Tudalen 7 o 7

Re: tabs cymraeg

PostioPostiwyd: Iau 19 Meh 2008 3:05 pm
gan Gari Mynach
Unrhyw un yn gwybod tabs i ganeuon Swci Boscawen, yn enwedig Min Nos Monterey?

Re: tabs cymraeg

PostioPostiwyd: Iau 19 Meh 2008 7:22 pm
gan mr huw
mae o mewn F fwyaf a fynny i Ab, Bb a C yn y pennillion.
yn y darn arall mae o'n Bb, Eb am gwpwl o weithia cyn mynd fynny i F.

a dechra eto am wn i.

gobeithio bos hyn yn help. dim syniad be di tabs y riff sori!

Re: tabs cymraeg

PostioPostiwyd: Gwe 20 Meh 2008 9:01 am
gan Rhys Llwyd
Blynyddoedd yn ôl (pan ddechreuodd yr edefyn yma) wnes i weithio allan intro seithenyn, Big leaves (ia dwi'n gwbod, o ni rili mewn i'r gitar bryd hynny!) a rhoid o ar tabcrawler.com ond dio ddim yn erbyn 2008 a dim copi ar y cyfrifiadur gennai, deud gwir maer cyfrifiadur oedd genai bryd hynny wedi mynd ir sgip ers blynyddoedd hefyd.

Re: tabs cymraeg

PostioPostiwyd: Sad 20 Medi 2008 3:46 pm
gan Tryweryn
Chwilio an cords i ynrhyw can gan Meic Stevens. Oes rhywyn yn gallu helpu os gwelwch yn dda

Re: tabs cymraeg

PostioPostiwyd: Sad 20 Medi 2008 4:08 pm
gan Rhys Llwyd
Tryweryn a ddywedodd:Chwilio an cords i ynrhyw can gan Meic Stevens. Oes rhywyn yn gallu helpu os gwelwch yn dda


Ma na lyfr i gael o gerddoriaeth Meic. Dwi ddim yn cofio beth oedd enw'r llyfr a dydy e ddim ar gwales, amazon nac ar gatlog LLGC ond mae e yn bodoli. Galwa mewn i dy siop lyfrau Gymraeg lleol a falle fod hen gopi ail-law gyda nhw.

Re: tabs cymraeg

PostioPostiwyd: Sul 21 Medi 2008 8:52 pm
gan anffodus
Tryweryn a ddywedodd:Chwilio an cords i ynrhyw can gan Meic Stevens. Oes rhywyn yn gallu helpu os gwelwch yn dda


Dwi'm yn hollol siwr ond dwi'n meddwl na G-D-C ydi'r rhan fwya o Rue St. Michel.

Re: tabs cymraeg

PostioPostiwyd: Llun 22 Medi 2008 12:19 pm
gan Rhodri
Rhys Llwyd a ddywedodd:Ma na lyfr i gael o gerddoriaeth Meic. Dwi ddim yn cofio beth oedd enw'r llyfr a dydy e ddim ar gwales, amazon nac ar gatlog LLGC ond mae e yn bodoli. Galwa mewn i dy siop lyfrau Gymraeg lleol a falle fod hen gopi ail-law gyda nhw.


Mae o'n bodoli, ond mae o allan o brint ers blynyddoedd. Gwasg Carreg Gwalch oedd yn argraffu / cyhoeddi.

Yn y cyfamser ... Mor o Gariad -

G...............C...D.....G...C..D..G..D
Eistedd yma'n unig, ar ben fy hun
G.............C...D ...G....C.D...G
Heno sdim amynedd, i helbul byd
C...........D.....G.....C ........D........Em
ond ma'r nos yn ffoi fel ma'r byd yn troi
Em......D.....C..D ........C...D....G
Fel y mor o gariad ..... a roddais i ti
----
pennill arall a wedyn....
----
Em.........................Bm...
Hwn oedd cariad mawr, hwn oedd cariad ffol
Am..
Roeddwn i ar dan
............D
Nawr...... Sdim ar ol...
----
Pennill arall ("strydoedd oer y ddinas ....") a na fo dwin meddwl ia? MAsiwr bod y chords yn y llefydd anghywir uwchben rhai o;'r geiriau.

Re: tabs cymraeg

PostioPostiwyd: Maw 30 Medi 2008 7:55 am
gan Tryweryn
Diolch yn fawr iawn. Mae hwna wedi rhoed dechra i mi.

Beth amdan cords i'r gan Tryweryn? Oes rhywyn yn medru gweithio y cords allan?

Diolch o'r galon

Re: tabs cymraeg

PostioPostiwyd: Iau 14 Meh 2012 11:17 am
gan CordsCymraeg
Megis dechra mae o rwan, ond beth am gael pobl i gyfrannu i http://www.cordscymraeg.co.uk ?