Maes-B a'r Sin Roc

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Maes-B a'r Sin Roc

Postiogan fi » Gwe 11 Hyd 2002 10:44 am

Fi wedi bod yn mynychu eisteddfode ers blynyddoed lawer nawr, ac wedi meddwi'n racs ym mhob un ers Llanfair-ym-Muallt '93 (ag un noson yn Aber '92), a mae'n rhaid i mi weud mod i'n pryderu'n fawr am y ffordd y mae'r sin roc yn y steddfod yn datblygu.

Roedd gigs Cymdeithas yr Iaith yn arwain lan i '97 yn wych. Roedd iddyn nhw naws arbennig, ac ymdeimlad o fod yn rhan o rywbeth amgenach yn hytrach na jest meddwi er lles meddwi - roedd pawb yn ymwybodol mai y gymdeithas oedd y trefnwyr a fod y gymdeithas yn bodoli er mwyn ymladd er lles bodolaeth a dyfodol y Gymraeg - felly roedd mynychu y gigs hefyd yn ran (bach iawn) o'r frwydyr.

Gyda dyfodiad Maes B yn steddfod y Bala, '97, gwelwyd newid trac. Bellach roedd yna un behemoth o gig, a gwelwyd yr un peth ym Mhen-y-Bont (gyda chyfres o gigs llai yn y clwb rygbi), Sir Fon, a Llanelli. Serch hynny, roedd yr arian oll yn mynd at achos teilwng y gymdeithas.

Ond mae'r trefniadau diweddaraf ers Dinbych yn peri pryder mawr. Mae'r sin roc wedi cael ei wneud yn rhan o'r sefydliad - yn barchus ac yn gorfod cydymffurfio - mae'r sbarc wedi ei cholli. O ganlyniad i ddyfodiad Maes B a la Avanti style, mae'r sin tanddaearol wedi diflannu'n llwyr - mae'r gigiau llai a gynhaliwyd gan y Blaid a muiadau eraill wedi cael eu gwasgu allan o fodolaeth gan na all mudiadau llai gystadlu yn erbyn arian cwmniau fel avanti, ac mae'r sefydliad wedi ceisio gwasgu y gymdeithas i'r cyrion.

Un canlyniad arall o hyn yw yr ydym yn gweld y gerddoriaeth yn y sin roc gymraeg yn dod yn fwy fwy cydymffurfiol a'r sbarc wedi mynd - mae popeth yn 'radio friendly' ac yn ganol y ffordd. ble mae bandiau fel Datblygu, Gorky's ayb? mae'r un band a geisiodd ymladd yn erbyn y sefydliad bellach wedi mynd - y Tystion. roedd y rhain oll yn ffresh ac yn cynnig rhywbeth gwahanol. dim rhagor.

credaf i'r anweledig geisio ymladd yn erbyn y drefn gydymffurfiol yma yn steddfod dinbych. ond sarhad a gwawd gafwyd.

yn y pendraw mae pawb yn cael eu gorfodi i gydymffurfio gyda grym arian.

Dyna pam fod y gymdeithas i gael ei chlodfori. un lleoliad bach tila oedd ganddi yn steddfod solfach ar ol i'r sefydliad geisio eu gwasgu allan gyda maes-b anferthol a 'maes c'. ond llwyddodd y gymdeithas i gyflwyno bandiau hollol newydd a ffresh, a rhoi cyfle i fandiau ifanc a dibrofiad i berffromio gyda bandiau hyn a mwy profiadol. ar ben hyn cytunodd pob un artist a berfformiodd yn y neuadd goffa yn solfach i chwarae am y nesaf peth i ddim! hyn yn dangos cefnogaeth clir i amcanion y gymdeithas ac i ymdrech y gymdeithas i gynnal sin roc fyw ar gyfer cenhedlaeth brwdfrydig.

roedd maes b yn siom mawr, gyda nifer o 'hen stejars' yn dod yn ol i geisio denu 'teeny-bopers' a diwylliant eingl-americanaidd yn cael ei wthio i lawr eu gyddfai. hefyd pan oedd bandiau ifanc yn perfformio ym maes-b roeddynt yn cael eu rhoi ar amser gwirion pan nad oedd neb yn bresenol heb law am y technegwyr a staff y bar. pwy fath o annogaeth yw hyn i fand ifanc? roedd hi'n sarhad llwyr arnyn nhw!

galwch fi'n hen stejar fy hun, os y dymunwch, ond o'n i'n lico mynd i yfed rownd tafarnnau y dre a gweld ardaloedd newydd cymru pan oedd y gigs mewn lleoliadau gwahanol - dod i nabod ein gwlad a'i ryfeddodau (trwy gymorth y ddablen). Ond nawr mae'r sefydliad yn annog yr ieuenctid i gyd i aros ar maes-b, gyda'r bar ar agor yn ystod y dydd.

penllanw hyn fydd canoli'r steddfod mewn un man bob blwyddyn. h.y. os mai dim on dwy gae a thu mewn i un sied fawr yr ydych chi am weld am wythnos bob blwyddyn a fod yr arian oll yn mynd i'r un cwmni mawr (avanti/clwb ifor) yna beth yw'r pwynt cael eisteddfod sy'n teithio o un man i'r llall? dyw'r gymdeithas y cynhelir y steddfod ynddi ddim ar ei helw, na chwaeth yr ymwelwyr. chwarae teg i gymdeithas yr iaith, mi weithion nhw gyda'r gymuned leol yn solfach, a olygodd fod cymuned solfach ar ei helw gyda arian yn cael ei roi i fewn i'r economi leol trwy weithgarwch cymdeithas yr iaith.

yn wir, mae hyn yn un rhan arall o'r hyn a elwir yn 'globalization'. mae'n rhaid i'r drefn newid, neu byddwn ni'n gweld diwedd 'fringe' y steddfod, a bydd bywyd ieuenctid cymru yn un drefn eingl-americanaidd mawr fydd yn cydymffurfio a gweddill y byd. un iath ac un trefn fydd hi.
fi
 

Ti'n iawn....

Postiogan Mihangel Macintosh » Sad 12 Hyd 2002 12:49 am

Clywch clywch. Ma gormod o gwmniau a sefydliadau yn ceisio gwneud y sin yn gorfforaethol. Ond fase ni ddim yn dweud fod y sin danddaerol wedi diflannu'n llwyr chwaith... efalle fod e'n fwy tanddaerol nag erioed bellach, hynny yw, gan fod Clwb Ifor Avanti yn penderfynnu pwy sydd ar y teli neu'n cael gigs. Be sydd wedi digwydd yn sgil y monopoli hyn gan griw bach o bobl sy'n ceisio dofu a rheolu'r sin ydy DIM exposure i artistiaid fel Y Dull Duckworth-Lewis, Gwalchmai Teleffon X-Change, Stylus, Cymal 3, Y Preifatiwyr ayb.

Roedd Maes B eleni yn ddi-enaid.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Geraint » Llun 14 Hyd 2002 4:37 pm

Cytuno. Ond os fase wedi bod yn bosib i'r Cymdeithas cael y gigs yn Solfa mewn adeilad mwy, busai llawer mwy wedi mynd, roedd bron yn amhosib i gael tocyn. Gobeithio blwyddyn nesa geith nhw rhywle mwy, er does dim llawer o lefydd yn agos i Meifod (bron dim!) Neuadd Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion?(5 milltir i ffwrdd). Ma Llanfair yn pentre sy'n heiddi manteisio o'r steddfod, gan fod yna tafrnau da (Black Lion!), ac mae'n canolfan i'r cymuned cymraeg lleol. Rhybudd, does ond un tafarn yn Meifod! Faswn i ddim yn hoffi gweld pethau yn symund i'r dre agosa, sef Trallwm,

Mae'n ymddangos i mi fel fod y steddfod yn trio rheoli popeth. Clywais fod athro yn Ysgol Llanfair Caereinion wedi gofyn os gallent defnyddio'r meysydd chwarae fel maes pebyll, gwrthododd y steddfod,am ei fod yn gystadleuaeth i'r maes swyddogol.

Mae'r fringe yn bwysicach nag erioed, gobeithio fydd yn llwyddianus blwyddyn nesa, does gennai ddim awydd gweld y Big Leaves am y canfed tro!
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan ceribethlem » Maw 15 Hyd 2002 8:58 pm

Cytuno. Mae sin roc fy ieuenctid (Y Cyrff, Ffa Coffi Pawb ayb) yn atgof plesurus o ddyddiau gwell. Roedd gigiau y bandiau ifanc a mwy profiadol yn solfach yn wefreiddiol eleni.
Yn fy marn i mae angen i'r gymdeithas ail-gydio yn yr awennau o drefnau nifer o gigiau tafarn fel y gwnaethpwyd yn yr wythdegau a diwedd y nawdegau. Dwi'n credu fydd cynnig digon o gigiau o'r math yma yn sbardun i ail-ddechrau'r sin roc tanddaearol a fu mor llwyddiannus. Hefyd fe fydd yn gwir gyfle i hybu defnydd o'r Gymraeg mewn sefyllfaoedd cymdeithasgar naturiol. Ni fydd ieuenctid megis disgyblion ysgolion Gymraeg yn gweld yr iaith Gymraeg fel iaith ysgol yn unig.
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du


Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron