Dwi'n conffiwsd. Ai'r sefyllfa yw hyn?
Mae modd prynu tocynnau nosweithiol i fynd i MaesB (gigs yn unig) sy'n costio Sad: £12, Llun: £7.50, Maw: £7.50, Mer: £12, Iau: £12, Gwen: £12, Sad: £12
Mae modd prynu tocyn cyfansawdd (Gigs MaesB, gwersylla maes Ieuenctid a Maes Steddfod) sy'n costio Sad-Sad £100, Sul-Sad £90, Llun-Sad £85, Mawr-Sad £75, Mer-Sad £65, Iau-Sad £50, Gwen-Sad £35, Sad £16.
Ond does dim modd prynu tocyn gwersylla yn unig yn y maes Ieuenctid?? Fi'n cael mynediad i faes y steddfod am ddim beth bynnag (gweithio trwy'r wythnos), a fi am fynd i Maes C rhai nosweithiau, Maes B rhai nosweithiau a gigs Cymdeithas yr Iaith rhai nosweithiau, felly pam fod rhaid i fi dalu am fynediad i maes y steddfod a maes b bob nos pan nad ydw i am fynd??? Ac i wneud pethe'n waeth, llynedd wnes i aros mewn pabell ar y maes carafannau, ond does dim lle eleni, felly ble dwi am aros?? Yn y car glei!