Heno Bydd Yr Adar Yn Canu..... rwan mae Nic wedi crybwyll Nia Melville mae atgofion melys yn llifo'n ol...
Dwi'n meddwl mai hon oedd y rhaglen fiwsig orau i fod ar Radio Cwmri. Diolch Nic am ein atgoffa.
Mae gennai atgofion melys personol am y rhaglen hefyd - roeddwn yn gwarando ar hon bob nos Sul yn fy nghell yn Walton am dros flwyddyn! Roedd y miwsig, llais Nia a sbliffsan o scync yn mynd a fi yn ol i Gymru fach...
Ond ffyc ddy romantic reminising, a nol i'r pwynt - Cardi Bach, rwyt yn llygad dy le. Lle mae'r insentif i fandiau ifanc ganu'n Gymraeg? A pwy fydd yn gneud sesiynnau wedi i Gang Bangor symud i slot caws y pnawn?
Ar bwynt mwy difrifol yn hanes y genedl, y wlad a'r byd - rhyfel yn Irac, wyrld wor thri, serial sniper, Chechen rebels et al, dydi hyn ddim byd, mae rhywbeth gwaeth yn digwydd...yn ol y pol piniwn mae rhywrai yn Gwmri yn credu bod Menna Richards mewn cysylltiad a barn bobol ifanc!!!
Ydi Menna Richards yn un o'r aelodau cudd ar y safle hon? Oes ganddi blant yn aelodau? Pwy ffwc sy'n credu bod unrhyw un o top dogs y Bib yn dal i fod in touch efo'r byd, heb son am bobl ifanc Cymru???
Rwy'n herio unrhyw un i fy narbwyllo bod symud Gang Bangor (rhaglen sydd yn boblogaidd efo bobl ifanc) i slot caws y pnawniau, pryd mae'r wraig ty a'r henoed yn gwrando, yn symudiad sydd 'in touch' efo bobol ifanc!!!
A (dwi'n dechrau pregethu rwan) liciwn i ddeud rwbath difrifol i orffen. Am flynyddoedd, llond dwrn o bobl ifanc oedd yn gwrando ar Radio Cymru. Roedd y rhan fwyaf o'r rheinni yn dod o gefndiroedd cenedlaetholgar (a'u hanner yn ddosbarth canol) lle roedd Radio Cymru ymlaen yn ty eu rhieni yn naturiol. Flynyddoedd ar ei hol hi, dechreuodd y sianel drio estyn allan i geisio tynnu i mewn bobol ifanc eraill oedd wedi troi on i'r sin roc Cymraeg efo explosion y sin danddaearol efo Recordiau Anhrefn (Cyrff, Datblygu, TT, Ll Ll, etc) yn yr wythdegau. Daeth Nia Melvliie etc ar y sin. Gret.
Ond, yn nhraddodiad y cheese and wine, bowel-gazing, self-perpetuating, incestious, Landaff-freak-fucks yn Contcanna (yr un clic a oedd yn lladd Fideo Naw ar S4Siec), roedd popeth ganrif yn rhy hwyr ac yn hollol annigonol.
Yna daeth yr ymgyrch fawr i 'boblogeiddio' y sianel. Yn eu 'doethineb' fe roeson nhw fonopoli i'r clic bach 'na (rydym i gyd yn gwybod pwy ydyn nhw) oedd yn pwsio boy a girl bands a mintio hi allan o gael eu recordiau (a'u hen recordiau nhw eu hunain) wedi chwarae ar y tonfeddi. Daeth y Cameo Club mafiosi ar y sin. Roedd bandiau cyfryngis yn cael eu records wedi chwarae drosodd a drosodd a drosodd, a cael toman o roialtis am bod y cynhyrchydds yn yfed efo nhw yn y trendi nightspots.
Sothach.
Un masterstroke oedd dyfodiad y mab afradlon, Jonsi (sgrechs mawr o du'r dorf). Love him or loath him, mae o'n dda yn be mae o'n neud ac yn gallu sairad efo bobol. Tyfodd nifer y gwrandawyr. Roedd Radio Cymru nawr ymlaen yn nhai trwch y werin (diolch i Jonsi mae Daft Du etc yn cael gwrandawiad, dim diolch i'w talent nhw eu hunain). O ganlyniad i'r twf yma, daeth mwy a mwy o bobol ifanc dosbarth gweithiol i glywed Radio Cymru rywbryd yn ystod y dydd a nos. Cafodd Gang Bangor gyfle i ddod i mewn i'w bywyd.
Cyn hir, roedd hogia ifanc Blaena a llefydd erill yn hel mewn meysydd parcio yn eu ceir, efo Gang Bangor ymlaen, ac yn ffonio i mewn i'r rhaglen ar eu mobeil ffons a cael laff. Roeddynt yn uniaethu efo'r iaith, y crac a'r miwsig oedd y cyflwynwyr yn roi drosodd. Ac ar fore Sadwrn, roedd y bobol ifanc yma yn gwrando eto, ac os oedd gem beldroed Cymru yng Nghaerdydd neu rwbath, roeddynt yn ffonio i mewn i'r rhaglen ar eu ffordd i lawr i'w gwylio, ac ati. Good crack. Crack poblogaidd oedd wedi tynnu hogia (a merchaid) y werin i fewn i'r sin Gymraeg.
Mwyaf sydyn, roedd gwrando ar Radio Cymru ryw ben yn ystod y dydd neu'r nos yn rhywbeth oedd bobol heblaw y criw traddodiadol yn ei wneud.
Rwan mae Menna Richards, yn ei doethineb pell-weledol yn mynd i ladd y crac yma. A mae ar gyflog o filoedd ar filoedd ar filoedd y flwyddyn!!! Da de?!
In touch?