Rwy'n sylwi fod nifer fawr o safleoedd ar y we yn cynnwys cannoedd o ganeuon ym mhob iaith - geiriau, tab gita^r, cordiau ac ati. Pob iaith, hynny yw, ar wahan i'n haith ni!
Tybed a ydy rhywun yn gwybod lle mae'n bosib cael y fath beth yn cynnwys caneuon Cymraeg.
Os na, alla' i awgrymu fod y rheiny ohonoch chi sy'n canu offerynau ac yn nabod caneuon Cymraeg yn mynd at, er enghraifft, http://www.guitartabs.cc/
a'u hychwanegu?
Rwyf innau'n ceisio dysgu'r gita^r, a byddwn i wrth fy modd yn medru gwneud hynny wrth ganu stwff brodorol!