Gruff Goch a ddywedodd:roedd lot o'r sgetsys yn wael (a rhai yn wych- S4C yn dangos sgets lle mae'r KKK yn chwilio am Daf Du?!!?), dwi mond yn gobeithio mai gwella y gwnaiff hi fel rhaglen wrth i'r criw gael mwy o brofiad.
Cytuno gyda ti fyna Mr Coch. Rhaid dweud taw y peth gore ar y rhaglen oedd Ceri mewn gwisg KKK yn cerdded i mewn i'r BBC yn Llandaf yn chwilio am Daf Du. Gret! Mwy o stwff fel hyn da ni angen. Be oedd pwynt y "sgetshis" gyda pobl mewn eirth, dwi'm 'bod. Ond oedd yr eitem gyda PLP yn llyfrgell Port yn hilariws hefyd. Mae unrhyw esgus i ddweud "cont" ar S4C werth ei anog.