Tudalen 4 o 7

PostioPostiwyd: Gwe 26 Maw 2004 4:22 pm
gan Rhydian Gwilym
Dwi heb gael hud i rai Cymraeg yn fano

PostioPostiwyd: Gwe 26 Maw 2004 4:31 pm
gan Jac y Diawl
sori.jôc fach odd hwnna. :wps:
ar nodyn fwy llesol, be am bostio cwpwl o deitlau caneuon a enw'r bands lan ma wedyn allen ni dadansoddi'r basslines a'u rhoi nhw fyny famma?

PostioPostiwyd: Gwe 26 Maw 2004 4:37 pm
gan Meic P
Syniad Da Jac!

Rhoi rwbath i'r holl "gerddorion" ma neud! :winc:

Geith Rhydian awgrymu un neu ddau i ddechrau.

Be sy'n dy boeni di ar y funud Rhydian? (yn geddorol h.y.)

PostioPostiwyd: Sul 28 Maw 2004 9:58 am
gan Rhydian Gwilym
dwi ddim yn rili chwilio am rwbath yn benodol.

Penbleth mawr!!

PostioPostiwyd: Sul 28 Maw 2004 9:25 pm
gan Wierdo
rhodri a ddywedodd:Dwi di bod yn trio cal go ar weithio allan Tafarn yn Nolrhedyn gan Mim Twm Llai, ma'n dod yn slo bach. Dim cliw am y chords ddo!

dwin gwbod y cordiau:

Pentra bach uchel mae o'n uwch na llan
G---------------------------------------D
Lle ma dwr y mynydd yn canu i'r llyn
G------------------------------------- D
Ac yn yr haf ma nhwn cae y dam
G----------------- C------------G
Y mama yn padlo a'r plant yn nofio
G ---------------------- D

run fath eto

CYTGAN
Ond beth dos na ddim ydi tafarn yn fan hyn
C ----------------- D -------G -------------Em
Sana dafarn yn fan hyn sa fon booooooming
C ----------------- ---D ----------G ------Em
Felly be dani angan ydi tafarn yn nolrhedyn
C---------------D ---------C ----D------G
La la la la
C--G--D--G

ish

PostioPostiwyd: Sul 28 Maw 2004 9:53 pm
gan Leusa
sori am fod yn pici,ond ella tria hwn y lein gynta -

Pentra bach uchel mae o'n uwch na llan
G--------------------------C-----------G

PostioPostiwyd: Llun 29 Maw 2004 8:14 pm
gan Wierdo
duw thanciw, nai drio hyna unwaith dwin ffindio'r gitar...hmmm

PostioPostiwyd: Llun 29 Maw 2004 8:24 pm
gan Leusa
swni wrth fy modd yn gallu chwara gitar,dwi wasdad yn neud bo fi am ddechra - na i byth :lol: !
os neith na rhywun folyntirio i ddysgu fi, iawn awe, ond dydw i'm isho dysgu fi.

PostioPostiwyd: Llun 29 Maw 2004 8:38 pm
gan Leusa
pam bo fi'n deud run peth ddwywaith?!

PostioPostiwyd: Iau 01 Ebr 2004 8:26 pm
gan Wierdo
dwin lwcus, ma dad yn gallu chwara gitar (a banjo a charango...) so mae o di gallu dysgu cordiau i fi! Dwi dal ddim yn dda iawn ond 'mai i di hynny a ddim dad!