Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Iau 28 Gor 2005 10:33 am
gan Meic P
Crysau T cool iawn ar gael hefyd

RETRO YW'R GAIR

Delwedd Delwedd Delwedd

Dwi di bagsio'r un glas yn barod - bechod mai dim ond i Large ma nhw'n mynd de Dyl :winc:

PostioPostiwyd: Iau 28 Gor 2005 10:36 am
gan Dyl mei
di bwcior un brown ers wsnosa Meic P, hei dwin fittio large nawr sdi!
ddim fel y chdi, fydd i fel tent! :D

PostioPostiwyd: Iau 28 Gor 2005 10:36 am
gan Wilfred
Dwi am gael y crys oren a du.

PostioPostiwyd: Iau 28 Gor 2005 10:42 am
gan Meic P
Dyl mei a ddywedodd:di bwcior un brown ers wsnosa Meic P, hei dwin fittio large nawr sdi!
ddim fel y chdi, fydd i fel tent! :D


dwi di cal Medium dude!

PostioPostiwyd: Iau 28 Gor 2005 10:49 am
gan Dyl mei
y joc ydi, os fysa rhywun heblaw am Votel yn chwarae rhain mewn gig yn y sdeddfod fysa pawb yn meddwl be ffwc di hyn! bechod bod mae o yn cymerd sais i neud rhai pobol gwerthfawrogi ein hanes cerddorol gwych

PostioPostiwyd: Iau 28 Gor 2005 10:57 am
gan Gorwel Roberts
Gwir a ddywedi, dan ni mor ddihyder dan ni'n gorfod cael Saeson cwl fel Votel a Peel i roi kudos i'n diwylliant, a diolch iddyn nhw am wneud chwarae teg

PostioPostiwyd: Mer 10 Awst 2005 10:30 am
gan Meic P
Wedi derbyn y CD yn y post bora ma. Neis iawn.

Yr hyn dwi'n hoffi ydi'r pwt bach Saesneg yn esbonio am y grwps i'r bobl sy falle'n gwrando am y tro cynta. Pan yn son am Arfon Wyn ma nhw'n llwyddio i gyfieithu y Moniars i "the Ynys Mon-sters"! :D

PostioPostiwyd: Mer 10 Awst 2005 11:22 am
gan Owain
Ma'r CD, heb y clawr, wedi glanio yng nghanol yn CD's i odd yn Amser w'snos dwytha felly dwi di bod yn gwrando arno fo ers dod nol - mae o'n shit-hot chwara teg. AV yn foi uffernol o neis hefyd chwara teg

PostioPostiwyd: Iau 11 Awst 2005 5:55 pm
gan Gwyn Eifyd
Mae hi'n casgliad uffernol o dda - nifer o ffefrynau fel “Dwr”, “Nos Du”, lot o stwff Bran dwi heb glywed o’r blaen. Ma lot ohono fo yn fy atgoffa o petha fel David Axelrod, artist o’r 70au gafodd ei anwybyddu am flynyddoedd cyn i labeli ‘cwl’ fel Mo Wax ei atgyfodi.

Dwi’n gwbod fod y cwestiwn yma di gal ei ofyn o’r blaen – ond pryd ma Sain yn mynd i godi off eu penolau diog ac ail-rhyddhau rhai o’r clasur albyms ar CD? Dwi’n siwr fod na galw. Unrhywun o Sain yn darllen hwn? Get on with it! (a tra dwi wrthi, ma’ch gwefan chi’n shit hefyd)

PostioPostiwyd: Sul 08 Ion 2006 5:12 pm
gan Rhys Llwyd
Dyl mei a ddywedodd:y joc ydi, os fysa rhywun heblaw am Votel yn chwarae rhain mewn gig yn y sdeddfod fysa pawb yn meddwl be ffwc di hyn! bechod bod mae o yn cymerd sais i neud rhai pobol gwerthfawrogi ein hanes cerddorol gwych


Ie, hyn yn drist. Cryfhau'r ddelwedd fod rhaid cael sel bendith y sais. Fel y duwch yna nol yn y 90au o'r enw 'Cool Cymru'.