Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd
Gorwel Roberts a ddywedodd:mi bryna' i Barn
Ie, a fedri di enwi cylchgrawn Cymraeg gwell? (a paid a deud Golwg )Gorwel Roberts a ddywedodd:Tydi Barn yn da i ddim fel papur toiled, fel y papur Izal mae fy modryb yn ei brynu. Ond pam wyt ti mor wyllt o feirniadol ohono?
Hefin Wyn a ddywedodd:Am fod Ifor ap Glyn yn tynnu sylw yn ei adolygiad ar dudalennau Barn at wallau ffeithiol ni fedraf ond ymddiheuro mewn sachliain a lludw am y llithriadau. Gresyn fy mod wedi disgrifio Geraint Lovgreen fel dysgwr. Deallaf ballach bod ganddo un rhiant a fedrai'r Gymraeg a bod yr iaith wedi ei throsglwyddo iddo ar yr aelwyd. Gresyn i mi ddatgan ei fod yn aelod o'r grwp Doctor pan oedd yn y coleg. Ar ôl gadael coleg yr ymunodd â'r grwp, wrth gwrs. Mawr hyderaf, fodd bynnag, fy mod, gyda chymorth hogiau Cytgord (tud 56) wedi llwyddo i gydnabod ei ddawn ddeifiol ddychanol fel perfformiwr a chyfansoddwr - ac wedi sillafu ei gyfenw'n gywir yn y llyfr. Ymddiheuriadau i eraill sydd wedi eu camenwi mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Gobeithio nad yw'r llithriadau wedi amharu'n ormodol ar ymdrech y naratif i dafoli eu cyfraniad i'r maes adloniant. Ond wedyn rhaid amau cywirdeb Ifor pan ddywed mai `plentynnaidd` yw cymharu rhefru gitarau'r Anhrefn â swn tri thractor yn pabwyro. Onid yw'r Llundeiniwr wedi clywed tri Ffergi tanwydd TVO yn ei hagor hi mas? Rhaid canmol bechgyn Anhrefn an greu swn cyffelyb. Dyna un o hanfodion y swn pync tanddaearol; y gwrthwyneb i swynoldeb. Crasder a fedrai ferwino'r clustiau. Roedd cyfraniad y grwp yn fwy na hynny, wrth gwrs. Sonia am hynny yn yr un gwynt â'm hymgais i achub cam Bryn Fôn am y beirniadu annheg a fu arno yntau. Yn wir, ni chredaf i ddim mwy `plentynnaidd` ddigwydd yn y byd roc Cymraeg na'r beirniadu maleisus ac anaeddfed a fu ar gyfraniad Sobin/Bryn, yn arbennig ar dudalennau Sothach. Bydd caneuon diamser Bryn Fôn, llawer ohonyn nhw'n gyfansoddiadau'r digymar Emyr Huws Jones, fyw am getyn go lew o gymharu â chaneuon Yr Anhrefn a berthynent i gyfnod penodol. Eto dywed fy mod yn `wawdlyd` yn fy hymdriniaeth o benderfyniad Mike Peters i ganu'n Gymraeg. Ni all gynnig tystiolaeth i gefnogi'r gosodiad am nad oes dim ar gael. "Troi at gefnogi'r Gymraeg fel ei gyfraniad at achub amrywiaeth y byd wnaeth Mike Peters. Dyna oedd ei weledigaeth rhag gorseddu'r unffurfiaeth imperialaidd oedd yn rhan o unrhyw batrwm Americanaidd." Dyna fy ymgais i dafoli ei gyfraniad. Prin fod yna wawd yn y geiriau uchod. Teg fyddai dweud bod rhai o'r pwnditiaid a ddyfynnir yn amau gradd ei lwyddiant wrth berfformio'n Gymraeg. Ond nis gwawdir. Ceir enghreifftiau eraill o gamarwain y darllenydd.
Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 32 gwestai