sin roc gymraeg

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

sin roc gymraeg

Postiogan Dr Strangelove » Maw 03 Maw 2009 12:04 am

ai fi sy'n hen neu ydy'r sin roc gymraeg ar hyn o bryd yn gachu rwtch llwyr?
we'll never, never play the harp, and we'll stick like sick on the stars
Dr Strangelove
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 60
Ymunwyd: Gwe 19 Hyd 2007 9:13 am
Lleoliad: europe, america, winterland

Re: sin roc gymraeg

Postiogan Ramirez » Maw 03 Maw 2009 9:25 am

Ydi'n bosib i chdi roi engreifftiau i ni gael trafod?
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Re: sin roc gymraeg

Postiogan tomsyn » Maw 03 Maw 2009 11:26 am

dwi'm yn gweld dim byd yn bod gyda'r sin ar y funud
Mor ddefnyddiol a condom yn y Vatican City
tomsyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 45
Ymunwyd: Iau 06 Maw 2008 3:07 pm

Re: sin roc gymraeg

Postiogan Sioni Size » Maw 03 Maw 2009 11:54 am

Be ydi dy ddisgwyliadau di ac oedd cyfnod lle oeddet yn fwy hapus hefo'r Sin?
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Re: sin roc gymraeg

Postiogan Ramirez » Maw 03 Maw 2009 12:58 pm

Hefyd, wyt ti'n golygu sin roc yn yr ystyr llythrennol (h.y cerddoriaeth 'rock' yn unig), ta jysd cerddoriaeth 'gyfoes' yn gyffredinol?

Ella bod genti boint ei bod hi'n gachu rwtsho ran gwerthiant a diddordeb cyhoeddus, ond dwi'n anghytuno fod 'na broblem fawr ynglyn a safon y cynnyrch - jysd mater o chwilio'n ddigon caled ydio, yr un fath a unrhywbeth arall.

Ond ia, fedrai'm rhoi fy marn tan i chdi egluro mymryn mwy.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Re: sin roc gymraeg

Postiogan Dai dom da » Maw 03 Maw 2009 2:33 pm

Ma pethau wedi arafu lawr lot yn y flwyddyn diwetha , yn gyffredinol. Ond falle mai bau fi yw hwnna am beidio cymeryd ddigon o sylw.
Mae'r ardal ble dwi'n dod o jest yn dead i fod yn onest.
Rhithffurf defnyddiwr
Dai dom da
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3036
Ymunwyd: Gwe 05 Maw 2004 11:21 am
Lleoliad: Blaenffos / Caerfyrddin

Re: sin roc gymraeg

Postiogan dil » Mer 04 Maw 2009 11:54 am

trefna gig te. dwin meddwl fod rhaid gorfodi pethe ddigwydd weithie.
os di bandie yn cal cyfle newnhw wella.wedyn fydd diddordeb yn y sin.
os di llai o bobl yn mynd i gigs rhaid gweithio yn galetach i neud pethe weithio.
be syn poeni fi fwya ydi fod y bandie mwy ifanc yn gwbwl ganol y ffordd.ond fi di hune alle.
ma nhwn gweld dwin ame, fod bod yn ganol y ffordd yn dilyn at lwyddiant o edrych ar pwy syn llwyddianus yn y sin.
does dim insentive i arbrofi a trio creu cerddoriaeth wreiddiol heblaw yr awydd.
yr ateb dwin meddwl ydi trefu gig
Rhithffurf defnyddiwr
dil
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 488
Ymunwyd: Gwe 19 Maw 2004 11:47 am

Re: sin roc gymraeg

Postiogan Trani Drws Nesa » Mer 04 Maw 2009 5:11 pm

Ma fe bach yn or syml i ddweud for y sin yn shit. Ar un llaw ma llwyth o fands profiadol fel Y Rei, Genod Droog, Frizbee, Swci B ayyb wedi torri lan ond am bob un o rhain ma da ti fands ifanc sy'n sgrifennu tiwns jyst cystal os nad gwell e.e. Yr Ods, Creision Hud, Wyrligigs, Byd Dydd Sul, Nos Sadwrn Bach, Just like frank, Adrift, Zimmermans ayyb. O ran cynnyrch wedi'i recordio dwi'n meddwl fod na ddigonedd o ddewis o stwff da os ti'n chwilio amdano ar myspace.

Yr un agwedd sy'n wan ar hyn o bryd yw'r diffyg gigs. O dan yr artisitiaid profiadol fel Brigyn a Derwyddon, does ddim lot o'r bandiau ifanc yn gigio'n gyson. Dwi ddim yn siwr os taw diffyg darpariaeth ar ran trefnwyr yw hyn neu fod y bandiau yma'n methu gigio lot oherwydd arholiadau, coleg, gwaith ayyb.

Glywes i drefnydd gigs yn son am gael anhawsterau wrth geisio bwcio bandiau yn ddiweddar. Byddai'n ddiddorol clywed os yw hyn yn beth cyffredin neu os yw'r bands ar gael ond yn strygglan i gael gigs.
popeth mwy neu lai yn standing by
http://www.myspace.com/mattoidz
Rhithffurf defnyddiwr
Trani Drws Nesa
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 408
Ymunwyd: Maw 02 Maw 2004 4:51 pm
Lleoliad: rockin the suburbs

Re: sin roc gymraeg

Postiogan benni hyll » Mer 04 Maw 2009 10:02 pm

dil a ddywedodd:be syn poeni fi fwya ydi fod y bandie mwy ifanc yn gwbwl ganol y ffordd.ond fi di hune alle.
ma nhwn gweld dwin ame, fod bod yn ganol y ffordd yn dilyn at lwyddiant o edrych ar pwy syn llwyddianus yn y sin.


Allan o ddiddordeb, pwy ti'n gweld yw'r bandiau newydd Canol y ffordd, dil?
I can't control my heart rate, I got a cougar on me.
Rhithffurf defnyddiwr
benni hyll
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2065
Ymunwyd: Llun 16 Chw 2004 2:19 pm

Re: sin roc gymraeg

Postiogan tomsyn » Iau 05 Maw 2009 12:07 am

Trani Drws Nesa a ddywedodd: ond am bob un o rhain ma da ti fands ifanc sy'n sgrifennu tiwns jyst cystal os nad gwell e.e. Yr Ods, Creision Hud, Wyrligigs, Byd Dydd Sul, Nos Sadwrn Bach, Just like frank, Adrift, Zimmermans ayyb. O ran cynnyrch wedi'i recordio dwi'n meddwl fod na ddigonedd o ddewis o stwff da os ti'n chwilio amdano ar myspace.

Yr un agwedd sy'n wan ar hyn o bryd yw'r diffyg gigs. O dan yr artisitiaid profiadol fel Brigyn a Derwyddon, does ddim lot o'r bandiau ifanc yn gigio'n gyson. Dwi ddim yn siwr os taw diffyg darpariaeth ar ran trefnwyr yw hyn neu fod y bandiau yma'n methu gigio lot oherwydd arholiadau, coleg, gwaith ayyb.

Glywes i drefnydd gigs yn son am gael anhawsterau wrth geisio bwcio bandiau yn ddiweddar. Byddai'n ddiddorol clywed os yw hyn yn beth cyffredin neu os yw'r bands ar gael ond yn strygglan i gael gigs.


Dwi'n cytuno ond eto yn anghytuno gyda be t'n ddeud. Cytuno efo'r bit cyntaf (just bod chd angen adio 'Y Bandana' at y rhestr :p), ond anghytuno gyda'r gweddill. Mae o just rili yn fater o rhoi'r commitment mewn i'r band. Dwi'n teithio nol o Fanceinion i Gnarfon bron pob penwythnos ar gyfer ymarfer neu gig. Os dwi'n credu bod ni fel band am lwyddo dwi'n rhoi y band yn gyntaf (yn hytrach na prifysgol, arholiadau ayyb) gyda'r gobaith bod pob un gig da ni'n cael yn golygu mwy o adnybyddiaeth tuag at y band.
Mor ddefnyddiol a condom yn y Vatican City
tomsyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 45
Ymunwyd: Iau 06 Maw 2008 3:07 pm

Nesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 28 gwestai

cron