Poeth o'r wasg:
Datganiad i’r Wasg 26/07/05
DJ Andy Votel yn perfformio i Gymdeithas yr Iaith!
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn falch o gyhoeddi y bydd y DJ enwog o Fanceinion Andy Votel yn perfformio yn eu gig yn Amser, Bangor ar nos Fercher yr Eisteddfod eleni.
Lansiwyd ei CD newydd ‘Welsh Rare Beat’ nos Sadwrn diwethaf a dros yr wythnosau diwethaf mae wedi bod ar daith gyda Gruff Rhys, prif leisydd y Super Furry Animals a’r artist fydd yn cloi’r noson sy’n argoeli i fod yn uchafbwynt yr wythnos yn Eryri eleni. Meddai Owain Schiavone, Swyddog Adloniant Cymdeithas yr Iaith:
‘Rydan ni’n falch iawn fod Andy Votel yn awyddus i barhau ei gysylltiad gyda Gruff Rhys ar gyfer y gig y Gymdeithas yng nghlwb nos Amser nos Fercher yr Eisteddfod. Mae’n un o DJs amlycaf Prydain a bydd ei ymddangosiad yn fonws ychwanegol i fynychwyr y gig hon oedd yn argoeli i fod yn un wych beth bynnag!’