Radio Crymi

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Radio Crymi

Postiogan zorro » Mer 14 Ion 2009 11:35 pm

Wel. Mae'r newidiadau yn eu lle a mae'r Radio Cymru newydd bellach wedi sefydlu. Yn yr oes yma o dorri tir newydd a gwthio'r ffiniau, oes unrhywun arall wedi'i siomi gyda obsessiwn ein gorsaf cenedlaethol am fod yn ddi-fflach,diogel a "bland". Mae na adegau pryd fyddai gwrando ar baent yn sychu ( os yn bosib ) :ing: yn bleser pur i gymharu â'r slyri geiriol sydd yn cael ei rhoi ger ein bron yn enw adloniant i'r Cymry. Sylwadau os y gwelwch yn dda ar :

Dafydd ag Eleri

C2 ( Glyn, Magi, a'r criw)

Jonsi

Ddylai hynna doddi llinellau BT !
zorro
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 54
Ymunwyd: Mer 14 Ion 2009 11:23 pm

Re: Radio Crymi

Postiogan Duw » Iau 15 Ion 2009 1:05 am

Rhaid cytuno bo angen rhywbeth mwy cyfoes i ddenu ieuenctid Cymru. Rhaid dweud, dwi'n troi Jowwnsii bant cynted a glywa'i lais. Ych-a-fi. Wel, ga'i'n rhostio am hwnna siwr.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Radio Crymi

Postiogan METHU » Iau 15 Ion 2009 8:27 am

Waeth i neb gwyno, does na ddim byd yn mynd i newid er gwell, gwaethygu mae'r orsaf ar y cyfan ,mae'n sefyllfa hynod o drist.
Mae rhai rhaglenni yn dda, Ar eich cais, John ac Alun, Huw Stephens,Ar y Marc, Rhaglenni Chwaraeon,Dau or Bae, arddull syml di-lol, ond am llawer or gweddill, dwn i ddim lle mae'r meddylfryd y tu ol ir rhaglen yn dod, rhaid mi ddeud mi ydwi'n trio gwrando .

Yr unig reswm allai weld am y safon gwael ydi fod y bobl tu ol ir cyflwynwyr , (cynhyrchwyr , ymwchwilydd ayyb) hefo dim diddordeb, ma gynna nhw swyddi saff felly sydd ddim rhaid iddynt neud dim ond troi unrhyw beth allan ddim ond i fod yn gymraeg.
o leia diolch i dduw fod nhw wedi cal ffion dafis a brychan llyr i ffwrdd o c2, odd rheina yn ddiawledig, ond di'r ddau sydd wedi cymryd ei lle fawr gwell.
METHU
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 1
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2009 9:13 am

Re: Radio Crymi

Postiogan Dyn Gwyn Gwirion » Iau 15 Ion 2009 11:04 am

Y broblem efo Radio Cymru (wel, un ohonyn nhw, beth bynnag) ydi bod y rhan fwyaf o'r cyflwynwyr yr un fath. Pawb yn banal, pawb yn chwarae'r un gerddoriaeth ddi-fflach, ganol-y-ffordd, gan fandiau pop sydd, mae'n siwr gen i, dim ond yn chwarae'n fyw unwaith y flwyddyn (ar faes yr Eisteddfod, i griw o blant sy ddim yn malio botwm corn amdanyn nhw), pawb yn gwneud jocs plentynaidd, a pawb yn swnio fel eu bod nhw'n hollol dwp.

Mae angen dos helaeth o sinigaeth ar Radio Cymru. Cyflwynwyr efo synnwyr digrifwch go-iawn, a sydd ddim yn swnio fel eu bod nhw angen help i wisgo yn y bore.

Diolch byth am Huw Stephens, ddyweda i.
Le pain de la mer dans le nuit,
The sweet, sweet sea bread of the sea,
Le grands garcons est dans la boucherie,
The big boys are in the butchers. - R & M
Rhithffurf defnyddiwr
Dyn Gwyn Gwirion
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 739
Ymunwyd: Maw 22 Ebr 2003 8:19 pm
Lleoliad: Bangor / Caerdydd

Re: Radio Crymi

Postiogan ceribethlem » Iau 15 Ion 2009 1:07 pm

O'n i arfer mwynhau gwrando ar Meinir Gwilym a ta beth oedd enw fe ar y ffordd nol o'r ysgol. Nawr mae'n rhaid i fi rhoi lan gyda Jonsi :drwg: Mae'r boi yn troi arna i, ac mae'n rhaid troi'r radio bant.
Cachad o beth yw'r set yp newydd 'ma. Fel dywed y Dyn Gwyn Gwirion, mae popeth yn llawer rhy ddi-fflach, Dj's a chaneuon bland, crap.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Radio Crymi

Postiogan Ramirez » Iau 15 Ion 2009 5:03 pm

Mi ddudodd Glyn Wise 'emynydd' yn lle 'ymennydd' dwrnod o'r blaen.

Ymennydd - Brain
Emynydd - Hymnist

Mae hynna'n rywbeth anhygoel i rywun sy'n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf ei wneud, heb son am gyflwynwr radio.

Mae cyflwynwyr i fod yn gyflwynwyr oherwydd eu dawn siarad, eu carisma a'u gwybodaeth. Mi ddylia nhw wybod y gwahaniaeth emynydd ac ymennydd. Wir rwan.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Re: Radio Crymi

Postiogan popethmelyn » Iau 15 Ion 2009 10:08 pm

Mae hwnna bach yn petty ramirez... camgymeriad ddigon diniwed.

zorro a ddywedodd:Wel. Mae'r newidiadau yn eu lle a mae'r Radio Cymru newydd bellach wedi sefydlu. Yn yr oes yma o dorri tir newydd a gwthio'r ffiniau, oes unrhywun arall wedi'i siomi gyda obsessiwn ein gorsaf cenedlaethol am fod yn ddi-fflach,diogel a "bland". Mae na adegau pryd fyddai gwrando ar baent yn sychu ( os yn bosib ) :ing: yn bleser pur i gymharu â'r slyri geiriol sydd yn cael ei rhoi ger ein bron yn enw adloniant i'r Cymry.


Mae'n anodd cymryd dy ddadl am fod yn ddi-fflach o ddifri ar ol i ti ddefnyddio'r gymhariaeth 'gwrando ar baent yn sychu'.

A phwy bynnag wedodd am y sanctaidd Huw Stephens; mae cymaint o bobl sydd yn ei garu e ac yn casau Jonsi a sydd yn caru Jonsi a chasau Huw Stephens. Gall Radio Cymru fod yn rhywbeth i bawb ond nid popeth i unrhywun. Mae'ch dadlau chi'n youth-centric iawn, ac yn eironig C2 yw'r peth gorau ar Radio Cymru. Mae gosodiad "Duw" fod angen rhywbeth mwy cyfoes yn bolycs. Mae'r ddarpariaeth i ieuenctid (y wefan, y rhaglenni nostalgia, y pop trash, y rhaglenni arbennigol...) yn foddhaol iawn.

Pa fath o raglenni/cerddoriaeth fydde chi'n hoffi eu clywed ar y gwasanaeth? Unrhyw gyflwynwyr arbennig? Fi'n caru Daniel Glyn ond yn falch o weld cefn Brychan Llyr. Toedd e ddim yn swnio fel bod ei galon e ynddo fe rhywsut.
popethmelyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 14
Ymunwyd: Sul 02 Tach 2008 11:56 pm

Re: Radio Crymi

Postiogan dimdiolch » Iau 15 Ion 2009 11:22 pm

popethmelyn a ddywedodd:Mae hwnna bach yn petty ramirez... camgymeriad ddigon diniwed.

zorro a ddywedodd:Wel. Mae'r newidiadau yn eu lle a mae'r Radio Cymru newydd bellach wedi sefydlu. Yn yr oes yma o dorri tir newydd a gwthio'r ffiniau, oes unrhywun arall wedi'i siomi gyda obsessiwn ein gorsaf cenedlaethol am fod yn ddi-fflach,diogel a "bland". Mae na adegau pryd fyddai gwrando ar baent yn sychu ( os yn bosib ) :ing: yn bleser pur i gymharu â'r slyri geiriol sydd yn cael ei rhoi ger ein bron yn enw adloniant i'r Cymry.


Mae'n anodd cymryd dy ddadl am fod yn ddi-fflach o ddifri ar ol i ti ddefnyddio'r gymhariaeth 'gwrando ar baent yn sychu'.

A phwy bynnag wedodd am y sanctaidd Huw Stephens; mae cymaint o bobl sydd yn ei garu e ac yn casau Jonsi a sydd yn caru Jonsi a chasau Huw Stephens. Gall Radio Cymru fod yn rhywbeth i bawb ond nid popeth i unrhywun. Mae'ch dadlau chi'n youth-centric iawn, ac yn eironig C2 yw'r peth gorau ar Radio Cymru. Mae gosodiad "Duw" fod angen rhywbeth mwy cyfoes yn bolycs. Mae'r ddarpariaeth i ieuenctid (y wefan, y rhaglenni nostalgia, y pop trash, y rhaglenni arbennigol...) yn foddhaol iawn.
Pa fath o raglenni/cerddoriaeth fydde chi'n hoffi eu clywed ar y gwasanaeth? Unrhyw gyflwynwyr arbennig? Fi'n caru Daniel Glyn ond yn falch o weld cefn Brychan Llyr. Toedd e ddim yn swnio fel bod ei galon e ynddo fe rhywsut.


Ma'r thing 'na gyda Huw Stephens yn ddigon teg. Ond faint a pa orie 'ma C2 yn cal? 8 Onwards basically a dim ar weekends. Sain siwr iawn am weddill ieuenctid Cymru ond 8 tan 1 y bore yw'r bloc o orie fydde fi most likely ddim moyn gwrando ar y radio. Fydd e'n really awesome cal 2 sianel. Un ar gyfer Cerddoriaeth a'r un arall i bobl sy'n hoff o gyflwynwyr fel Jonsi a stwff. Ond yeah, won't happen.

Fyddai'n caru gweld pobl fel Ian Cottrell neu Huw Evans yn cyflwyno, rhaglen yn cnolbwyntio ar gerddoriaeth yw hi, a fydd gweld pobl sy'n deall ag yn cymryd diddordeb massive menw cerddoriaeth yn gallu newid lot.


Sain siwr fant o sense fi'n siarad ond ie.
www.myspace.com/breichiauhir
www.twitter.com/breichiauhir
Rhithffurf defnyddiwr
dimdiolch
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 53
Ymunwyd: Llun 14 Ion 2008 11:44 am
Lleoliad: Caerdydd

Re: Radio Crymi

Postiogan Duw » Gwe 16 Ion 2009 2:59 am

Popethmelyn - bolycs d'hunan - dyw e ddim yn bolycs. Stim un cid dwi'n nabod yn gwrando i Radio Cymru - atalnod llawn. Efalle bod hwn yw beth sydd wedi achosi RC i fod mor hen ffasiwn - pandro i crymblis - dim pwynt trio denu pobl ifenc - ffycars anniolchgar. Wel, unwaith i'r weirdos na sy'n actually hoffi Jowwnsii wedi marw, bydd neb ar ol i wrando. Ffycd wedyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Radio Crymi

Postiogan popethmelyn » Gwe 16 Ion 2009 4:16 am

dimdiolch a ddywedodd:Ma'r thing 'na gyda Huw Stephens yn ddigon teg. Ond faint a pa orie 'ma C2 yn cal? 8 Onwards basically a dim ar weekends. Sain siwr iawn am weddill ieuenctid Cymru ond 8 tan 1 y bore yw'r bloc o orie fydde fi most likely ddim moyn gwrando ar y radio. Fydd e'n really awesome cal 2 sianel. Un ar gyfer Cerddoriaeth a'r un arall i bobl sy'n hoff o gyflwynwyr fel Jonsi a stwff. Ond yeah, won't happen.

Fyddai'n caru gweld pobl fel Ian Cottrell neu Huw Evans yn cyflwyno, rhaglen yn cnolbwyntio ar gerddoriaeth yw hi, a fydd gweld pobl sy'n deall ag yn cymryd diddordeb massive menw cerddoriaeth yn gallu newid lot.


Sain siwr fant o sense fi'n siarad ond ie.


Fi'n cytuno da ti nad yw'r amserlen bresennol yn caniatau i C2 hawlio hunaniaeth ei hunan. Mae Radio Cymru'n sianel wahanol ar ol 8, ac mae hynny'n creu'r argraff bod C2 yn ceisio dadgysylltu ei hunan o weddill yr orsaf. Byddai hyn yn iawn petai'n ail sianel, ond ar y funud ma fe'n hollol unspoken a lletchwith, ac mae hynny'n dod drosodd yn y darlledu.

Duw- bydde ni'n gobeithio bo'r ffaith nad wyt ti'n nabod cid sy'n gwrando ar C2 yn fwy o adlewyrchiad o sawl cid ti'n adnabod nag o safon yr arlwy. Fi a fy ffrindie'n gwrando... na'r oll allai ddweud am hynny rili. Rwy wir yn meddwl bod y mwyafrif o'r rhaglenni yn safonol o fewn eu cyd-destun/criteria. Yn ddelfrydol byddai'r amrywiaeth wedi ei wasgaru dros ddiwrnod cyfan o ddarlledu yn hytrach na 5 awr a bydde'r target audience ddim cweit mor defined, ond mae prinder arian/amser/diddordeb siawns yn golygu na all hynny fod.
popethmelyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 14
Ymunwyd: Sul 02 Tach 2008 11:56 pm

Nesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai

cron