Tudalen 1 o 7

tabs cymraeg

PostioPostiwyd: Maw 24 Meh 2003 5:31 pm
gan Rhodri
Oes yna unrhywun yn gwybod am unrhywle ar y we sydd yn darparu tabiau guitar i ganeuon cymraeg?

mi faswn i yn gneud safle fy hun, heblaw bo fi ddim digon da i weithio'r caneuon allan ddim ond o'u clywed, (hence yr angen am tabs yn lle cyntaf.) na chwaith yn gwybod y peth lleiaf am neud gwefan.

PostioPostiwyd: Maw 24 Meh 2003 5:51 pm
gan Rhys Llwyd
dwi di postio seithenyn fynnu ar tabcrawler.com

os na unrhywbeth spesific ti'n wilo am?

PostioPostiwyd: Maw 24 Meh 2003 6:01 pm
gan Rhodri
Ddim rili, jysd sa fo'n neis cael rywbeth arall i chwarae heblaw caneuon saesneg gan fod y mwyafrif o gigiau dwi'n mynd iddyn nhw efo bandiau cymraeg, a dwi'n ffeindio'n hyn yn hymian petha yn fy mhen y diwrnod wedyn.

dwnim - mim twm llai, meic steves, cyrff, anweledig. fedrai ddim meddwl ar hyn o bryd.

mi a'i chwilio am seithnyn ddo, nais won. :D

PostioPostiwyd: Maw 24 Meh 2003 9:04 pm
gan Leusa
Mae na lawer o dabs ar wefan answyddogol Gymraeg SFA

PostioPostiwyd: Maw 24 Meh 2003 10:03 pm
gan kamikaze_cymru
fedar blog neu rywbeth tebyg gael ei addasu neu ei ddefnyddio fel lle i roi tabs?

PostioPostiwyd: Mer 25 Meh 2003 8:58 pm
gan Rhodri
Mwy na thebyg Kamikaze - ond jysd cael y caneuon i lawr yn lle cynta di'r job. Dwi'm digon da eto i fedru gneud hyn!

Bai ddy we - diolch ti Leusa am y linc SFA 8)

PostioPostiwyd: Mer 25 Meh 2003 11:07 pm
gan Leusa
Dim problem!

PostioPostiwyd: Mer 25 Meh 2003 11:09 pm
gan Geraint
Rhodri, beth am enwi can, a new ni gyd trio gweithio fo allan i ti, dwi'n siwr all un ohonno ni'n cael o'n iawn!

PostioPostiwyd: Iau 26 Meh 2003 12:34 am
gan Rhys Llwyd
y glasur gwyddbwyll gan y tystion!
EAEAEAEAEAEAEAEAEAEA ayyb

PostioPostiwyd: Iau 26 Meh 2003 7:50 pm
gan Meic P
Hwn di tab cynta i fi sgwennu.
Dwi'n meddwl mai felma ma'r riff gitar gitar yn mynd.
Plis cywirwch fi os dwi di sgwennu o'n rong!
newydd ddallt tab ydwi'n hyn. ma'n shit o ffordd i ddysgu miwsic ddo. rhaid fod wedi clywed y gân pob tro o flaen llaw.
reu i chi 'gia

e-----------------------------------------------------------------------
B-----------------------------------------------------------------------
G-----------------------------------------------------------------------
D-----------------------------------------------------------------------
A---11---14---14h16--14---10---10---10h12----10-------
E---0-----0-----0--------0-----0-----0-----0---------0-------

Ma'r chorus jyst yn E A E A...


enjoi