Ble Wyt Ti Rhwng? gan Hefin Wyn

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ble Wyt Ti Rhwng? gan Hefin Wyn

Postiogan Lals » Sul 23 Ebr 2006 9:34 pm

Oes rhywun wedi darllen Blerwytirhwng? Hanes canu poblogaidd Cymraeg o 1980-2000 gan Hefin Wyn eto? Beth dych chi'n feddwl? Dw i bron wedi ei orffen ond rhaid i mi gyfaddef dw i wedi neidio dros ambell i bennod.
"ti'n gwybod be i neud pan dwisio mwytha"
Lals
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 237
Ymunwyd: Mer 08 Maw 2006 9:27 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan nicdafis » Llun 24 Ebr 2006 3:33 pm

Ddim wedi cael copi eto, ond dw i'n edrych ymlaen at ei ddarllen.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan dafydd » Llun 24 Ebr 2006 3:47 pm

Dwi newydd archebu hwn o Gwales hefyd. Roedd y llyfr blaenorol gan Hefin Wyn (yn dilyn yr hanes o 1940au i 1980) yn dda ond mi fydd hwn mwy o ddiddordeb i fi.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan Cawslyd » Llun 24 Ebr 2006 5:16 pm

Dwi di cal cipolwg ar y llyfr, swnio'n ddiddorol ond efallai braidd yn hirwyntog. Dwi'n bwriad'i brynu o, ddo.
Cawslyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1832
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 6:43 pm

Postiogan Iwan » Mer 26 Ebr 2006 10:30 pm

Edrych ymlaen i'w ddarllen. Ydio yn y siopau lleol eto??
Iwan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 109
Ymunwyd: Llun 30 Mai 2005 10:58 am
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan løvgreen » Iau 04 Mai 2006 11:00 am

Dwi wrthi'n ei ddarllen o. Mae o'n swmpus iawn, ond dwi'm yn dallt pam y base dyn yn mynd ati i sgwennu llyfr mor swmpus, ond wedyn ddim yn trafferthu i gael ei ffeithiau'n gywir.
O safbwynt personol, mae'n dweud fy mod i wedi dysgu Cymraeg. Ar ba sail? Am fod gen i gyfenw diarth? Dwi'n cymryd hynny fel insylt i'm rhieni, yn awgrymu na wnaethon nhw basio'r iaith ymlaen imi.
Mae hefyd yn deud fy mod i efo'r grwp Doctor pan o'n i'n fyfyriwr yn Aberystwyth. Anghywir eto, Hef.
Rwan ydw i i fod i goelio be mae o'n ddeud am bawb arall?
Pan oedd Hefin Wyn yn golofnydd pop yn y Cymro roeddech chi wastad yn gorfod cymryd ei sgribliadau gyda phinsiad go lew o halen.
Mae angen sachaid o halen efo'r llyfr yma, yn anffodus.
Rhithffurf defnyddiwr
løvgreen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 863
Ymunwyd: Iau 10 Ebr 2003 11:08 pm

Postiogan benni hyll » Iau 04 Mai 2006 11:32 am

Sori i glywed am dy deimladau am y wybodaeth anghywir Geraint. Trueni bod hwn wedi lliwio dy olwg ar weddill gwaith caled Hefin Wyn.

Byswn i'n hoffi dweud mod i di darllen y 100 tudalen gynta, a fel rhywun oedd ddim yn gwybod am gerddoriaeth Gymraeg tan oni'n 16 (16 mlynedd yn ol!) dwi'n ffeindio'r llyfr yn un diddorol a defnyddiol dros ben. Petai llyfr o'r fath neu hyd yn oed y wybodaeth graidd ar gael pan oni'n 16 fyswn i di neidio ar y cyfle i ddarllen am hanesion y sin roc yn ei hieuenctid. Yn anffodus, roedd rhaid i mi addysgu fy hun am gerddoriaeth Gymraeg sy di bod yn lot o waith a di cymryd lot o fwydro pobl hyn (to bach) i ffeindio pethau allan!

Darllenais i'r llyfr cynta', 'Be Bop A Liwla'r Delyn Aur' ac oedd o'n lyfr ffantastic. Ma' hwn yn mynd i'r un trywydd ar hyn o bryd. I rywun fatha fi gath ei fagu ar aelwyd di-Gymraeg ma'r elfennau hanesyddol yn holl-bwysig i fi. Nid yn unig y ffeithiau am y gerddoriaeth sydd o ddiddordeb i fi ond y cyd-destun hanesyddol ma' Hefin Wyn yn gosod y gerddoriaeth ynddo. Well gen i o lawer ddarllen llyfr fel hwn i ddysgu am hanes fy ngwald a cherddoriaeth y wlad honno na rhyw lyfr hanes 'swyddogol'.

Dwi'n credu dyle unrhywun sydd yn darllen neu'n cyfrannu at yr edefyns yn y seiat gerddorol ar y maes brynu'r llyfr a'i ddarllen. Mae'r wybodaeth sydd ynddo yn amhrisiadwy os dych chi'n ffan o gerddoriaeth Gymraeg gyfoes. Er mwyn gwerthfawrogi lle dyn ni ni heddiw mae'n rhaid gwybod am y gorffennol.
I can't control my heart rate, I got a cougar on me.
Rhithffurf defnyddiwr
benni hyll
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2065
Ymunwyd: Llun 16 Chw 2004 2:19 pm

Postiogan løvgreen » Iau 04 Mai 2006 11:37 am

benni hyll a ddywedodd:Mae'r wybodaeth sydd ynddo yn amhrisiadwy os dych chi'n ffan o gerddoriaeth Gymraeg gyfoes. Er mwyn gwerthfawrogi lle dyn ni ni heddiw mae'n rhaid gwybod am y gorffennol.

Yn hollol, dwi'n cytuno efo ti, ond os ydi'r wybodaeth yn anghywir pa werth ydio wedyn?
Rhithffurf defnyddiwr
løvgreen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 863
Ymunwyd: Iau 10 Ebr 2003 11:08 pm

Postiogan sian » Iau 04 Mai 2006 12:00 pm

[quote="l
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Iesu Nicky Grist » Iau 04 Mai 2006 12:22 pm

[quote="l
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Nesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron