Edward H
Postiwyd:
Gwe 25 Hyd 2002 8:02 pm
gan Hogyn o Rachub
Fedar rywun ddweud wrtha i, gyda eithriad cryno-ddisg "Edward H Dafis 20 o'r Caneuon Gorau" rhyw recordiau arall y rhoddodd y band allan ag o lle 'swn i'n gallu 'u cael nhw?
Diolch!
Postiwyd:
Gwe 25 Hyd 2002 9:16 pm
gan nicdafis
"Hen Ffordd Gymreig o Fyw" oedd un o'r recordiau gwreiddiol. Ffeindais i gopi mewn sĂȘl cist car yn Nhanygroes.
Wyt ti wedi trial E-bay? Mae bob math o stwff yn ymddangos yno.
Postiwyd:
Gwe 25 Hyd 2002 9:39 pm
gan Prysor
Hen Ffordd Gymreig o Fyw, Ffordd Newydd Eingl-Americanaidd Gret o Fyw, Yn erbyn y Ffactore, Plant y Fflam a dwi'n siwr bod un albym arall dwi wedi anghofio. Sgennai run ohonyn nhw. Y ffordd orau i'w cael nhw ydi dwyn rhai gan hen stejars (brawd neu chwaer mawr, tad neu fam neu beth bynnag).
Clasur bob un, chwarae teg.
Re: Edward H
Postiwyd:
Sad 26 Hyd 2002 7:44 pm
gan Mihangel Macintosh
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Fedar rywun ddweud wrtha i, gyda eithriad cryno-ddisg "Edward H Dafis 20 o'r Caneuon Gorau" rhyw recordiau arall y rhoddodd y band allan ag o lle 'swn i'n gallu 'u cael nhw?
Ma stwff Edward H. Dafis ar werth o wefan
Saindwi wedi lleolli'r dudalen perthnasol
fan hyn i ti.