Mr Huw - Hud a Llefrith

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Mr Huw - Hud a Llefrith

Postiogan copa » Mer 25 Maw 2009 12:22 pm

ARTIST: mr.huw
ALBWM: HUD A LLEFRITH
LABEL: COPA CD 006
DYDDIAD RYDDHAU: DYDD LLUN 30ain MAWRTH

Albwm newydd sy’n crwydro i lefydd tywyll mr huw

Ar ôl i’r ffans glywed blas o’r albwm newydd gyda’r trac Canibals a Rhyw mae Copa’n falch i gyflwyno Hud a Llefrith, albwm newydd dyfeisgar a thywyll yr anghydffurfiwr mr.huw (Huw Owen). Bydd lansiad swyddogol i’r albwm yng Nghlwb Ifor Bach Caerdydd ar Fawrth 28ain ac yn yr Anglesey, Caernarfon ar Ebrill 3ydd.

Wedi’i gynhyrchu a’i recordio ar beiriant 8 trac gan mr huw yn “nhywyllwch iard esgyrn Nant Peris” ac “ystafell waed a rhyw Caernarfon”, mae Hud a Llefrith yn cydweddu storïau tywyll dros felodïau bywiog a hapus. Mae’r albwm yn ddilyniant arbennig i Llond Lle o Hwrs a Lladron clodwiw a ryddhawyd yn 2007.

Unwaith eto mae mr huw yn trin materion pob dydd ac yn creu delweddau cryf am farwoldeb, sef prif thema’r albwm hwn. Er hyn, dywedodd Huw,
“Er bod marwoldeb yn chwarae rhan fawr ar yr albwm dwi'n cysidro Hud a Llefrith i fod yn albwm positif. Dwi wastad wedi bod yn un am ysgrifennu am bethau tywyll. Mae'r ymennydd a’r dychymyg yn crwydro i mewn i lefydd na ddylen nhw weithiau, neu i lefydd y dylen nhw!”

Mae mr.huw yn herio genre ac yn gwthio ffiniau gan gyfuno a threfnu seiniau’n effeithiol gyda chryn ddychymyg a mynegiant cerddorol crefftus. Mae’n cyflwyno curiadau electronig, noeth ac weithiau hypnotig. Ond geiriau, storïau a delweddau mr huw a ddaw a’i dalent i’r amlwg.

Dywedodd y cyflwynydd BBC Radio 1, Bethan Elfyn,
“Mae Mr Huw yn dipyn o gymeriad - hiwmor sych a cherddor profiadol tu hwnt heb sôn am ei farddoni a'r defnydd creadigol o’r geiriau hollol nuts. Mr Huw di'r peth agosaf sy’ gynnon ni yng Nghymru i’r ‘anti-folk scene’, caneuon syml ar yr olwg gyntaf, ond sy'n cuddio tywyllwch mawr tu ôl i’r hiwmor - ydi mae'n codi ofn arna i ‘chydig bach ac wedyn fydda i’n chwerthin yn nerfus - dyna'r berthynas sy’ gen i â Mr Huw!”

Bydd Hud a Llefrith ar werth o ddydd Llun 30ain o Fawrth. Mae hefyd yn bosib ei brynu’n uniongyrchol o Sain, http://www.sainwales.com, neu yn ddigidol drwy i-tunes. Caiff yr albwm ei ddosbarthu gan Sain yng Nghymru a thrwy Proper yng ngweddill Prydain.

Rhestr caneuon:
1. Hunanladdiad
2. Petha Bach
3. Ffrind Gora Marw
4. Ofn Bod Ofn
5. Y Dyn, Y Chwedl
6. Mi Nath i Chdi Betha Drwg
7. Canibals a Rhyw
8. Esgyrn Glân
9. Ar Dân
10. Stori Drist
11. Nid Menyn yw Popeth Melyn
12. Hud a Llefrith
copa
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 28
Ymunwyd: Mer 30 Mai 2007 11:33 am

Re: Mr Huw - Hud a Llefrith

Postiogan copa » Mer 25 Maw 2009 1:37 pm

tracks oddi ar yr albym newydd yma
copa
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 28
Ymunwyd: Mer 30 Mai 2007 11:33 am

Re: Mr Huw - Hud a Llefrith

Postiogan Ar Mada » Iau 26 Maw 2009 6:02 pm

Methu cal "Ma gen i ffrind gora....ma di ma-a-arw....." all o mhen!

Shot!
Cimwch?
Rhithffurf defnyddiwr
Ar Mada
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 90
Ymunwyd: Maw 22 Meh 2004 10:18 pm
Lleoliad: Mewn weiran

Re: Mr Huw - Hud a Llefrith

Postiogan mr huw » Gwe 03 Ebr 2009 6:35 am

mr huw 'hud a llefrith' hefyd ar gael o itunes erbyn hyn.
i can never cum on an empty stomch, unless it's someone else's.
Rhithffurf defnyddiwr
mr huw
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 333
Ymunwyd: Sul 12 Chw 2006 12:30 pm
Lleoliad: up to my nut in guts.

Re: Mr Huw - Hud a Llefrith

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 03 Ebr 2009 8:42 am

Ar Mada a ddywedodd:Methu cal "Ma gen i ffrind gora....ma di ma-a-arw....." all o mhen!

Shot!


Na finne chwaeth! Es i Gwasg Gomer yn Llandusyl ddoe i brynu'r CD, ond dim ar gael yno. Dim ond cd's corau, John ac Alun ayb ma nhw'n stocio erbyn hyn. Caerfyrddin neu itunes amdani felly. Dyw hi ddim ar Sebon eto o'r hyn allai weld...
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Mr Huw - Hud a Llefrith

Postiogan mr huw » Llun 13 Ebr 2009 9:14 am

i can never cum on an empty stomch, unless it's someone else's.
Rhithffurf defnyddiwr
mr huw
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 333
Ymunwyd: Sul 12 Chw 2006 12:30 pm
Lleoliad: up to my nut in guts.

Re: Mr Huw - Hud a Llefrith

Postiogan mr huw » Maw 14 Ebr 2009 12:06 pm

i can never cum on an empty stomch, unless it's someone else's.
Rhithffurf defnyddiwr
mr huw
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 333
Ymunwyd: Sul 12 Chw 2006 12:30 pm
Lleoliad: up to my nut in guts.

Re: Mr Huw - Hud a Llefrith

Postiogan mr huw » Maw 21 Ebr 2009 10:30 am

Sesiwn Radio Wales mr huw

cliciwch ar y linc isod a gwrandewch ar sesiwn mr huw ar radio wales. wedi ei recordio yn fyw yn y 'fliter rooms' yn wrecsam gallwch glywed 'ofn bod ofn', 'dwi ddim isho' a 'hunanladdiad'.

http://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/b0 ... 9_04_2009/
i can never cum on an empty stomch, unless it's someone else's.
Rhithffurf defnyddiwr
mr huw
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 333
Ymunwyd: Sul 12 Chw 2006 12:30 pm
Lleoliad: up to my nut in guts.

Re: Mr Huw - Hud a Llefrith

Postiogan dimdiolch » Maw 21 Ebr 2009 9:26 pm

Fi'n gorfod prynnu hwn yn steddfod. Fydd e' ar werth yn yr Urdd? Neu rhywle arall yng Nghaerdydd cyn hwnna?
www.myspace.com/breichiauhir
www.twitter.com/breichiauhir
Rhithffurf defnyddiwr
dimdiolch
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 53
Ymunwyd: Llun 14 Ion 2008 11:44 am
Lleoliad: Caerdydd

Re: Mr Huw - Hud a Llefrith

Postiogan mr huw » Mer 22 Ebr 2009 10:55 am

dylia bod o ar werth yn spillers. mae o ar gwefan y siop eniwe.
i can never cum on an empty stomch, unless it's someone else's.
Rhithffurf defnyddiwr
mr huw
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 333
Ymunwyd: Sul 12 Chw 2006 12:30 pm
Lleoliad: up to my nut in guts.

Nesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron