Radio Cymru - Radio'r Henoed

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ydy menna Richards allan o gysylltiad gyda pobol ifanc?

Ydy
10
71%
Na
4
29%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 14

Radio Cymru - Radio'r Henoed

Postiogan DJ Lambchop » Sul 13 Hyd 2002 11:53 am

Pam fod rheolwyr Radio Cymru wedi penderfynnu i symud Gang Bangor i'r prynhawniau? Degawd yn ôl mi oedden nhw'n llongyfarch eu hynnan am "Hwyrach" ...nawr mae'n edrych yn debyg bydd y darpariaeth gyda'r nos yn troi nol mewn i Pensioners FM. Heblaw am sioe Huw Stephens a Gang Bangor does dim byd call ar ei tonfeddu. Neis wan Menna Richards am droi Radio Cymru yn wasanaeth amherthnasol, aniddorol, allan o gysylltiad i Bobol Ifanc.
Rhithffurf defnyddiwr
DJ Lambchop
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 152
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:08 pm
Lleoliad: Cymru rhythwir

Postiogan Prysor » Mer 16 Hyd 2002 9:12 am

[Mae'r neges hon wedi cael ei golygu.]

Mae o'n ffycin trajic bod y prics 'ma in charge o bob dim yng Nghymru.

Ffycin Radio Catsgam, Radio John ag Al, Radio Caryl Parry, Radio Dafydd Du - pob peth ond Radio Cymru.

Mae'r pnawniau jest yn fin sbwriel i sothach llwyr nad ydi hyd yn oed Radio 1 yn eu chwarae.

Travesty yw symud Gang Bangor i'r pnawn. Nid yw'n llai na 'death by cheese' i'r Gang. Judicial Murder. Cosb am fod yn rhy flaengar a di-flewyn ar dafod.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 16 Hyd 2002 9:26 am

Mae angen ail sianel Radio Cymraeg. Un i'r ifanc a'r rhai sydd am aros yn ifanc am byth!

Beth am ddechre ymgyrch gref am ail sianel Radio Cymraeg i Gymru!

C'MON!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

radio'r we

Postiogan DJ Lambchop » Iau 17 Hyd 2002 12:59 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Mae angen ail sianel Radio Cymraeg. Un i'r ifanc a'r rhai sydd am aros yn ifanc am byth!

Beth am ddechre ymgyrch gref am ail sianel Radio Cymraeg i Gymru!


Yn sicyr mae yna angen ail donfedd...

Ond beth am y we? Beth am ddechrau nifer o orsafoedd radio rhyngrhwyd? Fe'm hysbrydoliwyd ni gan fenter Johnny R, a lawnsiodd yr orsaf Gymraeg gyntaf ar y we, sef Radio-D yn 2000. Cyfan ti angen ydy cerddoriaeth, dychymyg, gwybodaeth sylfaennol o HTML a tamed back o webspace.
Rhithffurf defnyddiwr
DJ Lambchop
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 152
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:08 pm
Lleoliad: Cymru rhythwir

Postiogan nicdafis » Iau 17 Hyd 2002 3:06 pm

...a band llydan. Dw i'm yn gwybod amdanoch chi, ond dw i'n ffaelu gwrando ar unrhyw streaming media heb stopo beth bynnag arall dw i'n neud, felly dw i ddim yn boddran, fel rheol. Dw i erioed wedi gwrando ar Radio Amgen, er enghraifft, achos bob tro dw i ar lein dw i'n wneud o leia tri pheth: 'swn i'n trial gwrando ar ffrwd RM fyddai'n cysylltiad yn arafu gormod.

Band llydan i Langrannog nawr!
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Meinir Thomas » Gwe 18 Hyd 2002 7:18 pm

Chware teg, nid Gang Bangor yw'r unig beth da ar Radio Cymru. Ma' Daf Du'n wych ar gyfer pob oed, ac mae Beks yn wych ar gyfer ieuenctid, a'r rhai sy' dal yn ifanc eu ysbryd! Yn bersonol, roedd well gen i'r hen drefn, cyn dyddiau Gang Bangor. Mae'r cyflwynwyr yn dda, ond yn fy marn i, 'sdim angen Gang Bangor. Gall y cyflwynwyr 'neud yn iawn ar ben eu hunain, yn enwedig Owain Gwilym. Roedd ganddo raglen ei hun am tua 10 mlynedd, felly pam newid pethau? 'Sdim angen neb arall ar rywun mor dalentog ag e. OK, mae e'n dda 'da Dylan Wyn, ond 'sdim ishe gormod ohonynt 'da'i gilydd chwaith. Ma' unwaith yr wythnos yn iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
Meinir Thomas
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 220
Ymunwyd: Maw 24 Medi 2002 10:25 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Mihangel Macintosh » Llun 21 Hyd 2002 12:17 am

Meinir Thomas a ddywedodd:Mae'r cyflwynwyr yn dda, ond yn fy marn i, 'sdim angen Gang Bangor


Ti'n cymryd y piss Meinir? Swnio fel dy fod ti'n 18 going on 80. Dyw a'n gwaredo ni os wy ti'n mynd i fod yn gweithio yn y cyfryngau ar ol i ti raddio. Ma nhw'n lot rhy cediwadol a di-fentrus fel y mae hi... ydy dy gyd-fyfyrwyr yn teimlo'r un peth a ti am Radio Cymru?
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Meinir Thomas » Llun 21 Hyd 2002 3:33 pm

'Wi ddim yn 18! A phwy 'wedodd 'mod i am ddilyn gyrfa yn y cyfryngau wedi graddio? Ti'n 'nabod fi neu rhwbeth?
Rhithffurf defnyddiwr
Meinir Thomas
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 220
Ymunwyd: Maw 24 Medi 2002 10:25 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Mihangel Macintosh » Llun 21 Hyd 2002 7:24 pm

Haia! Croeso i fy safle we! Pwy ydw i? Wel, Meinir yw'n enw i. Rwy'n fyfyrwraig yn y Brifysgol ym Mangor... Rwy'n astudio Cyfathrebu a'r Cyfryngau yma ym Mangor, ac yn gwneud y safle we yma fel rhan o'm cwrs.


Na dwi ddim yn dy nabod di. Ges i'r wybodaeth o dy wefan.

Ti'n neud gradd mewn Cyfathrebu ym Mangor sydd fel arfer yn ffordd gyflym i mewn i'r cyfryngau. Ok, falle fod ti ishe bod yn bysgotwr Morfilod yng Ngwlad Yr Ia ar ol graddio, ond os fellu pam astudio cyfathrebu? Jyst am laugh, rhywbeth i neud?
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Prysor » Mer 23 Hyd 2002 10:10 am

Rhaglen Daf Du yn dda?!!!
Iesu Grist bach o'r sowth a'i fam ar skateboard!!! A ti'n stiwdant, Meinir bach?!!

Pob parch i'r boi, ond mae o'n hollol crap. Dydio ddim hyd yn oed yn gallu cynnal sgwrs efo gwrandawyr sy'n ffonio i mewn, rwbath fyddwn i'n tybio sy'n angenrheidiol i gyflwynwr rhaglen lle mae bobol yn ffonio mewn.

Mae'r boi yn dod drosodd mor cheesy a slimy, mae'n angrhedadwy. Ai 'brenwef' rhyw 'bright spark' yn y tim cynhyrchu ydi ei gael i chatio fyny pawb, o ferched ysgol i anti Sally? Ynteu end-product bod a'i ben i fyny tin ei hun ers blynyddoedd ydio? Dwi wedi cwrdd a fo, a mae o yn foi iawn, ond Crist o Caerwys, mae o'n lurvio'i hun gymaint mae o'n neud i chdi isio chwdu.

Mae ei raglen yn hollol ddi-ddychymyg, yn llawn o'r caneuon gwaethaf a ryddhawyd erioed yn Gymraeg a Saesneg, ac yn embarasment. Siorli mae'r Cymry yn haeddu gwell?

Rhaglen Beks??? Miwsig da???!!! Slwtsh sydd ddim hyd yn oed yn boblogaidd na blaengar ar y sin Saesneg gyfoes - heb son am Gymru?! Sgiws mi, ond na, dim diolch!!
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Nesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron