gan benni hyll » Iau 25 Mai 2006 3:23 pm
Y peth yw, os ti'n edrych ar bethau ar ddiwedd yr 80au a dechrau'r 90au yn yr SRG roedd 'na lot mwy o gerddoriaeth electroneg/dawns yn cael ei chreu (Plant Bach Ofnus, Nid Madagscar, Ty Gwydr, Wwzz, Llwybr Llaethog, A5, H3 + holl stwff Johnny R) nag oedd yng nghanol y 90au (y blynyddoedd tywyll) felly, dyna pam dwi'n anghytuno efo safbwynt khmer hun.
Yn gyffredinnol rhwng 95 a 99 roedd llai o bob dim - o grwpiau dawns i grwpiau gitar, felly fedri di ddim beio fo ar 'gerddoriaeth ddawns' am dynnu pobl i fwrdd o'u gitars ac i mewn i gyfrifiaduron.
Os rhywbeth, beth ddigwydodd yn y cyfnod yna oedd twf a phoblogrwydd cerddoriaeth bop fel Eden, Mega a Cic (nath yn ei sgil esgor ar yr holl Pheena, Taliah, TNT, Martin John, etc)
*SHUDDER*
I can't control my heart rate, I got a cougar on me.