydi'r dref fydd o angan cychwyn ohoni. Mae yno o leiaf 5 operator yno a tua 6 doctor sy'n gwneud y profion iechyd ar y sbot (nesh i fethu...ffecin asthma er fod gen i lyng capacity 10% uwch na'r gofyn ac yn smocio 40-a-day...ond gesh i fynd i hwylio am dridia mewn yacht rasio 80 troedfedd a snorclo felly ro'n i'n hapus fel y boi).

Ti fel arfer yn gneud o am 4/5 diwrnod gan ymarfer mewn pwll yn Airlie am y diwrnod neu ddau cyntaf a wedyn gwneud deifs ar y reefs wedi hynny. Dwn im be di'r prisia erbyn hyn gan fod hynny nol yn 2000 pan fuish i yno.

Ma Airlie yn le, wel gwyllt fel gwrach o'r coed, gyda dim byd ond bariau a chlybiau o un pen o'r dre i'r llall ar hyd un stryd hir. Arhoses i yno am fis ar y piss gyda help f'annwyl Wncwl Barclay a cael ffwc o amsar da, ond wedyn hangofyr am fis yn pigo tomatos yun Bowen tua 60km i'r Gogledd. Bum deal go iawn. Yn Reefo's neshi aros, oedd yn ffwc o rad ond ddigon dymunol, gyda brecwast helpu-dy-hun cynwysiedig yn y bora (felly, wrth gwrs, ti'n dwyn bara a spreads at amsar cinio bob dydd), bach yn bell o dre i gerddad ond agos i'r bottle shop lle ma'r gwin yn £3 am 5 litr (believe brother) ond ddim ond yn yfadwy efo Fanta.

Ma Cairns yn ffecin horibl, ddim ond werth mynd yno os tisio dal cwch allan at y barrier reef. Gyrra syth drwodd a dos i Mosman Gorge, tref fach hyfryd Port Douglas (lle ges i mrathu'n fyw gan fil o fozzies), a fforest law anghygoel Cape Tribulation.

Ma Brisbane yn le bach del gyda phensaerniaeth led-colonial Fictorianaidd hyfryd rownd bob cornel sydd a mwy iddo na ma pobol yn deud ond chesh i mond tua wythnos yno yn oll.

Un peth ma raid i ti neud: treulio tridia yn crwydro Fraser Islandmewn 4x4. Fydd o'n un o'r profidau nei di fyth eianghofio tra fyddi byw. Dwi rioed wedi gweld lle efo gymaint o amrywiaeth naturiol o draethau hir a mor gwyllt yn llawn siarcod Teigr a morfilod i fforestydd galw a llynnoedd dwr croyw wedi'w brownio gan y Coed Te sydd yn tyfu ynddynt. Heb son am y bywyd gwyllt cynhenid: adar lliwgar, nadroedd, dingoes, ma popeth yno.

Oce, na ddigon o baldaruo rho showt os tisio gwbod mwy am lefydd penodol. O ia, mewn BMW coch 3 series 1980 nesh i deithio - stylin' 8)

PostioPostiwyd: Llun 22 Tach 2004 9:36 pm
gan SbecsPeledrX
Gna BSAC cyn mynd ma PADI yn gymhwyster crap i cowbois!


<cowbois / gowbois? Ma treiglo mor anodd!>

PostioPostiwyd: Gwe 26 Tach 2004 1:12 pm
gan Mr Groovy
Waw, diolch am eich tips 'rogia. Siwr ddoi nol nes mlaen am fwy o holi.

Wy'n ecseited bost - mynd i bwcio'r plêns ddechre'r wythnos, ac mae'n debyg y byddai'n cyrraedd Sydney wythnos Mardi Gras..Parrrrrrrtiiiiiiii!

PostioPostiwyd: Gwe 26 Tach 2004 2:34 pm
gan Rhodri Nwdls
Damia ti, dwi'n genfigen i gyd rwan.

Lle arall rili da yn Sydney ydi sinema Govinda's, lle ti'n cael gwledd o gyri llysieuol i gychwyn cyn clirio'r byrdda, estyn y clustoga hiwj a gwylio ffilm. Nefoedd.

Cofia ecsplorio caffis Darlinghurst, ma coffi's Sydney yn agos i fod y rhai gora'n y byd.

Os tisio mynd i glwb gwylltia Sydney, i weld ffrics y ddinas i gyd yn un lle ar fore Sul, dos i dafarn y Beresford. Tafarn hoyw yn ystod yr wythnos wedyn fore dydd Sul o 6 ymlaen mae'n agor i glybiwrs effro y ddinas sydd isio cario mlaen: llond y lle o bikers, bouncers Maori, transvestites, pimps, dealers - y cwbl lot - fatha trip anthropological! (neu ddim, ma'n edrach el fod o wedi cau...)

Cofio fynd i'r Mynyddoedd Glas i gampio am benwythnos bach 'fyd - mae'n nhw tu hwnt i brydferth, ac yn tynnu d'anadl di pan ti'n sylwi ar anferthrwydd y lle.

PostioPostiwyd: Gwe 26 Tach 2004 2:38 pm
gan Rhodri Nwdls
Ambell lyfr angenrheidiol:

30 Days In Sydney gan Peter Carey
Sydney gan Jan Morris

PostioPostiwyd: Llun 21 Chw 2005 3:44 pm
gan gwern
Dos i gapyear.com mae na bob math o wybodaeth am drafeilio yn fana.