Radio Crymi

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Radio Crymi

Postiogan Duw » Llun 26 Ion 2009 7:43 pm

Cynta i gyd, ymddiheuriadau am atgyfodi'r edefyn 'ma, OND be ddiawl sy'n mynd mlan gydag RC? Tiwnes i miwn am 6.40 heno a chael y blydi rybish mwya'r affar dwi eriod wedi clwed. Yr hen Eraint yn malu cachu a ware canion fel 'Tecwyn y Tractor Coch' a rhyw fersiwn cor o 'You Lift Me Up' ne beth bynnag yw e. Ond rhwng y ddau sbin 'ma cawson 10 munud o rhyw hen Oges yn blaban mlan am rhyw neuadd pentre oedd wedi mynd ar racs.

Ma'n rhaid gweud, Radio Crogi nid Radio Cymru AAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAA!!!!!!!! :x

Dwi byth yn mynd i wrando i'r crap 'ma 'to. Ma nhw'n haeddu mynd i'r wal.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Radio Crymi

Postiogan sian » Llun 26 Ion 2009 8:05 pm

Ges i siom neithiwr hefyd - tiwnio miwn yn hwyr y nos gan feddwl ymlacio cyn wynebu wythnos newydd a beth oedd 'na?
John ac Alun yn whare Hogia'r Wyddfa :ing: :ing: O'n i jest â llefen.
Ges i Stephen Fry yn America ar y teledu wedyn yn lle 'ny.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Radio Crymi

Postiogan Sara Maredudd » Llun 23 Chw 2009 3:30 pm

Cytuno efo bron pawb. Dim mwy o Jonsi!
Ma C2 yn reit dda, ond, rhaid cyfadda, ers i Daf Du fynd o'r slot 11-1, ma'r holl beth 'di mynd downhill.
Y peth am Magi Dodd ydi'i llais hi-ma'r gerddoriaeth ma hi'n chwara yn dda iawn, chwara teg, a ma hi'n amlwg yn gwbod be mai'n siarad am. A dyw i llais hi ddim mor annoying a ma pawb yn neud allan; Ma hi di gwella llwythi! Mae hefyd angan mwy o eitemau i fandiau ifanc. Dydi Gwyliwch Y Gofod ddim yn ddigon yn fy marn i!
Huw Stephens sy'n achub C2 i gyd!
A pam bod Eleri Sion efo Daf Du? Dwi'n fine efo hi ar y teledu neu rhagleni radio cyn gema rygbi achos ma hi'n dalld y gem a dydi hi, fel person, ddim yn mynd ar fy nerfa i - ond, ydi hi really yn deall yr SRG mor dda a Daf Du?
Sara Maredudd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 2
Ymunwyd: Mer 09 Gor 2008 10:25 am

Re: Radio Crymi

Postiogan Mali » Llun 23 Chw 2009 4:55 pm

sian a ddywedodd:Ges i siom neithiwr hefyd - tiwnio miwn yn hwyr y nos gan feddwl ymlacio cyn wynebu wythnos newydd a beth oedd 'na?
John ac Alun yn whare Hogia'r Wyddfa :ing: :ing: O'n i jest â llefen.


:lol: :lol:
Ydi , mae'r rhaglen yna'n depressing braidd. :crio:
Fy nghwyn i efo Radio Crymi.....sori, Radio Cymru , ydi nad ydan ni'n cael gwrando ar y gemau rygbi . :(
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Radio Crymi

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Llun 23 Chw 2009 11:02 pm

Sara Maredudd a ddywedodd:A pam bod Eleri Sion efo Daf Du? Dwi'n fine efo hi ar y teledu neu rhagleni radio cyn gema rygbi achos ma hi'n dalld y gem a dydi hi, fel person, ddim yn mynd ar fy nerfa i - ond, ydi hi really yn deall yr SRG mor dda a Daf Du?

teimlo hollol fel arall. well gin i hi ar y radio, ma'i'n ddoniol iawn deud y gwir ac yn hollol ffraeth.
tydi'u rhaglen nhw ddim am yr srg beth bynnag, mae o am gael hwyl, ac ma'r ddau yn gweithio'n reit dda 'fo 'i gilydd. yr unig beth da am y newid mawr diweddar ydi'r rhaglen yma, ac ma'i 'n dal i wella.

... tra, yn anffodus, ma c2 yn mynd yn waaaaeth. cytuno mai huw stephens ydi yr. unig. beth da amdano fo bellach. och. :ing:
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Re: Radio Crymi

Postiogan osian » Llun 23 Chw 2009 11:05 pm

Dwni'm am hynny - o be dwi 'di glywad ma' Nia Medi a Hefin Thomas yn reit dda. Dwi'm yn gwrando ar Magi Dodd rhag ofn mi glywad Glyn Wise, a dwi byth yn clywad rhaglan Huw Stephens na Lisa Gwilym - ma nhw ar amsar shit i mi - ond dwi'n gwbod bod y ddau yn gyflwynwyr da iawn. Felly dwi'n meddwl bod C2 yn iawn, a dwi'n cal traffarth mawr gwrando ar Dafydd ac Eleri.
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: Radio Crymi

Postiogan Duw » Maw 24 Chw 2009 12:18 am

Mae angen cwyno i RC os ydym yn teimlo fel hyn. Gwnes i anfon post go gryf (ond cwrtais!) atynt yn dilyn y ffiasco a soniais amdano gynt. Ces i ddim ateb mind you. Os oes digon ohonom yn cwyno, posib bydd pethe'n newid.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Radio Crymi

Postiogan ffawydden » Mer 25 Maw 2009 1:09 pm

Dwi'm yn gwrando llawar ar y radio - mond yn y car rili.
Ond gesh i'r ''fraint'' o glywed rhaglen Eleri Sion a Dafydd Du am y tro cynta bora ddoe. Smyt llwyr swn i'n galw fo. Dwi'm yn prw^d de, ond cwbwl natho nhw am awr odd troi bob pwnc a bob sylw yn sexual innuendo - nesh i ffeindio'r holl beth yn fabïaidd ag yn amateuraidd iawn. Ro'n i mor falch pan ddoth Nia Roberts ymlaen i adfer chydig o safon.
Ar y llaw arall, os dwi'n gorfod dreifio'n bell ar ddydd Sul, dwi'n gwneud yn siwr bo fi'n gwneud hynny yn y pnawn, achos ma rhaglen Lisa Gwilym yn gret.
Rhithffurf defnyddiwr
ffawydden
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 33
Ymunwyd: Maw 06 Meh 2006 12:59 pm

Re: Radio Crymi

Postiogan bartiddu » Mer 25 Maw 2009 5:08 pm

Sai ishe rhoi downer ar bethe ond oedd R.C. 'mlaen da fi rhan fwya'r dydd/nos. Ambell waith i wrando, ambell waith cael rhywbeth Cymra'g yn y cefndir. Dwi'm yn gwrando hanner cymaint a wen i dyddie 'ma. :crio:
Ges i un noswaith sbel nol lle roedd rhyw westau DJ yn whare popeth at yn nhant i gyda'r hwyr, cymrag/seisneg.. ~( oni'n edrych ar y radio bob hyn a hyn a meddwl 'ffaacinhel' :D ) nes i'm dala'r enw, falle mae Dyl Mei oedd e, sai'n cweit siwr, oedd e misoedd nol ta beth.
Yn amal iawn dyddie 'ma tawelwch neu CD yw'r dewis. :|
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Re: Radio Crymi

Postiogan Oscar Goldman » Maw 28 Gor 2009 8:22 pm

Un o fy hoff ddiddordebau yw chware 'Rodeo Jonsi'. Sut mae chware?

Troi'r radio ymlaen ar brynhawn yn yr wythnos, tiwnio i Jonsi ar Radio Cymru, ac yna gweld pa mor hir alle chi barhau i wrando ar y ff**er cawslyd cyn sgrechen/cyfogi/taflu'r radio at y wal (neu hyd yn oed y tri gyda'u gilydd).

3 munud 20 eiliad yw fy record i hyd yn hyn.

:ing:
Oscar Goldman

Steve Austin:gofodwr. Dyn sy' prin yn fyw. Gallwn ei ail-adeiladu. Mae gyda ni'r dechnoleg. Gallwn ei wneud yn well nag yr oedd o'r blaen. Gwell....cryfach....cyflymach!
Rhithffurf defnyddiwr
Oscar Goldman
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 6
Ymunwyd: Sad 28 Hyd 2006 8:29 am
Lleoliad: Ty crand gyda garej dwbl a privet hedge yn un o faestrefi gogledd L.A.

NôlNesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 26 gwestai