Radio Cymru - Radio'r Henoed

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ydy menna Richards allan o gysylltiad gyda pobol ifanc?

Ydy
10
71%
Na
4
29%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 14

Postiogan nicdafis » Mer 23 Hyd 2002 12:13 pm

Dere yn ôl <a href="http://www.fydd.org/gwenwyn/02.html">Nia Melville</a>, mae angen ar dy wlad!

Dw i'n ffaelu ar unrhyw DJ sy'n siarad dros y recordiau ac mae <b>bob un</b> o griw Radio Sgymru yn neud hwnna. Dydyn nhw yn gallu deall bod pobl yn gwrando ar y radio er mwyn clywed y cerddoriaeth, nid y ffycin DJs? Oes unrhywun ar Radio Cymru sydd gyda unrhyw diddordeb mewn cerddoriaeth? Byddai'n well 'da fi bob tro gwrando ar pobl Saesneg eu hiaith sydd yn amlwg <i>dwli</i> ar y cerddoriaeth maen nhw'n ei chwarae. Peel, Kershaw, Jools Holland, Mark Lamarr, criw Late Junction a Mixing It.

Ydy pobl yn gallu derbyn <a href="http://www.rnag.ie/">Raidió na Gaeltachta</a>? Mae rhaglen 'da nhw gyda'r nos sy'n chwarae y goreuon o gerddoriaeth y byd (nid jyst <i>world music</i> bondygrybwyll). Maen nhw'n chwarae unrhywbeth sy ddim yn yr iaith Saesneg (achos does dim bygwth i'r iaith Gwyddeleg o tu'r Sbaeneg a Norwyeg, mae'n debyg). Allwch chi ddychmygu Radio Cymru neud rhywbeth fel 'na? <i>"Oh, but what would Paul Starling say?"</i>
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Gwestai » Mer 23 Hyd 2002 1:10 pm

Sgiws mi, ond ma' Daf Du wedi chwarae can Sbaeneg cwpwl o weithiau, ac mae can Gwenno Saunders yn hanner Cernyweg, so there! Ma' Daf Du a Beks yn gyflwynwyr arbennig o dda, ac ma' Daf Du'n siarad yn dda 'da'r pobl sydd ar y ffon. Licen i petai hanner y talent s'da Daf Du a Beks 'da fi pan mae'n dod i gyflwyno.
Gwestai
 

Radio Cymru - Sham llwyr

Postiogan Cardi Bach » Mer 23 Hyd 2002 1:30 pm

Hedd yw'r un sydd wedi dweud y gwir mwya yn y ddadl hon hyd yma, hyd y gwela i. Mae yna angen dybryd am ail sianel radio i Gymru (hyd yn oed dwy neu dair ychwanegol - ond un cam ar y tro).

Mae Radio Cymru yn wynebu tasg amhosib i geisio diwallu anghenion pawb yn y gymdeithas Gymreig. Roedd ganddyn nhw batrwm mwy pendant flynyddoedd yn ol - yn syml, roedd popeth ar ol 10 y nos i bobl ifanc neu ifanc eu naws. Ond ar yr un pryd roedd mwy o raglenni trafod, dogfen, ayb roedd y rhaglenni yn werth gwrando arnyn nhw. Nawr mae'r cwbl yn un mish-mash mawr o gachu Eingl-Americanaidd, 'Country+Western' shite, pop crap - erchyllderau llwyr i roi ar y radio.

Wy'n cofio aros lan yn fwriadol i glywed Nia Meliville, Ali Yassin, Sion Dom, Gary Slaymaker, a hyd yn oed Daniel Glyn (o ie a Owain Gwilym, ond bryd hynny roedd ei raglenni'n blwyfol iawn, a fel rhywun oedd yn byw yn Abertawe ar y pryd ac erioed wedi bod yn Nhrefor neu Chwilog doedd ei raglenni e'n golygu ffyc-ol i fi). Rhaglenni o safon a gynigai amryw o gerddoriaeth a hiwmor.

MAE rhaglen Dafydd Du yn shite pur, druan. Ac ma' Beks...wel beth alla' i weud? y gwaethaf fi ar radio Cymru erioed? HOLLOL annoying a hunan bwysig ayb Mae'n nhw yno ermwyn eu hunen.

pwy obeth sydd i ni gael sin roc Gymraeg ffynianus os mai dyma'r math o shit sy'n cael ei ddarlledu. mae bandiau ifanc yn gwybod nad ydynt am gael air-play ar Radio 1; Virgin; 252 neu beth bynnag arall sydd ar gael, yn syml am eu bont yn raglenni radio cul. Ond o gael agwedd fel Radio Cymru hefyd - yna pa fath o anogaetrh yw hynny i fandiau i arbrofi a'u doniau heb son am ganu yn y Gymraeg?! (mae mwy o obaith clywed band arbrofol Cymraeg ar sesiynau Peel bellach nag ar radio Cymru!)

Mae angen ail sianel radio Gymraeg i Gymru NAWR!

weda i hyn i derfynnu, mae yna raglen gerddorol wych ar Radio Ceredigion - rhaglen Werin - bob bore dydd Sul, 9.45 (recordiwch e os odych chi yn y capel fel fi). Mae yna ymgais yno gan rai o'r DJ's i gyflwyno cerddoriaeth o bedwar ban byd gyda cherddoriaeth werin draddodiadol a chyfoes Cymru.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Meinir Thomas » Mer 23 Hyd 2002 3:54 pm

Shwt allwch chi ddweud bod y gerddoriaeth ma' Daf Du'n chwarae'n shit? Y gwrandawyr sy'n dewis y gerddoriaeth!!
Rhithffurf defnyddiwr
Meinir Thomas
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 220
Ymunwyd: Maw 24 Medi 2002 10:25 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Prysor » Iau 24 Hyd 2002 9:34 am

Heno Bydd Yr Adar Yn Canu..... rwan mae Nic wedi crybwyll Nia Melville mae atgofion melys yn llifo'n ol...
Dwi'n meddwl mai hon oedd y rhaglen fiwsig orau i fod ar Radio Cwmri. Diolch Nic am ein atgoffa.
Mae gennai atgofion melys personol am y rhaglen hefyd - roeddwn yn gwarando ar hon bob nos Sul yn fy nghell yn Walton am dros flwyddyn! Roedd y miwsig, llais Nia a sbliffsan o scync yn mynd a fi yn ol i Gymru fach...

Ond ffyc ddy romantic reminising, a nol i'r pwynt - Cardi Bach, rwyt yn llygad dy le. Lle mae'r insentif i fandiau ifanc ganu'n Gymraeg? A pwy fydd yn gneud sesiynnau wedi i Gang Bangor symud i slot caws y pnawn?

Ar bwynt mwy difrifol yn hanes y genedl, y wlad a'r byd - rhyfel yn Irac, wyrld wor thri, serial sniper, Chechen rebels et al, dydi hyn ddim byd, mae rhywbeth gwaeth yn digwydd...yn ol y pol piniwn mae rhywrai yn Gwmri yn credu bod Menna Richards mewn cysylltiad a barn bobol ifanc!!!

Ydi Menna Richards yn un o'r aelodau cudd ar y safle hon? Oes ganddi blant yn aelodau? Pwy ffwc sy'n credu bod unrhyw un o top dogs y Bib yn dal i fod in touch efo'r byd, heb son am bobl ifanc Cymru???

Rwy'n herio unrhyw un i fy narbwyllo bod symud Gang Bangor (rhaglen sydd yn boblogaidd efo bobl ifanc) i slot caws y pnawniau, pryd mae'r wraig ty a'r henoed yn gwrando, yn symudiad sydd 'in touch' efo bobol ifanc!!!

A (dwi'n dechrau pregethu rwan) liciwn i ddeud rwbath difrifol i orffen. Am flynyddoedd, llond dwrn o bobl ifanc oedd yn gwrando ar Radio Cymru. Roedd y rhan fwyaf o'r rheinni yn dod o gefndiroedd cenedlaetholgar (a'u hanner yn ddosbarth canol) lle roedd Radio Cymru ymlaen yn ty eu rhieni yn naturiol. Flynyddoedd ar ei hol hi, dechreuodd y sianel drio estyn allan i geisio tynnu i mewn bobol ifanc eraill oedd wedi troi on i'r sin roc Cymraeg efo explosion y sin danddaearol efo Recordiau Anhrefn (Cyrff, Datblygu, TT, Ll Ll, etc) yn yr wythdegau. Daeth Nia Melvliie etc ar y sin. Gret.
Ond, yn nhraddodiad y cheese and wine, bowel-gazing, self-perpetuating, incestious, Landaff-freak-fucks yn Contcanna (yr un clic a oedd yn lladd Fideo Naw ar S4Siec), roedd popeth ganrif yn rhy hwyr ac yn hollol annigonol.
Yna daeth yr ymgyrch fawr i 'boblogeiddio' y sianel. Yn eu 'doethineb' fe roeson nhw fonopoli i'r clic bach 'na (rydym i gyd yn gwybod pwy ydyn nhw) oedd yn pwsio boy a girl bands a mintio hi allan o gael eu recordiau (a'u hen recordiau nhw eu hunain) wedi chwarae ar y tonfeddi. Daeth y Cameo Club mafiosi ar y sin. Roedd bandiau cyfryngis yn cael eu records wedi chwarae drosodd a drosodd a drosodd, a cael toman o roialtis am bod y cynhyrchydds yn yfed efo nhw yn y trendi nightspots.
Sothach.
Un masterstroke oedd dyfodiad y mab afradlon, Jonsi (sgrechs mawr o du'r dorf). Love him or loath him, mae o'n dda yn be mae o'n neud ac yn gallu sairad efo bobol. Tyfodd nifer y gwrandawyr. Roedd Radio Cymru nawr ymlaen yn nhai trwch y werin (diolch i Jonsi mae Daft Du etc yn cael gwrandawiad, dim diolch i'w talent nhw eu hunain). O ganlyniad i'r twf yma, daeth mwy a mwy o bobol ifanc dosbarth gweithiol i glywed Radio Cymru rywbryd yn ystod y dydd a nos. Cafodd Gang Bangor gyfle i ddod i mewn i'w bywyd.
Cyn hir, roedd hogia ifanc Blaena a llefydd erill yn hel mewn meysydd parcio yn eu ceir, efo Gang Bangor ymlaen, ac yn ffonio i mewn i'r rhaglen ar eu mobeil ffons a cael laff. Roeddynt yn uniaethu efo'r iaith, y crac a'r miwsig oedd y cyflwynwyr yn roi drosodd. Ac ar fore Sadwrn, roedd y bobol ifanc yma yn gwrando eto, ac os oedd gem beldroed Cymru yng Nghaerdydd neu rwbath, roeddynt yn ffonio i mewn i'r rhaglen ar eu ffordd i lawr i'w gwylio, ac ati. Good crack. Crack poblogaidd oedd wedi tynnu hogia (a merchaid) y werin i fewn i'r sin Gymraeg.
Mwyaf sydyn, roedd gwrando ar Radio Cymru ryw ben yn ystod y dydd neu'r nos yn rhywbeth oedd bobol heblaw y criw traddodiadol yn ei wneud.

Rwan mae Menna Richards, yn ei doethineb pell-weledol yn mynd i ladd y crac yma. A mae ar gyflog o filoedd ar filoedd ar filoedd y flwyddyn!!! Da de?!

In touch? :?
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 24 Hyd 2002 10:23 am

Y pwynt pwysicaf cafodd ei wneud oedd gan Cardi Bach (Fi'n gwbod ble ti'n byw). Mae mwy o siawns i glywed cerddoriaeth tanddaearol Gymraeg ar rhaglennu John Peel nag sydd ar Radio Cymru. Pa mor aml da chi'n clywed Pep Le Pew, Llwybr Llaethog, Labordy Swn cont a'i tebyg ar Radio Cymru. Ffyc ol! a pa mor aml da chi'n clywed Haydn Holden, Cic, TNT a Storm ar Radio Cymru, trwy'r blydi dydd.

Mae rhaid i ni newid hyn. Mae'n gallu bod yn depressing iawn ar adegau gan fod aelodau o Gymdeithas yr Iaith wedi mynd i'r carchar, a rhai unigolion wedi bygwth ymprydio tan farwolaeth dros greu y Cyfryngau Cymraeg cachlyd yma.

Ac wedyn y cyfryngus ei hunain. Rhain yw'r bobl sy'n becso dim am ddyfodol y Gymraeg, sydd heb wneud dim byd gwleidyddol dros yr iaith na'i gwlad yn yr ysgol nac yn y coleg, yn wir gyda agwedd negyddol tuag at y bobl sydd yn gwneud gwaith da. A rhain yn y pen draw sydd yn defnyddio ac abiwsio'r Gymraeg i wneud elw mawr! Mae angen cael gwared o'r leaches hunan bwysig yma!

Dwi'n meddwl fod angen ceisio sefydlu ail sianel radio Gymraeg gwbl annibynol o'r BBC so bydd y clique yn methu ei gymryd drosodd. Efallai gyda DJ's gwirfoddol i ddechrau sy'n DJ's am eu bod yn caru cerddoriaeth. Beth amdani. Oes gan rhywyn y dechnoleg a'r gallu i sefydlu Stesiwn Mor Ladron?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Meleri » Iau 24 Hyd 2002 3:11 pm

Pwy yw y Menna 'ma beth bynnag? Well gen i wrando ar Champion 103 unrhyw ddiwrnod!!
Rhithffurf defnyddiwr
Meleri
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 10
Ymunwyd: Iau 24 Hyd 2002 1:45 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Geraint » Iau 24 Hyd 2002 3:41 pm

Menna Richards, be wy ti'n gwneud?

Dwi'n cofio'r rhaglenni gwych oedd yn cael ei ddarlledu am deg pob nos, dyma sut ddes i wybod am bandiau fel datblygu, ffa coffi a.y.b.
Mi o ni'n byw yn y Drenewydd, a fase ni byth di clywed am rhain heblaw am Nia Melville etc. Roedd gwybod fod na bobl eraill yng Nghymru yn hoffi cerddoraieth "gwahanol" yn agoriad llygad.

Beth am sianel radio digidol, fel 1xtra?
Bydde'n rhad i'w rhedeg(?) , a fuasai ond yn cael chwarae cerddoriaeth i fobl ifanc.darlledu gigs ayb, gyda digon o gerddoriaeth tan ddaearol.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Prysor » Iau 24 Hyd 2002 6:36 pm

MENNA ydi'r gymdeithas i bobol supremely intelligent sydd yn dyslexic.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Be di'r posibiliadau?

Postiogan DJ Lambchop » Sad 26 Hyd 2002 11:56 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd: Mae mwy o siawns i glywed cerddoriaeth tanddaearol Gymraeg ar rhaglennu John Peel nag sydd ar Radio Cymru.


Ma mwy o siawns clywed cerddoriaeth danddaearol Gymraeg ar orsaf Radio B-92 yn Serbia na sydd ar Radio Cymru! Dyma'r orsaf lle wnei di glywed cerddoriaeth newydd gan Pep Le Pew, Llwybr Llaethog, Tystion, MC Mabon, Zabrinski, Stylus, Ectogram, Rheinallt H.Rowlands, Recall, Trawsfynydd Lo-Fi Liberation Front, Y Celfi Cam, Ethania, Yr A5 ayb. Mae'n unpeth bod na bobl tu allan i Gymru a diddordeb, ond mae'n beth arall os nad oes cefnogaeth yn y Famwlad. Mae'n sefyllfa anobeithiol os nad ydy artistiaid yn cael dim neu braidd dim airplay. Fe nath Datblygu bump seshwn radio i sioe Peel, tra oedd Radio Cymru yn gwrthod cyd-nabod y grwp. Nia Melville oedd un o'r DJ's cyntaf i rhoi sylw i'r grwp ar donfeddu "gwasanaeth cenedlaethol" Radio Cymru, ond yn ystod y blynyddoedd y bu'r grwp mewn bodolaeth cyn ei sioe ardderchog hi, y tro cyntaf y clywodd nifer fawr o siaradwyr Cymraeg gerddoriaeth Datblygu, oedd ar [orsaf cyfrwng Saesneg] Radio Un.

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Dwi'n meddwl fod angen ceisio sefydlu ail sianel radio Gymraeg gwbl annibynol o'r BBC so bydd y clique yn methu ei gymryd drosodd. Efallai gyda DJ's gwirfoddol i ddechrau sy'n DJ's am eu bod yn caru cerddoriaeth. Beth amdani. Oes gan rhywyn y dechnoleg a'r gallu i sefydlu Stesiwn Mor Ladron?


Dwi'n meddwl fod e'n bosib darlledu heb drwydded yn hollol gyfreithlon am gymaint o ddiwrnodau mewn blwyddyn. Ddim yn bendant o hyn, ond 90 diwrnod dwi'n meddwl. Dyna be oedden i am neud flynyddoedd yn ol, sef dechre gorsaf Radio oedd yn darlledu yn ardal yr Eisteddfod am yr wythnos. Ta waeth, mae llawer o orsafoedd 'cymunedol' yn gallu bodoli gyda'r rheol 'ma o ddarlledu ond am hyn a hyn o ddyddie'r flwyddyn. Dyna be ma gorsaf radio Prifysgol Caerdydd, X-Press FM yn ei neud. Gorsaf, gyda llaw, sydd'n darlledu un rhaglen awr o hyd yn y Gymraeg ar ddydd sul. Dyma lle dwi'n cyd-weld yn llwyr a sylwadau Seimon Brooks am dangyflawni Cymry Cymraeg y Brif Ddinas. Ma hwna, serch hynnu, yn drafodaeth arall...

Ond i fynd yn ol at y pwnc gwreiddiol... Cofia fe fydd tonfeddi analog yn dechre gwagio fwy fwy, wrth i rhwydwaith ddigidol gymryd drosodd yn y dyfodol agos. Efallai y caiff tonfeddu fel FM ei gadael i fod yn wacter mawr ac felly yn faes chwarae anferth i ddarlledwyr peirat? Pwy a wyr? Wrthgwrs, petase rhywun yn mynd ati i sefydlu gorsaf beirat byddai angen rhyw fath o nawdd o rhywle, hyd yn oed os oedd y DJ's yn neud e'n wirfoddol ac o gariad at gerddoriaeth, maaan. A dyna y brif broblem - fase dim llawer o gwmniau masnachol am hysbysebu ar yr orsaf rhag ofn cael eu cysylltu gyda rhywbeth sydd yn anghyfreithlon. Prinach fyth fyddai'r cwmniau fyddai'n barod i hysbysebu ar orsaf Cymraeg! Yn gryno, dwi'n meddwl fod gorsaf beirat Gymraeg yn bosib, ond dwi ddim yn ei weld yn rhywbeth fyddai'n gallu parhai'n hir iawn. Sefydlu peirat Cymraeg oedd fy mreiddwyd i, ond y rhyngrhwyd yw'r cyfrwng hawsaf i'w ddefnyddio ar hyn o bryd. Serch hynnu gyda llai na 50% o'r wlad a mynediad i'r we, ac fel mae Nic yn dweud, mae'n dipyn o boen yn y tin i wrando ar radio'r we heb broadband, dwi'n cytuno fod yna agen am ail donfedd. Peirat neu beidio.
Rhithffurf defnyddiwr
DJ Lambchop
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 152
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:08 pm
Lleoliad: Cymru rhythwir

NôlNesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron