gan benni hyll » Iau 04 Mai 2006 11:32 am
Sori i glywed am dy deimladau am y wybodaeth anghywir Geraint. Trueni bod hwn wedi lliwio dy olwg ar weddill gwaith caled Hefin Wyn.
Byswn i'n hoffi dweud mod i di darllen y 100 tudalen gynta, a fel rhywun oedd ddim yn gwybod am gerddoriaeth Gymraeg tan oni'n 16 (16 mlynedd yn ol!) dwi'n ffeindio'r llyfr yn un diddorol a defnyddiol dros ben. Petai llyfr o'r fath neu hyd yn oed y wybodaeth graidd ar gael pan oni'n 16 fyswn i di neidio ar y cyfle i ddarllen am hanesion y sin roc yn ei hieuenctid. Yn anffodus, roedd rhaid i mi addysgu fy hun am gerddoriaeth Gymraeg sy di bod yn lot o waith a di cymryd lot o fwydro pobl hyn (to bach) i ffeindio pethau allan!
Darllenais i'r llyfr cynta', 'Be Bop A Liwla'r Delyn Aur' ac oedd o'n lyfr ffantastic. Ma' hwn yn mynd i'r un trywydd ar hyn o bryd. I rywun fatha fi gath ei fagu ar aelwyd di-Gymraeg ma'r elfennau hanesyddol yn holl-bwysig i fi. Nid yn unig y ffeithiau am y gerddoriaeth sydd o ddiddordeb i fi ond y cyd-destun hanesyddol ma' Hefin Wyn yn gosod y gerddoriaeth ynddo. Well gen i o lawer ddarllen llyfr fel hwn i ddysgu am hanes fy ngwald a cherddoriaeth y wlad honno na rhyw lyfr hanes 'swyddogol'.
Dwi'n credu dyle unrhywun sydd yn darllen neu'n cyfrannu at yr edefyns yn y seiat gerddorol ar y maes brynu'r llyfr a'i ddarllen. Mae'r wybodaeth sydd ynddo yn amhrisiadwy os dych chi'n ffan o gerddoriaeth Gymraeg gyfoes. Er mwyn gwerthfawrogi lle dyn ni ni heddiw mae'n rhaid gwybod am y gorffennol.
I can't control my heart rate, I got a cougar on me.