CF39 heno - Pep le Pew a Ceri Anweledig

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

CF39 heno - Pep le Pew a Ceri Anweledig

Postiogan Gruff Goch » Iau 19 Rhag 2002 11:22 am

9pm heno ar S4C - Rhaglen newydd sydd i fod yn gymysgedd o TFI, the Word etc, efo Ceri Anweledig yn cyflwyno. Bydd Pep le Pew yn chwarae'n fyw, mae'n debyg.

Gruff
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Goch
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1148
Ymunwyd: Iau 12 Rhag 2002 1:22 pm
Lleoliad: neuadd fawr rhwng cyfyng furiau

Postiogan nicdafis » Iau 19 Rhag 2002 9:36 pm

Un peth oedd gyda'r Tube, a hyd yn oed TFIF a'r Word, oedd digon o bobl yn y stiwdio i greu rhyw fath o awyrgylch. Falle fyddai <i>LL41</i> wedi wneud mwy o sens na <i>CF39</i>?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 20 Rhag 2002 8:00 pm

Odd y rhaglen itha da 'spos. Lot llai sych na'r Sesiwn Hwyr ond llai o gerddoriaeth! chi ffeli gofyn am bopeth nagi chi.

Cyflwynwyr da fyd, ceri y comidian a kate jyst yn cwl. Golyga hyn bydd hi'n anhebygol gew ni berfformiade gan Anweledig (ceri) ac Alcatraz (kate) yn anffodus.

Odd y rhegi tim bach yn blatant a di-angen, fel bod e yna i drio neud y rhaglen i ymddangos yn 'cwl'.

Dodd e ddim mor dda a fformat cynnar 'i-dot' yn anffodus, ond wedi dweud hynny cam yn y cyfeiriad cywir.... da iawn Emyr

hwyl,

rhys
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan dafydd » Sul 22 Rhag 2002 12:03 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:Odd y rhaglen itha da 'spos. Lot llai sych na'r Sesiwn Hwyr ond llai o gerddoriaeth! chi ffeli gofyn am bopeth nagi chi.

Cyflwynwyr da fyd, ceri y comidian a kate jyst yn cwl.


Mae na linell denau rhwng cwl a chrap.

Chwarae teg i Ceri am chwarae'r jocar a chreu teimlad 'byw' ond os nad yw'r cyflwynwyr yn gwneud ymdrech i gyflwyno a meddwl am rhywbeth i ddweud yn hytrach na giglo, pam ffwc dyle ni wylio?

Roedd e'n teimlo fel mod i'n gwylio rehearsal o'r sioe - doeddwn i ddim yn teimlo unrhyw gysylltiad gyda unrhywbeth oedd yn digwydd yn y stiwdio.

Mae yna lot o'n pres ni cael ei suddo i'r plop ffactori.. a dyma'r cach sy'n cael ei gynhyrchu?
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan Rhys Llwyd » Sul 22 Rhag 2002 12:56 pm

hold on nawr,

dwi'n nabod lot sy'n gweithio yn y 'plop ffatri' a ma nwn neud y gorau ma nw'n gallu gyda'r bujet sydd gyda nw! Wi'n gwbod fod e ddim yn cyraedd y dyddiau aur 'i-dot' ond hei ma fe'n wedd na 4 fideo a Cottrell yn mymblo am hanner munud rhyddyn nhw!

Dyw Kate ddim yn 'crap' ma hi'n cwl!

hwyl,

rhys
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Di-Angen » Sul 22 Rhag 2002 3:07 pm

Ron i'n meddwl ei fod yn eithaf crap, er dim ond ychydig o funudau gwelais. Falle wnes i golli'r bits gorau.
Rhithffurf defnyddiwr
Di-Angen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 833
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 4:38 pm

Postiogan dafydd » Sul 22 Rhag 2002 3:35 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:hold on nawr,

dwi'n nabod lot sy'n gweithio yn y 'plop ffatri' a ma nwn neud y gorau ma nw'n gallu gyda'r bujet sydd gyda nw!


Iesu, mae pobl y meeja gyd run fath.. nid 'budget' sydd angen ond y proffesiynoldeb a'r ymroddiad. Nid gwneud rhaglen ar gyfer ei mets mae nhw.. mae rhaid i nhw argyhoeddi pawb arall sy'n gwylio.

Mae un unigolyn deallus a creadigol yn gallu gwneud byd o wahaniaeth i raglen (Eddie Ladd ar Fideo 9 er enghraifft.. efo sod all 'budget' gyda llaw). Ond os nad yw'r cyflwynwyr yn gallu cynnal diddordeb y gwylwyr, paid a disgwyl neb i wylio heblaw 'llyfwyr tinau emyr afan'.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan Rhys Llwyd » Sul 22 Rhag 2002 5:36 pm

win anghytuno lot da Emyr, wi ddim yn llyfi ei d** e!

wi'n cytuno da ti allenw wella sawl peth.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

rhaglenni yoof

Postiogan Mihangel Macintosh » Iau 02 Ion 2003 1:25 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Dwi'n nabod lot sy'n gweithio yn y 'plop ffatri' a ma nwn neud y gorau ma nw'n gallu gyda'r bujet sydd gyda nw! Wi'n gwbod fod e ddim yn cyraedd y dyddiau aur 'i-dot' ond hei ma fe'n wedd na 4 fideo a Cottrell yn mymblo am hanner munud rhyddyn nhw!


Ar gyfartaledd mae rhaglennu yoof fel CF39 yn derbyn cyllideb o tua £70,000 yr awr gan S4C. Mae faint o'r arian sy'n cael ei neilltio i gynhyrchu CF39 a faint sydd yn mynd yn syth i bocedi mawr Emyr Aflan yn rhywbeth arall. :rolio: Ond dwi'n cytuno gyda Dafydd fan hyn - syniadau da sydd angen nid cyllideb mawr o rheidrwydd. Serch hynnu mae CF39 yn llawer gwell o'i gymharu a I-Dot. Mae'n gwneud CF39 ymddangos yn anarchaidd a sbontaneous Roedd I-Dot yn llawer rhy saff a ddim yn ddigon mentrus. Serch hynnu, dwi'n meddwl fod y cyflwynwyr yn llawer gwell na chyflwynydd Y Sesiwn Hwyr, Iestyn "monotone" George. Ma mwy o carisma a brwdfrydedd mewn corff na sydd ym mab Beti George. Smart move gan Avanti fyddai cael gwared o'r boi.

Chware teg i Cottrell, mi oedd e'n gyflwynydd llawer gwell ar 4-Trac. O leiaf oedd e'n ymddangos fod ganddo fe ddiddordeb yn y bandie ag o ni'n meddwl oedd e'n reit ffraeth hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Gruff Goch » Iau 02 Ion 2003 3:36 pm

Mi wnes i fwynhau'r rhaglen gynta', er ei bod hin amlwg fod y cyflwynwyr yn amhrofiadol. Oleiaf ma' 'na frwdfrydedd amlwg yno, yn wahannol (fel sy wedi cael ei ddweud yn barod) i yn arddull Iestyn George. Wedi dweud hynny, roedd lot o'r sgetsys yn wael (a rhai yn wych- S4C yn dangos sgets lle mae'r KKK yn chwilio am Daf Du?!!?), dwi mond yn gobeithio mai gwella y gwnaiff hi fel rhaglen wrth i'r criw gael mwy o brofiad.

Gruff
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Goch
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1148
Ymunwyd: Iau 12 Rhag 2002 1:22 pm
Lleoliad: neuadd fawr rhwng cyfyng furiau

Nesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 20 gwestai