Atgof fel Angor - Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Atgof fel Angor - Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr

Postiogan Prysor » Iau 21 Awst 2008 7:28 pm

hwre hwre, llawenydd sydd yn y lle! :D
dwi newydd ei chael hi heddiw o Siop Hen Bost Blaenau Ffestiniog.

(gwerth pob dima goch, gyda llaw, chi Gardis allan yn fana :winc: )
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Atgof fel Angor - Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr

Postiogan Madrwyddygryf » Mer 27 Mai 2009 6:44 pm

Dwi newydd prynu'r CD yma ac wedi rhoi popeth ar y aipod.

Gai ofyn am y gan Rhywbeth Bach. Dwi'n credu bo fi wedi datblygu obsesiwn amdano am ryw reswm. Os rwyun gyda geiriau ar gael neu ydi rhwyun yn gwybod beth di'r stori tu cefn i'r gan?
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Atgof fel Angor - Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr

Postiogan Josgin » Mer 27 Mai 2009 9:35 pm

Rhywbeth Bach oedd fy hoff gan pan es i i'r coleg (newydd ddod allan ) Ti'n iawn-mae hi'n gan sy'n ail-adrodd yn y meddwl.
Atgofion Jarman yn Tito's yn 1978 a Twrw Tanllyd yn 1979 - anfarwol. Biti am farwolaeth Tich-mi fuaswn yn rhoi ffortiwn
am ail-fyw rhai o gyngherddau Jarman.
Mi aeth Jarman drwy gyfnod anffasiynol. Fe gytunodd i ganu mewn cyngerdd 'Gwyl y cestyll ' yn 1983 , a cafodd ei 'black-listio'
gan CIG , a llawer un arall. Dwi'n cofio gweld Jarman a Maffia yn 1985 yn Rhyl, gyda dim ond 40 yno - anhygoel i feddwl ei safon a'i boblogrwydd rhyw 5 mlynedd ynghynt. Mae' n well gennyf i y stwff ' roc' yn hytrach na 'reggae'. Wnes i ddim trafferthu prynu unrhyw un o'i albums ar ol 1980 am y rheswm yna .
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Nôl

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai