gan Gwyrosydd » Sul 11 Meh 2006 3:13 pm
Dwi newydd orffen darllen y gyfrol ac am ymateb rhyw ychydig.
Mae Hefin Wyn wedi gweithio'n galed ar y llyfr - llawer o waith ymchwil a phob clod iddo am hynny.
Fodd bynnag, fel un oedd, dwi'n credu, yng nghanol y sin drwy'r 80au a'r rhan fwyaf o'r 90au, dwi'n teimlo yn y pendraw fod Hefin Wyn wedi methu'r pwynt yn gyfangwbl.
Mae tuedd i'w farn ogwyddo'r gwir, a'r farn honno yn deillio o ddiffyg deall y sefyllfa. Dwi'n cyfeirio yn benodol at ei dristwch o weld Sobin a'i gyfeillion yn cael amser caled gan Sothach ac ati, ynghyd a'i farn am yr Anhrefn a'r byd cerddoriaeth danddaearol fu drwy'r ddau ddegawd. Hefyd hoffwn rannu gair neu ddau am ganu'n Saesneg.
'Roedd dau reswm dros gynnal diwylliant poblogaidd Cymraeg ei iaith. Y cyntaf oedd i hyrwyddo'r iaith ymhlith ieuenctid Cymru ac i geisio, yn ol delfryd Rhys Mwyn, rhoi'r gair cwl a'r Gymraeg yn yr un frawddeg. 'Roedd e'n fwriad gwbl wleidyddol - ceisio perswadio Cymry ifanc oedd yn gallu'r Gymraeg, neu nad oedd yn gallu'r Gymraeg, i wrando ar yr iaith yn naturiol ac i ymddiddori ynddi, a gobeithio - ei dysgu a'i siarad. Yr ail reswm oedd i ddiddanu - y Cymry Cymraeg yn bennaf, ond unrhywun oedd yn fodlon gwrando.
Mae'n deg dweud nad oedd y rhan fwyaf o'r bandiau wedi deall yr uchod - 'roedden nhw'n ddifrifol gymeryd eu hunain o ddifri ac yn credu eu bod am newid y byd gyda'u cerddoriaeth a chaneuon am gariad coll ac ati. Ond 'roedd rhai, wrth gwrs, yn deall y crac.
Af i fanylu. Er mwyn cynnal byd o ddiwylliant Cymraeg i ddenu'r ieuenctid 'roedd yn angenrheidiol cael rhan o'r sin yn danddaearol, a'r rheini yn casau'r Sobins ac ati ar goedd. 'Roedd hi'n hollbwysig fod Sothach a'i debyg yn lladd ar y canu pop canol y ffordd er mwyn rhoi hygrededd i'r sin danddaearol. Drwy wneud hyn 'roedd hi'n bosib cael dwy sin Gymraeg yn cydfyw gyda gwrthuni iachus rhyngddynt. Byddai gan ddwy sin gyfle i ddylanwadu ar ddau griw o gefnogwyr. 'Roedd yr adolygwyr ac ati yn ddigon call i ddeall hynny ac i hyrwyddo'r elyniaeth ffug er mwyn creu delwedd o ddwy sin. 'Roedd Rhys Mwyn a'i griw yn deall hynny ac mae'n rhyfedd ystyried efallai nad oedd Bryn Fon a'r gang yn ei ddeall yn yr un modd (dwi'n cofio Bryn Fon yn ymosod yn eiriol i wyneb un o'r rhai fu'n lladd arno yn Sothach). Artiffisial llwyr oedd yr elyniaeth. Gem oedd hi, chwarae'r gem oedd bois Sothach a chwarae'r gem oedd pawb oedd gyda unrhyw grap ar wleidyddiaeth y sin. Nid oedd yn wahanol o gwbl i'r NME yn lladd ar Queen a'r gobaith oedd y byddai'r canlyniadau gwleidyddol yn y pendraw yn hyrwyddo'r Gymraeg a Chymreictod. Yr unig reswm i grwpiau fynd i ganu ar draws Lloegr drwy gyfrwng y Gymraeg oedd i geisio ol-ddylanwadu ar y gynulleidfa Gymraeg gartref - h.y. y meddwl oedd pe byddai ieuenctid dinasoedd Lloegr yn cael eu dylanwadu i feddwl fod canu'n Gymraeg yn dderbyniol, yna byddai ieuenctid Cymru yn dilyn ol troed y feddylfryd honno.
Hyd yn oed heddiw fe welwn y kids cwl yn gwrthod hoffi Pheena, Mega ac ati. Er budd y sin Gymraeg mae hynny yn hollol iach ac yn creu nifer o lefelau o genfogwyr i'r sin.
Felly, o ystyried ymateb Hefin Wyn i'r holl gythrwfl a'i honiadau y byddai caneuon Sobin yn cael eu canu am ddegawdau ond nad oedd caneuon yr Anhrefn yn fwy na rant gwleidyddol a neidio lan a lawr, mae'n amlwg ei fod, yn syml iawn, wedi methu'r pwynt yn llwyr ac wedi methu deall cyd-destun gwleidyddol pop Cymraeg yr 80au a'r 90au.
Yr ail beth yw'r canu'n Saesneg. Unwaith eto mae Hefin Wyn yn ystyried y mater drwy eiriau y pobl oedd yn trafod y peth ar y pryd. Call iawn efallai. Ond mae'n methu deall pwysigrwydd gwleidyddol canu'n Gymraeg. 'Roedd/Mae canu'n Gymraeg a gwrthod canu'n Saesneg yn ddatganiad gwleidyddol bendant ddi-amwys. Rhaid gofyn beth yw'r ddelfryd o ganu roc-a-rol? Chwyldro ieuenctid? Gwneud beth ydych chi eisiau? Hyrwyddo syniadaeth wleidyddol? Tybed? Mi wn i un peth - nid gwneud arian yw'r ddelfryd, er efallai fod arian yn sgil effaith i rai. Yr unig reswm oedd i grwpiau droi i ganu'n Saesneg oedd i gael gwneud bywoliaeth. Nid roc a rol yw hynny, ond cyfalafiaeth. Ac o ystyried fod canu'n Gymraeg yn ddatganiad gwleidyddol ni ellir feddwl am droi i ganu mewn iaith arall am arian yn ddim llai na bradychu'ch mamiaith. 10 darn arian unrhywun? The Great Rock and Roll Swindle.
Heddiw fe welwn fod Cymry ifanc yn rhoi eu hariangarwch o flaen eu treftadaeth. Siaradais gydag aelod o grwp newydd nos Wener ar ol gwrando arnynt mewn clwb Cymraeg yn canu 9 can Gymraeg ac un Saesneg. 'Roeddwn i'n methu deall y synnwyr mewn canu un gan Saesneg ac yna'n rhoi recordiau Saesneg ymlaen ar ddiwedd y set. Yr holl reswm i mi fynd i glwb Cymraeg yw i glywed cerddoriaeth Gymraeg - petaswn i eisiau clywed miwsig Saesneg mi fyddwn i wedi mynd i un o'r degau o glybiau Saesneg rownd y gornel. Gofynnais i gannwr y grwp pam eu bod nhw gydag un gan Saesneg ac enw Saesneg i'r grwp. 'Roedd yr ymateb sinigaidd yn ddychryn i mi. Dywedodd yn eglur nad oedd eisiau canu yn y Gymraeg ac mai ei fwriad oedd canu yn y Saesneg yn y pendraw, ond fod y grwp wedi gwneud penderfyniad i ganu set Gymraeg achos ei bod yn haws cael sylw cyfryngol ac y byddai hynny yn eu catiwpwltio i mewn i'r byd pop Saesneg.
Ydw i'n iawn i deimlo'n drist o'r sefyllfa hon?
Felly, gydag ymddiheuriadau am y llith hir a thrwm hwn, efallai fod gwersi i Gymry Cymraeg yma, ond yn sicr mae beirniadaeth o'r llyfr, nid am ei gywirdeb (iawn - deall fod rhai ffeithiau anghywir) ond yn gyffredinol am i Hefin Wyn fethu deall beth oedd yn mynd ymlaen y tu ol i'r llun gweledol ganfyddodd e wrth ymchwilio.
Un pwynt bach arall yw cofio maint y sin ar y pryd. 'Roedd gan Sothach nifer fawr o adolygiadau bob mis sy'n awgrymu fod nifer fawr o recordiau newydd bob mis - tybed sut mae hyn yn cymharu heddiw?
Un rheg yw fy mhader i.