Datblygu- Pontio 17:03:2017

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Datblygu- Pontio 17:03:2017

Postiogan Y Crafwyr » Sul 19 Maw 2017 10:37 pm

Oni am sgwennu rhywbeth byr, tra bo'r noson yn eitha fresh yn fy meddwl.
A lle gwell nac ar Maes-e?

Ma bod yn rhan o noson fel hon yn fraint. Er nabod David R Edwards ers sawl blwyddyn, ac ers llythyru a sgyrsiau ffôn llêd reolaidd, doeddwn i heb weld Dave ers 21 'mlynedd.
Ac er bod cael bod yn rhan o noson fel hon yn fraint, mae hefyd yn fyrdwn. Dwi ddim eisie'r cyfrifoldeb pan fydd y 'nam technegol' yn sbwylio'r hwyl!
Cyrhaeddodd Datblygu Pontio yn ddi-seremoni, a roedd cofleidiad gan Dave fel mynd yn ôl drwy amser! Drwy gydol soundcheck byr oedd yn cyfuno cael offer analog clasur i weithio drwy susdem sain gyfredol, a band oedd wedi bod yn meddwl cymaint am y gig fel eu bod yn bryderus, daeth yn amlwg bod hon am fod yn glasur o noson.
Dwi wedi gweld Datblygu ambell i dro yn y dyddiau a fu, ac mae galw rheiny yn gigs weithie gallu bod yn destun anghysondeb! Dwi'n cofio Datblygu yn Feathers Aberaeron pan droeodd y noson yn un o berfformiadau cyntaf Gorky's yn cymeryd y llwyfan yn eu lle.
Ond ta waeth am hynny. Mae un peth sydd yn gyson am Datblygu. A Datblygu yw hynny. Er fod set-up offerynnol heno yn debyg ar un olwg i'r dyddiau cynnar, mae crefft Pat i'w weld yn gymaint mwy erbyn hyn.
Gyda 6 offeryn electronig yn gweitho yn annibynol o'i gilydd, ond mewn unsain, ac heb sequencer i'w cysylltu at ei gilydd, mae'r ffaith bod y noson wedi digwydd fel y gwnaeth yn wyrth.
Neu yn fwriad. Mae'n amlwg bod Datblygu wedi paratoi at heno.
Mae'r cyfuniad o ganeuon yn pontio eu hanes.
Nid mewn ffordd 'Greatest Hits": Does dim "Cân i Gymry" na "Maes E" ond mae "Problem yw Bywyd" "Mynd" a'r bythol wyrdd "Dafydd Iwan yn y Glaw" sy'n cynnwys elfen o "Sgorio Dafydd Iwan Dyn Eira" yma ynghyd a chaneuon o'r casgliadau mwyaf diweddar.
Fyddai noson fel hon ddim yn gyflawn heb "Edge". Fel rhywun sy'n gweithio yn Pontio, oni'n bryderus am y sgrîn sinema. Byddai gweld Dave yn baglu drwyddo wedi bod yn destun siarad am byth bythoedd, ond wedi creu problem tymor byr am dalu am un newydd! Pan dynnodd Dave ei becyn baco o'i boced a rhowlio sigaret, oni'n llwyr ddisgwyl iddo ei thanio ar y llwyfan.
Ond dyw Dave ddim yn gwneud yr hyn sy'n ddisgwyl ohono, ac mi adawodd y llwyfan a mynd allan i smocio.
Mi grêodd hyn gyfle gwych i ni fel cynulleidfa fedru gweld a phrofi rhywbeth sy'n hawdd ei anghofio. Mae presenoldeb Pat mor holl bwysig ym modolaeth Datblygu ag yw'r Tri Gŵr Doeth neu Feirws i Frecwast... Mae hi'n 'underated' ac yn athrylith. Mae creu set mor 'career defining' a hon, sy'n plethu o un gan i'r llall yn ddi-ffwdan yn athrylithgar. Ac i Pat mae'r diolch am hynny.
Mae Dave ei hun yn athrylith hefyd, wrth gwrs, ac o'u cyfuno mae noson annisgwyl o berffeithrwydd chaotic yn cael ei phrofi gan, o bosib, y gynulleidfa fwyaf mae nhw erioed wedi ei gael.
Ymhell o ddyddiau cynnar "Bar Hwyr (Pop Cymru)" mae'r gynulleidfa heno ymhell o fod yn ddefaid swnllyd wrth y bar. Mae pawb yma'n gwrando'n astud, ac yn gwerthfawrogi "Yr Uchafbwynt Uchaf"!
Pan ddaw Dave a Pat yn ôl i'r llwyfan i gymeradwyaeth haeddiannol, mae Dave yn datgan taw hon yw eu gig olaf.
A dwi'n teimlo bod y gwaith caled mae nhw wedi gwneud i greu noson wefreiddiol yn haeddu bod y noson olaf. Neu o leia am 21 'mlynedd arall.
Diolch Pat a Dave, doedd dim nam technegol i sbwylio'r hwyl.
xxx
"Nadolig llawen, sai'n gwbod pam wi'n weud e..."
Rhithffurf defnyddiwr
Y Crafwyr
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 290
Ymunwyd: Sul 08 Meh 2003 11:51 am
Lleoliad: Frongysyllte

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai