gan Gwyn Eifyd » Iau 11 Awst 2005 5:55 pm
Mae hi'n casgliad uffernol o dda - nifer o ffefrynau fel “Dwr”, “Nos Du”, lot o stwff Bran dwi heb glywed o’r blaen. Ma lot ohono fo yn fy atgoffa o petha fel David Axelrod, artist o’r 70au gafodd ei anwybyddu am flynyddoedd cyn i labeli ‘cwl’ fel Mo Wax ei atgyfodi.
Dwi’n gwbod fod y cwestiwn yma di gal ei ofyn o’r blaen – ond pryd ma Sain yn mynd i godi off eu penolau diog ac ail-rhyddhau rhai o’r clasur albyms ar CD? Dwi’n siwr fod na galw. Unrhywun o Sain yn darllen hwn? Get on with it! (a tra dwi wrthi, ma’ch gwefan chi’n shit hefyd)