sin roc gymraeg

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: sin roc gymraeg

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 06 Awst 2009 1:34 pm

O fod yn y Steddffod am ddim ond deuddydd, fe ges i wledd o gerddoriaeth. Madre Fuqueros ar y Maes, Gareth Bonello nos Fawrth, albwm Bob, EP à pherfformiad Byd Dydd Sul (sy'n chwip o fand newydd da), mini-albwm Promatics, Creision Hud a Wyrligigs neithiwr, band newydd o'r enw Bandanas (fi'n credu mai dyna'u henw nhw) ar y Maes. I gyd mewn llai na deuddydd.

Dyw unrhyw sy'n meddwl bod y sin yn farwaidd ddim yn talu digon o sylw.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Dr Strangelove » Maw 11 Awst 2009 11:22 pm

ti'n hollol iawn, ma na betha da ar gael (ac ar y ffordd). ond dwi'n sticio i be dwi'n deud: sut ma'r sin yn cael gyfleu yn y cyfryngau yn shite (s4c/radio cymru/c2/ayyb), diogrwydd y cyfryngau i fywiogi'r sîn, a diogrwydd bandiau i drafeilio tu hwnt i'w ardaloedd ysgol sul ... yadda yadda yadda.

ond dwi'n optimistic. rili optimistic!
we'll never, never play the harp, and we'll stick like sick on the stars
Dr Strangelove
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 60
Ymunwyd: Gwe 19 Hyd 2007 9:13 am
Lleoliad: europe, america, winterland

Re: sin roc gymraeg

Postiogan dil » Mer 12 Awst 2009 8:37 am

ateb Bandit ydi rhoi Gwyl Bandit ymlaen sy'n wyl ffug cyn belled a dwi'n gwbod.
neud rhaglen sy'n cogio bod yn wyl gerddorol. dwi heb weld o eto ond allaim aros i rhwyn ddadle fod o o werth.
dylie ni allu dibynu ar y cyfryngau sy'n gwario pres cyhoeddys i gofnodi be syn digwydd yn gyhoeddys.
dwi'n bersonol yn meddwl fod gan y teli a radio cyfraniad a chyfrifoldeb tuag at gefnogi'r sin.
ond dwi'm yn meddwl bo nhwn gweld hi felne. ma enghraifft bandit o greu gwyl ffug yn lle cofnodi gwyl ne ddigwyddiad
gwir yn deud pob dim. mae'n amser i rwyn arall gael y cyfle i ddefnyddio ei'n pres ni.
Rhithffurf defnyddiwr
dil
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 488
Ymunwyd: Gwe 19 Maw 2004 11:47 am

Re: sin roc gymraeg

Postiogan tomsyn » Mer 12 Awst 2009 10:41 am

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd: band newydd o'r enw Bandanas (fi'n credu mai dyna'u henw nhw) ar y Maes..

Y Bandana yw enw'r band, just i adael ti wybod :D
Mor ddefnyddiol a condom yn y Vatican City
tomsyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 45
Ymunwyd: Iau 06 Maw 2008 3:07 pm

Re: sin roc gymraeg

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 13 Awst 2009 9:22 am

tomsyn a ddywedodd:
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd: band newydd o'r enw Bandanas (fi'n credu mai dyna'u henw nhw) ar y Maes..

Y Bandana yw enw'r band, just i adael ti wybod :D

Gwd shit. Cariwch 'mlaen.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: sin roc gymraeg

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Iau 13 Awst 2009 3:38 pm

dil a ddywedodd:ateb Bandit ydi rhoi Gwyl Bandit ymlaen sy'n wyl ffug cyn belled a dwi'n gwbod.
neud rhaglen sy'n cogio bod yn wyl gerddorol. dwi heb weld o eto ond allaim aros i rhwyn ddadle fod o o werth.
dylie ni allu dibynu ar y cyfryngau sy'n gwario pres cyhoeddys i gofnodi be syn digwydd yn gyhoeddys.
dwi'n bersonol yn meddwl fod gan y teli a radio cyfraniad a chyfrifoldeb tuag at gefnogi'r sin.
ond dwi'm yn meddwl bo nhwn gweld hi felne. ma enghraifft bandit o greu gwyl ffug yn lle cofnodi gwyl ne ddigwyddiad
gwir yn deud pob dim. mae'n amser i rwyn arall gael y cyfle i ddefnyddio ei'n pres ni.

dwi'n cytuno efo dil. yn arbennig ar ol gweld y rhaglen neithiwr - doedd 'na 'm llawar o bobol yna, hyd yn oed. gwyl ffug 'di ca'l 'i chreu yn unswydd er mwyn dibenion rhaglen deledu. lot gwell fasa adlewyrchu'r holl wylia cynhyrfus sy'n cael 'u cynnal drw'r ha', rhoi 'chydig o hwb i'r rheiny, a chefnogaeth i waith calad y bobol sy'n 'u trefnu nhw.
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Re: sin roc gymraeg

Postiogan Dr Strangelove » Gwe 14 Awst 2009 11:51 pm

oce, mae syniad bandit yn shite, ond MAE angen ryw fath o ffestifal yng nhymru sy' mwy o showcase o be sy' mlaen tu hwnt y 'steddfod a sydd ddim mor logocentric. trwbwl di, ma pawb ar y top yn y cyfryngau efo dim ffycin cliw ac o'r enw rhisiart ap cocoen: the revolution will not be televised. ffyc ym! ffyc ym ol!

dyddie da i ddod ...
we'll never, never play the harp, and we'll stick like sick on the stars
Dr Strangelove
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 60
Ymunwyd: Gwe 19 Hyd 2007 9:13 am
Lleoliad: europe, america, winterland

Re: sin roc gymraeg

Postiogan Gwilym » Sul 16 Awst 2009 3:48 am

dil a ddywedodd:ateb Bandit ydi rhoi Gwyl Bandit ymlaen sy'n wyl ffug cyn belled a dwi'n gwbod.
neud rhaglen sy'n cogio bod yn wyl gerddorol. dwi heb weld o eto ond allaim aros i rhwyn ddadle fod o o werth.
dylie ni allu dibynu ar y cyfryngau sy'n gwario pres cyhoeddys i gofnodi be syn digwydd yn gyhoeddys.
dwi'n bersonol yn meddwl fod gan y teli a radio cyfraniad a chyfrifoldeb tuag at gefnogi'r sin.
ond dwi'm yn meddwl bo nhwn gweld hi felne. ma enghraifft bandit o greu gwyl ffug yn lle cofnodi gwyl ne ddigwyddiad
gwir yn deud pob dim. mae'n amser i rwyn arall gael y cyfle i ddefnyddio ei'n pres ni.

Yn union. A chofia mai cwmni preifat sy'n gyfrifol am Bandit a Nodyn, a'u bod nhw'n gweithio yn ol comisiwn S4C. Ar ddiwedd y dydd, rhyw 2 neu 3 big wig yng Ngharedydd sy'n gyfrifol am yr holl ddarlledu mwy neu lai. Mae'r bai yn sgwar ar eu pennau nhw. Nhw a'u rhagflaenwyr sy di creu marchnad ffug allan o'r cyfryngau yng Nghymru, a hynny i gyd drwy arian cyhoeddus. Mae nhw di bod yn 'streamlinio'r' diwydiant ers blynyddoedd gan wthio cwmniau llai at ei gilydd, canoli'r diwydiant a rhoi'r grym yn nwylo ychydig iawn o bobl. Free market my arse.

Mae ariannu cwmnioedd mawr yn golygu hybu "production line mentality", a hynny ar draul datblygu cynnwys unigryw. Mae'r rhan fwyaf o'r staff cynhyrchu yn gwneud dim ond dilyn ordors, fel nad oes llawer o le iddyn nhw ymarfer eu creadigwrydd eu hunain. Mae'r lle'n farw ar ei draed. Mae'r ychydig rhai sy'n parhau i greu rhaglenni da yn gwneud er gwaethaf y sefyllfa twp ma. Tan i'r cynulliad ddatganoli'r diwydiant (a naw'n nhw ddim achos tydan nhw ddim isho'r cyfrifoldeb) bydd rhyw ffyliaid yn parhau i geisio plesio'r demograffig mwyaf cyffredinol.

A pha gyfryngau'n union a phwy di'r dorf 'ma? Mae'r holl gysyniad o gyfrwng torfol ar ei last legs erbyn heddiw eniwe, gyda mwy o blatforms ar gael na da ni'n gallu defnyddio'n gall. Mae'n bosibl mewn rhyw ddegawd bydd y rhan fwyaf o Gymry'n gwatsied Iw-tiwb yn amlach nag S4C. Piti nad oes na llawer o obaith y bydd y gorfforaeth yn gwireddu ei photensial cyn hynny ac yn dechrau magu talent fel y dylse nhw.

Trist iawn. Very Sad.

Ffyc ym ol.
traciau newydd Drymbago ayyb:
http://www.caneuon.com
Rhithffurf defnyddiwr
Gwilym
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Mer 23 Meh 2004 4:55 pm
Lleoliad: Bangor

Re: sin roc gymraeg

Postiogan Dr Strangelove » Sul 16 Awst 2009 11:34 pm

Gwilym a ddywedodd:

dwi'n lyfio ti gwilym, please be mine!
we'll never, never play the harp, and we'll stick like sick on the stars
Dr Strangelove
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 60
Ymunwyd: Gwe 19 Hyd 2007 9:13 am
Lleoliad: europe, america, winterland

Re: sin roc gymraeg

Postiogan Gwilym » Llun 17 Awst 2009 12:23 am

Recno ddyle ni redeg pol piniwn:

"ffyc ym" . . . neu . . . "ffyc ym ol"
traciau newydd Drymbago ayyb:
http://www.caneuon.com
Rhithffurf defnyddiwr
Gwilym
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Mer 23 Meh 2004 4:55 pm
Lleoliad: Bangor

NôlNesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron