Penblwydd Hapus i Radio Amgen

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Penblwydd Hapus i Radio Amgen

Postiogan huwwaters » Iau 31 Hyd 2002 5:57 pm

Pob dymuniadau da, a cofia ddim i roi fyny, achos dwi'n licio grando arno.

Hwyl
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan DJ Lambchop » Iau 31 Hyd 2002 6:11 pm

Diolch am dy adborth Huw, falch o glywed dy fod ti'n mwynhau gwrando. Bydd sioe wythnos nesaf, sioe 50, yn fformat MP3. I unrhywun gyda broadband, ddylse fe islwytho mewn eiliadau, neu os oes gynnych chi gysylltiad slyg-aidd 56k fel sydd gen i, yna ddylse gymryd 10-11 munud.
Rhithffurf defnyddiwr
DJ Lambchop
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 152
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:08 pm
Lleoliad: Cymru rhythwir

Postiogan huwwaters » Iau 31 Hyd 2002 10:47 pm

Pa bitrate ydio wedi ei encodio mewn?

Os na 32KBPS y medrwch ei agor a'i chwarae ar yr un pryd.

Efo Winamp, cliciwch ar Open Location, rhowch gyfeiriad y ffeil i mewn a ddylie fo ddechre chwarae.

Neu medrith DJ Lambchop rhoi ffeil 'playlist' ar ei wefan, pan ceith hwn ei agor wneith o agor Winamp a dechre chwarae's ffeil.

http://www.winamp.com/

Hwyl
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan nicdafis » Iau 31 Hyd 2002 11:19 pm

DJ Lambchop a ddywedodd:Bydd sioe wythnos nesaf, sioe 50, yn fformat MP3.


Mae MP3 yn lot well i bobl fel fi, sy'n gadael eu cyfrifiadur i lawr-lwytho stwff dros nos pan dydyn ni ddim yn eu defnyddio, wedyn gallwn ni wrando ar y MP3s a syrffio'r un pryd.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Mp3, Ogg Vorbis a fformats gyda enwau rhyfedd eraill

Postiogan DJ Lambchop » Gwe 01 Tach 2002 12:50 am

huwwaters a ddywedodd:Pa bitrate ydio wedi ei encodio mewn?

Os na 32KBPS y medrwch ei agor a'i chwarae ar yr un pryd.

Efo Winamp, cliciwch ar Open Location, rhowch gyfeiriad y ffeil i mewn a ddylie fo ddechre chwarae.

Neu medrith DJ Lambchop rhoi ffeil 'playlist' ar ei wefan, pan ceith hwn ei agor wneith o agor Winamp a dechre chwarae's ffeil.

http://www.winamp.com/

Hwyl


Helo Huw,

Ma fe'n 16 KBPS - felly fe ddylid di'n allu ei agor a'i chware'r un pryd felly.

...Ond hang on byti, ti'n cymryd yn ganiatawol mod i'n defnyddio PC....

Dwi'n defnyddio Mac fel Nic (helo gyd-Fac Ddyn!) Diw'r fershwn Mac o Winamp, sef WinampMac ddim hanner cystal a'r fershwn PC o rhan be elli di neud gyda fe. Well da fe chwaraewyr a encoders iTunes, MacAmp a Auditon.

Yn ddiweddar, mi ydw i a gweinyddydd Technegol Radio Amgen (shout mawr allan i Dafydd!) wedi bod yn edrych i mewn i'r posibiliadau o neud y sioeau mewn i fformat groes-blatfform Ogg Vorbis, ond wedi cael llawer o drafferth gyda fe - crasho'r blydi computar neu'n hyd yn oed yn dadgysylltu'r cysylltiad dial-up pan yn ei ddefnyddio (!)

Pan ti'n son am playlist, wy ti'n golygu ffeiliau .m3u ? Os felly ti'n gwybod sut allai neud hyn? I fod yn onest dwi'm yn meindio y fformat Real, ond ma llawer yn gweld e'n boen yn y pen-ol, ac yn ddelfrydol dwi am neud y 50 sioe nesaf yn fformat MP3, ond fel fod e'n dechre chwarae'n syth bin.

Base ni'n hoffi gallu streamio'r sioe wrthgwrs, ond sda fi ddim y cyllid fel sydd gan Acen i streamio ei gorsaf nhw www.radioacen.fm a hefyd ti methu streamio gyda Mac ar hen o bryd!

Hwyl am y tro

Chops
Rhithffurf defnyddiwr
DJ Lambchop
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 152
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:08 pm
Lleoliad: Cymru rhythwir

Re: Mp3, Ogg Vorbis a fformats gyda enwau rhyfedd eraill

Postiogan dafydd » Gwe 01 Tach 2002 12:19 pm

DJ Lambchop a ddywedodd:Pan ti'n son am playlist, wy ti'n golygu ffeiliau .m3u ? Os felly ti'n gwybod sut allai neud hyn? I fod yn onest dwi'm yn meindio y fformat Real, ond ma llawer yn gweld e'n boen yn y pen-ol, ac yn ddelfrydol dwi am neud y 50 sioe nesaf yn fformat MP3, ond fel fod e'n dechre chwarae'n syth bin.


Pan ga'i funud, dwi am ychwanegu'r gallu i greu playlist MP3 yn yr un fath a mae'r safle ar hyn o bryd yn creu 'playlist' Real. Hynny yw, mae'n bosib islwytho ffeiliau rm o'r wefan ar hyn o bryd os yw rhywun yn gwybod le i edrych, ond fod y cyswllt i bob sioe ar hyn o bryd yn lawnsio RealPlayer i roi darllediad 'byw' (ish).
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan huwwaters » Gwe 01 Tach 2002 4:38 pm

Wel, dyma beth dwi'n ei wneud:

Fyny-lwytho'r ffeil MP3.

Rho hwn mewn ffeil gwag a'i enwi i rhywbeth fel 'playlist.pls', mae'n rhaid cael yr .pls:

[playlist]
NumberOfEntries=1
File1=http://www.radioamgen.com/sioe/100/sioe100.mp3
Title1=RADIO AMGEN - Sioe #100
Length1=-1
Version=2

Dylai hwn gweithio efo Winamp rwan. Hefyd mae Winamp yn Open Source, so os ydych yn cael trafferthion agor y ffeil hwn, cerwch i'r developer community a edrych am ddatrysiad.

http://www.winamp.com/

http://www.spookey.co.uk/

Hwyl
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

y pump dim mawr

Postiogan DJ Lambchop » Iau 07 Tach 2002 12:00 am

Iawn? Fyddwch chi'n falch o glywed bod fformat y sioeau nawr ymlaen yn newid drosodd i MP3.

Mae Sioe #50 newydd fynd ar lein, a gallwch chi wrando ar ffrwd MP3 neu eu islwytho. Os da chi'n cael unrhyw drafferthion yn gwrando neu'n islwytho, <a href="mailto:djlambchop@radioamgen.com">e-bostiwch</a> fi.
Rhithffurf defnyddiwr
DJ Lambchop
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 152
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:08 pm
Lleoliad: Cymru rhythwir

Diolch

Postiogan DJ Lambchop » Iau 07 Tach 2002 12:02 am

Diolch i Dafydd am ei gymorth technegol. Neis wan brawd.
Rhithffurf defnyddiwr
DJ Lambchop
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 152
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:08 pm
Lleoliad: Cymru rhythwir

Postiogan huwwaters » Iau 07 Tach 2002 8:28 pm

Gweithio fel gem!
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm


Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai

cron