gan Madrwyddygryf » Llun 07 Awst 2006 12:50 pm
Dwi’n wrthi’n darllen y llyfr nawr, ac i ddeud y gwir dwi’n cael hi’n anodd i gadw ddiddordeb. Mae’n edrych fel bod yr awdur wedi eistedd lawr o flaen y cyfrifiadur gyda phentwr o hen gopïau Golwg, Y Cymro, Y Faner a Sothach. Mae strwythur y llyfr yn reit ddiawen, yn rhestru hanes y bandiau/artistiaid yn lle ymdrechu i ymafael yr ysbryd tu ôl i’r sin. Pam na wnaeth yr ymdrech i siarad gyda rhai o artistiaid yn lle orddibynnu ar golofnau ac adolygiadau mewn papurau Cymreig ?
Ar y llaw arall, mae’n dda ei fod wedi cydnabod pwysigrwydd artistiaid lot mwy canol ffordd megis John ac Alun, Bryn Fôn a Neil Rosser. Oedd hanes Sobin a Smaeliaid yn ddiddorol, yn atgoffa fi pa mor boblogaidd oedd nhw yn y nawdegau cynnar.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|