Nath penodiad Meirion Davies fel Comisiynydd Rhaglenni Ieuenctid ym 1992 effectively "lladd" yr SRG fel oedd hi ar y pryd achos gafodd o wared o 'Fideo 9'.
Y gwirionedd am y sefyllfa oedd bod niferoedd gwylio'r rhaglen wedi gostwng yn aruthrol ac roedd cyllideb enfawr ar y rhaglen (lot mwy sy ar gael dyddiau yma i raglenni cyffelyb) oedd ddim yn cyfiawnhau parhad y rhaglen.
A'r ffaith bod Meirion Davies ddim efo fawr o ddiddordeb mewn cerddoriaeth gyfoes ar y pryd (a hyd heddiw). Oedd o'n sefyllfa 'survival of the fittest' mewn ffordd. Sink or swim. A'r rheinny oedd yn gallu nofio, wel, fe aethon nhw i nofio dros y ffin ar ol cwpl o flynyddoedd o barhau efo canu trwy'r Gymraeg.
Erbyn '93 a '94 dim ond llond llaw o fandiau Cymraeg "pur" oedd gennych chi. Roedd Gorkys 'di dechrau dringo'r ysgol tu allan i Gymru, roedd Catatonia yn recordio yn Saesneg, daeth Ffa Coffi i ben a'r Crumblowers a Hanner Pei a Beganifs. Dim ond Diffiniad dwi'n gallu cofio fel grwp oedd yn boblogaidd, yn headlinio gigs mawr ac yn dal i recordio'n unaiaith Gymraeg (a dwi ddim yn bod yn biased fan hyn
)
Erbyn '95 roedd o'n gyfnod tywyll iawn ac er i raglenni fel 'I-Dot' ('96-2000) a 'Garej' ('97-'99) adelwyrchu be oedd yn mynd ymlaen, doedd fawr dim o enwau cofiadwy i gael yn y cyfnod '95 - '97. Tua diwedd y cyfnod yma daeth Tystion i'r amlwg ac Anweledig a Big Leaves, ac i fi, dim tan '99 (fyswn i'n dweud) oedd y SRG nol ar ei thraed gyda bandiau mawr o safon a phoblogrwydd.
I can't control my heart rate, I got a cougar on me.