CLWB IFOR BACH YN GNEUD TRO SAL?

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

CLWB IFOR BACH YN GNEUD TRO SAL?

Postiogan Barti Ddu » Llun 11 Tach 2002 10:57 am

Y dyddiad - 9/11 (ein nine-eleven ni, dim un y Yanks!), 2002.
Lle? Clwb Ifor Bach

Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr ydi un o'r grwpiau gorau welwyd yn Gymru erioed mewn unrhyw iaith. Phenomenon.
Grwp really dda. Caneuon classics i gyd. Jarman ei hun - enigma, icon, arwr, bardd, ysbryd. Rwbath sbesial ia.
Roedd yn chwarae yn Clwb Ifor nos Sadwrn 9ed. Bobol wedi prynnu ticedi am £8 dros y ffon ac wedi trafaelio lawr o'r gogladd i weld ei gig cynta es blynydds (dim i weld y rygbi). Pawb yn edrych ymlaen.

Ar y ticad mae yn deud 7.30pm. Clwb yn agor am y nos yw hynny.
Bobol yn cyrraedd y clwb o 11pm ymlaen i weld Jarman gan feddwl y byddai ymlaen ddiwedd y nos fel mae gigs fel arfer.
SHOCK! HORROR!! Jarman wedi dechrau canu 9.45 a wedi gorffen 10.45, cwpl o encores a Tich yn gneud yr anthem. Popeth wedi gorffen cyn 11pm!!!

'House night' yn dechrau wedyn - yn yr un stafell. Pobl yn cyrraedd i hwnnw ond yn talu £4.

What the fuck mae Guto Brychan rheolwr y clwb yn wneud?
Mae hyn yn false advertising man. Mae gennafi dicad arnaf fi ia, a mae o jest yn deud Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr. Dim amser (heblaw 7.30).
Mae y clwb yn jest bod yn gontiad efo bobl Cymraeg. House Night sydd ymlaen bob nos Sadwrn rwan - even noson internationals. A dydi'r house night 'ma ddim yn gorfod gneud lle (symud amsar) i gigs Cymraeg pan mae y ddinas yn llawn o Gymry Cymraeg adag gems. Fel ddeudodd un or staff wrth hogan, "We don't do the Welsh thing on Saturday nights".

Mae ffrindia fi yn Caerdydd yn deud dydi y Clwb no longer yn glwb Cymraeg. Mae loads wedi stopio mynd yna hefyd ia. 4 potel o drinks yn £11 ar ol 11pm. Cwrw really flat a stel yn y pumps. A mae Guto yn trio stunts crap fel rhoi Jarman on yn gynnar i dynu bobol yno i yfad drwy y fin nos! You must be fucking joking - mae loads o pubs gwell yn y ddinas man.

Guto ydan ni isio atebion! Pam wnest ti ddim rhoi Jarman on ar amsar call??? Ydi bobl yn mynd i gael ei pres yn ol? Wnaf i roi ecsampl i chdi cont. Ticad fi - £8, ticad fodan fi - £8, petrol £30. Edrych ymlaen / buzz factor - amhrisiadwy. Let-down factor - dim geiriau i ddisgrifio.

Little Ivor you're a skiver. Rip-off merchant.
ABH AMH
Barti Ddu
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 1
Ymunwyd: Sul 10 Tach 2002 8:32 pm
Lleoliad: Uffern

Geraint Jarman yn y clwb

Postiogan Guto Brychan » Maw 12 Tach 2002 3:24 pm

Diolch i Barti Ddu am ei sylwadau. I ateb dy gwynion, mi oedd amser dechrau'r gig wedi ei nodi'n glir ar y tocynnau, posteri, ac unrhyw ddeunydd hysbysebu a wnaid. Golygai hyn bod y gig yn dechrau am 7.30pm, nid tair awr yn hwyrach (ar ol sawl peint yn y City Arms / Mochyn Du!!). Un rheswm an dechrau'r gig yn gynnar oedd bod y sioe wedi'i anelu at gynulleidfa hyn; pobol sy'n llai debygol o fedru mynychu'r clwb yn hwyr yn y nos. Os oedded wedi teithio i'r sioe, oni fasai wedi bod yn syniad cadarnhau adeg perfformaid Jarman cyn cychwyn, yn hytrach na chymerid yn ganiataol bod dim wedi newid ers y tro diwethaf i di deithio i'r ddinas.
O ran yr 'house night' yr ydym yn cynnal yn y clwb nos Sadwrn, ni fydd yn cael ei chynnal pan mae gemau rhyngwladol mawr ymlaen yn y ddinas. Penderfynywd nad oedd y gem yn erbyn Fiji yn ddigon o atyniad i ddenu nifer fawr o Gymry i Gaerdydd am y penwythos. Yn amlwg sefyllfa wahanol fydd hi ar y 23ain pan fydd Seland Newydd yn chwarae yma. Bryd hynny mi fydd y adloniant yr holl glwb wedi'i anelu at gynulleidfa cymraeg, gyda Bryn Fon a'i Fand yn chwarae yn y neuadd. Rhaid nodi mae un mae'r prif rheswm ein bod wedi gorfod dablygu noson newydd ar nos Sadwrn ydi'r diffug cynulleidfa i'r nosweithiau bandiau Cymraeg a gynhaliwyd yma.
I orffen, roedd gennym bolisi a ad-dalu arian i unrhywun a gyrhaeddodd yn hwyr am y gig ac mi fydd yna gyfle eto i weld Jarman yn y clwb ar Nos Sadwrn 21ain o Ragfyr. Cofia wneud yn siwr bod ti'n cadarnahu pryd ma'r gig yn dechrau,

Guto.
Guto Brychan
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 18
Ymunwyd: Maw 12 Tach 2002 2:03 pm


Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Google [Bot] a 8 gwestai

cron