Nei a ddywedodd:a sai'n dda gwybod beth yw'r gwhaniaeth rwng siart C2 a'r siart cytgord sy'n dal i gael ei restru ochr yn ochr a siart C2 yn y Cymro
Dwi'n meddwl fod y cwestiwn yma yn helpu i ateb Geraint Lovgreen hefyd... dwi'n meddwl!
Siart Cytgord yw'r siart sy'n cymryd i ystyriaeth holl artistiaid yr iaith Gymraeg, pan fo Siart C2 yn fwy 'select' - mae rhai artistiaid (Dafydd Iwan, John ac Alun ac ati) sydd ddim yn cael eu hystyried ar gyfer Siart C2, gan nad ydynt yn ffitio mewn i bolisi cerddorol y rhaglen.
Meddwl bo fi wedi cael hynna yn iawn, ond ddim yn siwr.
Mae'r fformiwla yn swnio'n un eitha cymhleth, ac mae lot o fandiau yn y gorffennol wedi hol 'pam fod ni ddim yn y siart a ninnau wedi gwethu 50 CD mewn gigs' - mae'n rhaid i'r gwerthiant fod mewn siopau, a dwi'n meddwl taw croestoriad o siopau sydd yn cael eu cynnwys hefyd, nid pob un.