Cowbois Rhos Botwnnog & Gwyneth Glyn - Paid a Deud

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cowbois Rhos Botwnnog & Gwyneth Glyn - Paid a Deud

Postiogan Sbrigyn Ymborth » Mer 09 Gor 2008 9:21 am

Sut mae'r hwyl?

Mi fydd y sengl ar y cyd rhwng Cowbois Rhos Botwnnog a Gwyneth Glyn, Paid a Deud (to bach ar yr a, dwnim sut) yn cael ei chwarae am y tro cyntaf nos iau yma ar raglen Lisa Gwilym ar C2 Radio Cymru. Mi fydd sgwrs gyda'r Cowbois a Gwyneth yn ogystal.

Mi fydd y sengl ei hun allan ar label Sbrigyn Ymborth YN FUAN!
Rhithffurf defnyddiwr
Sbrigyn Ymborth
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Iau 18 Mai 2006 11:53 pm

Re: Cowbois Rhos Botwnnog & Gwyneth Glyn - Paid a Deud

Postiogan Sbrigyn Ymborth » Gwe 11 Gor 2008 10:05 am

Mi chwaraeodd Lisa ddwy o'r tair trac neithiwr, ac mi fydd y caneuon yn cael eu chwarae eto heno 'ma, yn ogystal a chyfweliad gyda'r Cowbois a Gwyneth.

Y gobaith yw y bydd y sengl ei hun allan yn ystod yr Eisteddfod, felly dowch a'ch pres poced efo chi.
Rhithffurf defnyddiwr
Sbrigyn Ymborth
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Iau 18 Mai 2006 11:53 pm

Re: Cowbois Rhos Botwnnog & Gwyneth Glyn - Paid a Deud

Postiogan Johnny Fart Pants » Gwe 11 Gor 2008 1:32 pm

Beth am No Star? Oes ganddynhw sengl mas?
Johnny Fart Pants
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 12
Ymunwyd: Iau 10 Gor 2008 9:12 am

Re: Cowbois Rhos Botwnnog & Gwyneth Glyn - Paid a Deud

Postiogan Sbrigyn Ymborth » Gwe 11 Gor 2008 2:27 pm

Dim cyn belled a dwi'n ei wybod, gyfaill, pam na wnei di holi'r aelodau'r band?
Rhithffurf defnyddiwr
Sbrigyn Ymborth
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Iau 18 Mai 2006 11:53 pm

Re: Cowbois Rhos Botwnnog & Gwyneth Glyn - Paid a Deud

Postiogan Sbrigyn Ymborth » Mer 30 Gor 2008 12:50 pm

NEWYDD DA!

Mi fydd y sengl yn cael ei rhyddhau ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ar brynhawn Gwener, 8fed o Awst. Mwy o fanylion am y lleoliad ac amser i ddilyn!

Dwi'n gallu teimlo'r awch yn yr aer...
Rhithffurf defnyddiwr
Sbrigyn Ymborth
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Iau 18 Mai 2006 11:53 pm

Re: Cowbois Rhos Botwnnog & Gwyneth Glyn - Paid a Deud

Postiogan Ramirez » Iau 14 Awst 2008 12:12 pm

A do, rhyddhawyd y sengl.

Dylai fod yn y siopau lleol yn ddigon handi. Dim ond tua tua £2.50 ydi hi, felly tua'r un pris a un peint o gwrw, ac mi fydd hi gynochi am byth, wir i chi!
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Re: Cowbois Rhos Botwnnog & Gwyneth Glyn - Paid a Deud

Postiogan Sbrigyn Ymborth » Iau 16 Ebr 2009 2:49 pm

Mae fide 'promo' a ffilmwyd ar gyfer y sengl ar gyfer rhaglen Bandit i'w weld ar YouTube YMA (clic!)
Rhithffurf defnyddiwr
Sbrigyn Ymborth
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Iau 18 Mai 2006 11:53 pm

Re: Cowbois Rhos Botwnnog & Gwyneth Glyn - Paid a Deud

Postiogan Gwehil Maes Gwyddno » Sul 26 Ebr 2009 9:39 pm

Sengl dda iawn chwara teg Cowbois...gyd-ganu Gwyneth a Edgar Sgarled yn brydferth tu hwnt - a gwaith pedal steel Jos heb ei ail unwaith eto. Jysd dwi dal heb 'i phrynu hi :(
Rhithffurf defnyddiwr
Gwehil Maes Gwyddno
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 18
Ymunwyd: Sul 26 Ebr 2009 8:10 pm

Re: Cowbois Rhos Botwnnog & Gwyneth Glyn - Paid a Deud

Postiogan Sbrigyn Ymborth » Maw 05 Mai 2009 2:14 pm

Gwehil Maes Gwyddno a ddywedodd:Sengl dda iawn chwara teg Cowbois...gyd-ganu Gwyneth a Edgar Sgarled yn brydferth tu hwnt - a gwaith pedal steel Jos heb ei ail unwaith eto. Jysd dwi dal heb 'i phrynu hi :(


Wel wir, mi gei di ei chlywed am ddim yn ei chyfanrwydd yn fan hyn, weli di, yn ogystal a'r ddwy B-Side:

Cowbois Rhos Botwnnog & Gwyneth Glyn - Paid a Deud


Nid Edgar Sgarled sy'n canu, gyda llaw.
Rhithffurf defnyddiwr
Sbrigyn Ymborth
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Iau 18 Mai 2006 11:53 pm


Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 24 gwestai