gan Prysor » Sad 04 Ebr 2009 1:44 pm
Wedi clywed yn hwyr neithiwr fod hyn wedi digwydd (o'ni meddwl fod y RAPs wedi marw), wedyn mynd draw i wefan C2 i weld yr enillwyrs. A dyma ddod yma i adael neges o longyfarchiadau i Gai Toms, MC Mabon a phawb arall enillodd, a gweld bod 'na drafodaeth ar ddatblygu am y dewisiadau ac ati. Mae 'na amball i enw wedi codi aeliau, oes, ond masiwr na panelwyr yn gorfod dewis rhwng dau gyfartal yn eu tyb nhw ydi lot onafo. Pawb a'i dast ydi diwadd y gan.
Y peth ydi de, mae 'na elfen gref o ffars i wobrau cerddorol, a dydi gwobrau RAP ddim gwahanol. Ac fe ellir deud fod gwobrau 2009 yn ddwywaith y ffars am eu bod yn cyfrif 2 flynedd o stwff. Deud gwir, doedd dim posib i RAP 2009 fod yn gwbl gynrychioladol a dylent fod wedi un ai rhoi gwobrau arwahan i stwff/artistiaid 2008 a 2009, neu ehangu'r rhestrau byr i 8 enwebiad lle bo hynny'n deilwng, neu angofio am 2008 yn gyfangwbl - fysa'n gwneud llawer mwy o sens.
Wchi, ydio rili yn loes calon i artistiaid eu bod wedi colli allan ar gyfle i ennill gwobr yn 2008? Dim ennill awords ydi cymhelliad cerddorion i greu miwsig. Dim tlysau ar y silff ben tan ydi roc a rol, felly dwn i ddim pam fod Gwobrau RAP yn meddwl fod rhaid ymestyn y wobr i gyfro 07/08.
Dydi o ddim fel fod o'n datrys y 'broblem' honno, tasa hi'n bodoli (bandia yn teimlo anghyfiawnder am golli'u tsians i chwydu dros dits Magi Dodd ar y podiwm yn 2008). Achos falla fod 'na artistiaid efo, er engraifft, chwip o albym neu chwip o gigs o dan eu belt yn 2007 (gwobrau 08), cyn i fand arall eu chwalu nhw yn 2008 (gwobrau 09), a fyddan nhw'n colli allan beth bynnag. Solfio dim nacdi?
Ac wrth gwrs, mae'n gweithio ffordd arall rownd hefyd. Band ac albym y flwyddyn dwytha yn curo band ac albym y flwyddyn gynt. Oni bai fod 'na fand ac albym etc wedi bod yn chwalu popeth arall yn gyson am ddwy flynadd, dydi'r dewis ddim yn mynd i fod yn hawdd, nacdi?
Mond cwpwl o engraifftau ydi rheina. Sna'm pwynt rhestru'r holl senarios posib, gan mod i'n siwr y medr unrhyw un feddwl am fwy ar ól darllen rhain.
Fy mhwynt? Fod Gwobrau RAP, trwy rhyw ymgais PC i ymddangos yn deg efo artistiaid oedd yn fflio mynd yn 2007, wedi llwyddo i greu mwy o argraff o anhegwch nag a fydda nw tasa nhw jysd wedi gadael i gi du Gwobrau 08 orffwys mewn hedd.
Ac yn fwy cyffredinol: mae'r panel yn eang ac eithaf cynrychioladol (ond dim venues rheolaidd na threfnwyr gwyliau na siopau recordiau, sydd yn gywilyddus!), ond oherwydd natur y busnas a natur ac oedran cynulleidfa'r busnas, mae dewisiadau'r panel wastad yn mynd i sgiwio'n naturiol tuag at gerddoriaeth poblogaidd. Er fod carfan da o gynrychiolwyr broffesiynol ar y panel, dydi o ddim wastad yn wir mai'r miwsig, bandia a gigs gorau sy'n ennill bob tro.
Falla mai'r ateb yw ail-gategoreiddio yn ol genre a steils cerddorol. Dylai hynny wneud y panel a'r enwebiadau yn fwy cynrychioladol. Dylai hefyd wneud i'r dewisiadau ar gyfer y prif restrau byr Band neu Albwm Gorau'r Flwyddyn, er engraifft, fod yn llawer haws (a haws i'w derbyn) oherwydd byddai'r enwau hynny wedi gorfod bod ben ac ysgwydd uwchben y lleill yn gyffredinol ac am resymau ehangach na steil eu miwsig - fel poblogrwydd, sef y prif reswm, fe ellir dadlau, y mae nhw'n ennill ar y funud (ac yn deg yn hynny o beth).
Ond all yr un Gwobrau fod yn gwbl gynrychioliadol, wrth gwrs. Tra mae safon a haeddiant yn aml yn gwthio i'r brig, tast ydi - a bydd - lot ohono ac, i raddau gwahanol, dylanwad hyrwyddwyr, labeli a chynhyrchwyr radio. Mae estyn y Gwobrau dros ddwy flynedd jysd yn ei gwneud hi'n anoddach i adlewyrchu 'band y funud' neu 'albwm y funud' - sef be ddylai'r gwobrau mwyaf cyffredinol fod, mewn ffordd.
Ar ddiwadd dydd, dydi Gwobr ddim yn ennill mwy o barch yn lle mae o'n cyfri - sef yn y gigs ac yn y gwerthfawrogiad torfol o'r gerddoriaeth, a be mae o'n ei olygu/gynrychioli/wneud yn bersonol i wrandawr. A gwneud hynny (a derbyn y parch hwnnw) trwy fynegi eu heneidiau yn greadigol ydi'r gwir ffwlffilment i unrhyw gerddor, nid derbyn ornament i roi ar y bwrdd efo'r ashtres.
Bydd gan bawb ei farn, waeth be bynnag y bo. Ond dio'm yn ddiwadd byd, nacdi?