Andy Votel yn perfformio i'r Gymdeithas yn 'Steddfod

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Andy Votel yn perfformio i'r Gymdeithas yn 'Steddfod

Postiogan Owain » Maw 26 Gor 2005 3:40 pm

Poeth o'r wasg:

Datganiad i’r Wasg 26/07/05

DJ Andy Votel yn perfformio i Gymdeithas yr Iaith!


Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn falch o gyhoeddi y bydd y DJ enwog o Fanceinion Andy Votel yn perfformio yn eu gig yn Amser, Bangor ar nos Fercher yr Eisteddfod eleni.

Lansiwyd ei CD newydd ‘Welsh Rare Beat’ nos Sadwrn diwethaf a dros yr wythnosau diwethaf mae wedi bod ar daith gyda Gruff Rhys, prif leisydd y Super Furry Animals a’r artist fydd yn cloi’r noson sy’n argoeli i fod yn uchafbwynt yr wythnos yn Eryri eleni. Meddai Owain Schiavone, Swyddog Adloniant Cymdeithas yr Iaith:

‘Rydan ni’n falch iawn fod Andy Votel yn awyddus i barhau ei gysylltiad gyda Gruff Rhys ar gyfer y gig y Gymdeithas yng nghlwb nos Amser nos Fercher yr Eisteddfod. Mae’n un o DJs amlycaf Prydain a bydd ei ymddangosiad yn fonws ychwanegol i fynychwyr y gig hon oedd yn argoeli i fod yn un wych beth bynnag!’
Rhithffurf defnyddiwr
Owain
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1895
Ymunwyd: Iau 14 Awst 2003 2:25 pm
Lleoliad: Aberystwyth neu Bont

Postiogan Mihangel Macintosh » Maw 26 Gor 2005 3:44 pm

Sgwp arall i'r Gymdeithas!

Mae'n debyg y bydd Andy yn gwneud ei set 100% yn y Gymraeg hefyd (er nad ydi e'n siarad Cymraeg ei hyn) ...Yn wahanol i setiau DJ y GLC yn nosweithi Maes B llynedd...
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan eusebio » Maw 26 Gor 2005 3:45 pm

8)

Nes i wir fwynhau ei set ym Mae Colwyn
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Owain » Maw 26 Gor 2005 3:47 pm

eusebio a ddywedodd:8)

Nes i wir fwynhau ei set ym Mae Colwyn


Allai'm disgwyl - heb glywed y CD 'Welsh Rare Beat' eto ond wedi clywed ei fod yn wych....all unrhywun gadarnhau?
Rhithffurf defnyddiwr
Owain
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1895
Ymunwyd: Iau 14 Awst 2003 2:25 pm
Lleoliad: Aberystwyth neu Bont

Postiogan Leusa » Mer 27 Gor 2005 11:27 am

wel myn cacen i, ma sypreisus gigs y gymdeithas yn gwella bob diwrnod! oes 'na fwy?! :D
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan Dyl mei » Iau 28 Gor 2005 9:56 am

Ffycing ace! Mae Andy Votel yn ffycing Legend, di neud mwy i cerddoriaeth cymraeg yn y flwyddyn dwetha na mae lot di neud erioed!
os fysa rhywun di deud i fi blwyddyn dwetha bod fyswn i mewn clwb yn caerdydd hefo boi o manceinion yn gwylio llwyth o saeson yn dawnsio i Ac Eraill ac Huw Jones fyswn i di chwethyn...Ond dyna ddigwyddodd wsos dwetha, Sbondonics.

ewch i http://www.finderskeepersrecords.com/ i cael clywed mwy am Rare beat... Mae Votel hefyd yn rhyddhau Sengl 7" o sdwff Kerdd Dant Gruff Meredith ar label fo a badly drawn boy sef Twisted Nerve! da wan Kont.
Rhithffurf defnyddiwr
Dyl mei
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1068
Ymunwyd: Maw 07 Ion 2003 7:01 pm

Postiogan Gorwel Roberts » Iau 28 Gor 2005 10:04 am

Be ydi'r Welsh Rare Beats yma? Ydi o wedi ailgymysgu nhw efo beats neu beth?
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Dyl mei » Iau 28 Gor 2005 10:07 am

naddo! mond y canuon gwreiddiol, llawer o petha llai obious fel
"Blodeuwedd" gan y Dilliau ne "Marw nath fy nhad" gan morris elfryn! ac petha mwy amlwg fel Rhywun wedi dwyn fy nhrwyn ect ect.
Rhithffurf defnyddiwr
Dyl mei
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1068
Ymunwyd: Maw 07 Ion 2003 7:01 pm

Postiogan Meic P » Iau 28 Gor 2005 10:19 am

dyma'r traciau.

1. Nia Ben Aur - Chi Sydd Ar Fai
2. Bran - Y Gwylwyr
3. Huw Jones - Mathonwy
4. Sidan - Di Enw
5. Elleri Llwyd - Hwiangerdd
6. Endaf Emlyn - Dawns Y Pair
7. Y Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog - Cwmwl Gwym
8. Yr Atgyfodiad - Cynnwrf Yn Ein Gwlad
9. Gillian Elisa - Hedfan
10. Morus Elfryn - Marw A Wnaeth Dy Dad
11. Meic Stevens - Y Brawd Houdini
12. Heather Jones - Nos Du
13. Gorffenwyd ­ Y Cynllwyn
14. Y Tebot Piws - Godro'r Fuwch
15. Eleri Llwyd - O Gymru
16. Edward H. Dafis - Y Penderfyniad
17. Bran - Dyddiau Dwys
18. Y Diliau - Blodeuwedd
19. Huw Jones - Dwr
20. Edward H. Dafis - Calan Gaeaf
21. Bran - Breuddwyd
22. Meic Stevens - Y Crwydryn A Mi
23. Y Tebot Piws - Mae Rhywyn Wedi Dwyn Fy Nhrwyn
24. Heather Jones - Penhryn Gwyn
25. Titch Gwilym - Hen Wlad Fy Nhadau
Wel ma' hi'n canu yn y côr
Dwylo Dros y Môr
Rhithffurf defnyddiwr
Meic P
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1191
Ymunwyd: Iau 08 Mai 2003 11:45 am
Lleoliad: Llandyfam

Postiogan Gorwel Roberts » Iau 28 Gor 2005 10:26 am

Esgob mawr! Argoledig anygoel!
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Nesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 19 gwestai

cron