sin roc gymraeg

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: sin roc gymraeg

Postiogan Nei » Iau 14 Ebr 2011 10:52 am

Dyw Llwybr LLaethog ddim wedi gwneud 'Bocs set' am taw nage gyda 'Sain' maen nhw'n cyhoeddi pethe a tuedd 'Sain' yn ddiweddar yw gnweud 'Bocs sets', Edward H, Jarman a Steave Eaves mor belled.
Me meus nemed naou miz da roul va yaounkiz...
Rhithffurf defnyddiwr
Nei
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 235
Ymunwyd: Llun 27 Hyd 2003 6:37 pm
Lleoliad: Pontypridd

Re: sin roc gymraeg

Postiogan dil » Iau 14 Ebr 2011 10:53 am

elli di enwi'r bandie ti meddwl oedd yn heuddu ennill gwobr rap?
Rhithffurf defnyddiwr
dil
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 488
Ymunwyd: Gwe 19 Maw 2004 11:47 am

Re: sin roc gymraeg

Postiogan Nei » Iau 14 Ebr 2011 11:16 am

gallaf
Me meus nemed naou miz da roul va yaounkiz...
Rhithffurf defnyddiwr
Nei
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 235
Ymunwyd: Llun 27 Hyd 2003 6:37 pm
Lleoliad: Pontypridd

Re: sin roc gymraeg

Postiogan osian » Iau 14 Ebr 2011 12:09 pm

Nei a ddywedodd:A pryd ma Llwybr Llaethog am gael gwobr cyfraniad oes?

Wel, matar o amsar ydi o 'de. Ma' jysd yn fatar o fynd trwy'r rhei amlwg ar y funud swn i'n meddwl - o'dd Steve Eaves yn ddewis amlwg 'leni (ac yn un o'r enillwyr mwya' haeddiannol erioed), hyd y gwela i, Ll.Ll. (a Bryn Fon ella) ydi'r rhei amlyca' sydd heb gael un hyd yma, felly yn y 2 flynadd nesa' dwi'n ddarogan!
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: sin roc gymraeg

Postiogan Khmer » Gwe 15 Ebr 2011 12:11 pm

Cyfraniad Oes - Llwybr Llaethog
Artist Gwrywaidd - CYRION (Er Al lewis yn haeddi hefyd, jyst blas personol)
Artist Benywaidd = Ritzy Bryan (Joy Formidable)
Band Y Flwyddyn - Joy Formidable
Band Byw gorau - Y Bandana
Can Y Flwyddyn - Yr Ods 'Y Bel yn Rowlio'
cyfansoddwr y flwyddyn - Lleuwen Steffan
Sesiwn C2 - Gildas
Yr artist a ddaeth i amlygrwydd - Crash Disco
Albym Y Flwyddyn - Y Niwl
Khmer
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Mer 29 Medi 2010 12:42 pm

Re: sin roc gymraeg

Postiogan Ramirez » Gwe 15 Ebr 2011 2:34 pm

Khmer a ddywedodd:Cyfraniad Oes - Llwybr Llaethog
Artist Gwrywaidd - CYRION (Er Al lewis yn haeddi hefyd, jyst blas personol)
Artist Benywaidd = Ritzy Bryan (Joy Formidable)
Band Y Flwyddyn - Joy Formidable
Band Byw gorau - Y Bandana
Can Y Flwyddyn - Yr Ods 'Y Bel yn Rowlio'
cyfansoddwr y flwyddyn - Lleuwen Steffan
Sesiwn C2 - Gildas
Yr artist a ddaeth i amlygrwydd - Crash Disco
Albym Y Flwyddyn - Y Niwl


Dewisiadau da, cytuno efo lot.

Fel ddudodd Osian, efo'r cyfraniad oes, mater o amser dio de. Dwi'n eitha sicr y daw cyfle Llwybr Llaethog, a mae nhw'n llawn haeddu'r wobr. Dio ddim yn dibynnu ar eu cyfraniad dros y flwyddyn gan mai cyfraniad oes ydio, ond ma'n gneud rhyw fath o sens clymu'r wobr efo unhryw ddigwyddiad neu gynnyrch diweddar i raddau, fel box set Setve Eaves.

O ran dim digon o roc etc., dwi'n meddwl mai jysd mater a be sydd o gwmpas ydio. Dwi'n siwr fod dwyno wedi bod o blaen fod gormod o roc a dim digon o electronica, a rwan mae o ffordd arall rownd, a ella mwy o ganu gwerin-ish newydd hefyd. Ond felna mae hi de, os oesna ddim lot o fandiau roc o gwmpas, yna dyna fo. Llanw a thrai a hynny oll.

Fy hun dwi'n meddwl bod y gwobrau yn eitha adlewyrchol, a ddim gymaint o 'love-in' ac y bysa fo'n gallu bod. Dwi'n meddwl bod y system o gael panel mawr ac eithaf eang yn gweithio o ran gwrthrychedd, achos os mai pleidlais y cyhoedd ydio, oes na siawns fod gormod o risg o bobol jysd yn pleidleisio am eu hoff artistiaid yn hytrach na pwy sydd wir yn haeddu'r teitlau penodol?
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Re: sin roc gymraeg

Postiogan Khmer » Sad 16 Ebr 2011 5:58 am

Cytuno am Gael panel yn dewis. Ti'n iawn hefyd am hyn yn adlewyrchu'r sin. Yn bersonol dwi'n ffeindio fe'n boring iawn ar hyn o bryd. Hefyd di roc na pop yn cael ffyc all o gefnogaeth gan bersonoliaethau dylanwadol cyfryngau cymraeg. Os ti'n acwstig, canu am hiraeth neu yn cynhyrchu lo-Fi White noise - yer in! Ac am Llwybr Llaethog, mi o'n nhw'n dathlu 25 yn y diwydiant leni a di neud parti/gig yn gogledd a de I ddathlu'r achlysur. Ma hynny a'i hanes nhw yn y diwydiant yn rhoi'r blaenoriaeth iddyn nhw I ennill y wobr. Warthus bod hyn heb Gael ei gysidro just achos bod steve eaves/ Sain di rhyddhau box set!
Khmer
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Mer 29 Medi 2010 12:42 pm

Re: sin roc gymraeg

Postiogan Meri » Sad 16 Ebr 2011 4:04 pm

Khmer a ddywedodd: Hefyd di roc na pop yn cael ffyc all o gefnogaeth gan bersonoliaethau dylanwadol cyfryngau cymraeg. Os ti'n acwstig, canu am hiraeth neu yn cynhyrchu lo-Fi White noise - yer in!


Cytuno efo hyn. C2 rhwng 8-11 wedi mynd yn ddiflas iawn.
Meri
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Sul 07 Maw 2010 9:11 am

Nôl

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron