sin roc gymraeg

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: sin roc gymraeg

Postiogan Dafydd ap Llwyd » Mer 02 Medi 2009 11:39 pm

Dr Strangelove a ddywedodd:ai fi sy'n hen neu ydy'r sin roc gymraeg ar hyn o bryd yn gachu rwtch llwyr?


Dewch i weld, a phenderfynnu am y gosodiad uchod mis Hydre ma yng Nghaerdydd - gigs Oxjam gan gynnwys gig ger y Taf a gobeithion disglair y sin yma yn y brifddinas :

El Parisa
Ginge and the Celloboi

a rhywun o'r enw Dafydd ap Llwyd

ni yn gobitho am un neu ddou band/artist Cymry Cymraeg arall 'o fri'

ebostiwch shyffl@live.com i gofrestru eich diddordeb(au) !

jiolch

as os euth hi yn weddol, fydd yna fwy yn y dyfodol!

(fe wna i roi'r manylion am y gig ar y seiat Gigs unwaith ma popeth di cadarnhau)


a weden i eich bod yn ran o'r sin wrth ddarllen hyn, felly dewch i gefnogi ac felly i gryfhau'r sin!
Rhithffurf defnyddiwr
Dafydd ap Llwyd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 30
Ymunwyd: Gwe 31 Awst 2007 9:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: sin roc gymraeg

Postiogan Dr Strangelove » Sad 26 Maw 2011 1:00 am

we'll never, never play the harp, and we'll stick like sick on the stars
Dr Strangelove
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 60
Ymunwyd: Gwe 19 Hyd 2007 9:13 am
Lleoliad: europe, america, winterland

Re: sin roc gymraeg

Postiogan Meri » Maw 12 Ebr 2011 3:41 pm

Er bod C2 yn canmol eu hunain, roeddwn i yn siomedig gyda Gwobrau RAP 2011. Doedd dim Roc ymhlith yr enillwyr - canol y ffordd oedd pob dim. Doedd yna ddim byd cyffrous fyddai'n apelio at bobl ifanc ac yn eu denu i wrando ar gerddoriaeth Gymraeg. Angen edrych eto ar sut mae'r enillwyr yn cael eu dewis - angen elfen o ddewis y cyhoedd er mwyn adlewyrchu beth sy'n boblogaidd go iawn.
Meri
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Sul 07 Maw 2010 9:11 am

Re: sin roc gymraeg

Postiogan Ramirez » Mer 13 Ebr 2011 3:54 pm

Meri a ddywedodd:Er bod C2 yn canmol eu hunain, roeddwn i yn siomedig gyda Gwobrau RAP 2011. Doedd dim Roc ymhlith yr enillwyr - canol y ffordd oedd pob dim. Doedd yna ddim byd cyffrous fyddai'n apelio at bobl ifanc ac yn eu denu i wrando ar gerddoriaeth Gymraeg. Angen edrych eto ar sut mae'r enillwyr yn cael eu dewis - angen elfen o ddewis y cyhoedd er mwyn adlewyrchu beth sy'n boblogaidd go iawn.


Hmm.

Allai'm gweld be sy'n ganol y ffordd am Gentle Good, Crash. Disco!, Jen Jeniro, Cate Le bon, Yr Ods, na Y Niwl. O gwbwl. Be'n union ydi canol y ffordd, eniwe?

A ma Jen Jeniro, Yr Ods a Y Niwl yn fandiau roc.




Problem efo dewis y cyhoedd ydi bod o'n adlewyrchu dim byd - genti tua 10 neith bleidleisio unwaith, a tua 5 neith bleidleisio 1000 oweithiau am yr un peth.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Re: sin roc gymraeg

Postiogan Khmer » Mer 13 Ebr 2011 7:05 pm

Ramirez a ddywedodd:
Hmm.

Allai'm gweld be sy'n ganol y ffordd am Gentle Good, Crash. Disco!, Jen Jeniro, Cate Le bon, Yr Ods, na Y Niwl. O gwbwl. Be'n union ydi canol y ffordd, eniwe?

A ma Jen Jeniro, Yr Ods a Y Niwl yn fandiau roc.




Problem efo dewis y cyhoedd ydi bod o'n adlewyrchu dim byd - genti tua 10 neith bleidleisio unwaith, a tua 5 neith bleidleisio 1000 oweithiau am yr un peth.


Jen Jeniro, Yr Ods a'r Niwl yn fandiau ROC?!! Pa ffocin blaned wy ti ar? Ma'r ods yn fand indie-pop (mwy o pop na unrywbeth arall ac ma' nhw'n dweud hynny yn agored iawn, Y Niwl yn Surff Music meets The Shadows, a Jen Jeniro yn hangover o SFA, sydd eto, ddim yn ROC.

A na, dyw Gentle Good na Cate Le Bon ddim yn canol y ffordd ond ma' watcho paent yn sychu yn fwy diddorol na gwrando arnyn nhw. Maes B llynedd, Na'th Cate Le Bon WAGIO'r lle gyda'i headline set.

Y peth gore am Gwobre RAP leni oedd MIX Dyl Mei/ Lladron o'r holl gerddorion ar ddiwedd y Nos. Oedd y ffaith bod yn rhaid iddo ddefnyddio samples a beats Kylie a Madonna rhwng ac o dan y caneuon yn siarad cyfrolau. Braidd DIM POP a dim pripsyn o Roc yn y gwobre ROC a POP. A pam na chafodd Cyrion ei nomiwneiddio am artist gwrywaidd y flwyddyn?! Fe a Crash Disco ydy'r unig rhai sy'n creu unryw fath o swn cyfredol ar hyn o bryd, nid just ail-gylchu popeth cymreig i ni wedi clywed dro ar ol tro ar ol tro.
Khmer
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Mer 29 Medi 2010 12:42 pm

Re: sin roc gymraeg

Postiogan dil » Iau 14 Ebr 2011 5:51 am

os tisio roc cer i hwn nos wener:

http://www.facebook.com/event.php?eid=165685353484867

ellli di ddeud pwy ti meddwl ddyie fod wedi ennill pob catogri gwobrau rap yn dy farn di.
Rhithffurf defnyddiwr
dil
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 488
Ymunwyd: Gwe 19 Maw 2004 11:47 am

Re: sin roc gymraeg

Postiogan Meri » Iau 14 Ebr 2011 8:33 am

Ramirez a ddywedodd:Problem efo dewis y cyhoedd ydi bod o'n adlewyrchu dim byd - genti tua 10 neith bleidleisio unwaith, a tua 5 neith bleidleisio 1000 oweithiau am yr un peth.



Fasen bosib cael system fel oedd gan Gwobrau'r Selar oedd ddim yn caniatau i un person bleidleisio mwy nag unwaith.
Meri
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Sul 07 Maw 2010 9:11 am

Re: sin roc gymraeg

Postiogan Ramirez » Iau 14 Ebr 2011 9:05 am

Jen Jeniro, Yr Ods a'r Niwl yn fandiau ROC?!! Pa ffocin blaned wy ti ar?.


Planed lle nad yw holl fiwsig roc yn 'galed' neu'n 'drwm', mae'n debyg.
Ti'n deud Surf Music, dwi'n deud Surf Rock. Dio'm yn broblem.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Re: sin roc gymraeg

Postiogan Nei » Iau 14 Ebr 2011 9:44 am

Yn gwmws Ramirez. Mae Jen jeniro, Yr Ods a'r Niwl i gyd yn fandiau 'Gitar'. nagyn, dyn nhw ddim yn fandie roc trwm, ond anamal ma roc trwm byth yn y gwobre rap, falle bod y Rei a Gola Ola wedi chwifio'r faner dros roc trwm yn ddiweddar. Jen Jeniro - Roc seicadelic. Y niwl - Syrff Roc ac Yr Ods - Synth Roc.

Yn hytrach na hollti blew am is-genres o roc, beth am holi ble ma'r geroddiraeth amgen rap/dawns? A pryd ma Llwybr Llaethog am gael gwobr cyfraniad oes?
Me meus nemed naou miz da roul va yaounkiz...
Rhithffurf defnyddiwr
Nei
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 235
Ymunwyd: Llun 27 Hyd 2003 6:37 pm
Lleoliad: Pontypridd

Re: sin roc gymraeg

Postiogan Khmer » Iau 14 Ebr 2011 10:31 am

Pwynt da am Ll Ll Nei. Ond wnathon nhw ddim rhyddau box set o'i cerddoriaeth naddo ;-)
Ma' nhw'n parhau I gigio'n aml, creu a rhyddhau cerddoriaeth ac oedd ei album diwethaf nhw 'Chwaneg' yn wych gyda'r trac hyfryd 'Ar Fy Llw' da Lleuwen Steffan arno. Sain meddwl mod i'n hollti blew am y busnes Roc 'ma'. Does un o'r bands uchod Wedi galw'i hunen yn fand roc. Fel rhywun sy'n dwli ar roc yng nhwir ystyr y gair dyw e ddim yn neud synwyr I Fi.ond na fe
Khmer
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Mer 29 Medi 2010 12:42 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron